Enlli Lodge

Barmouth, North Wales Coast

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £676 yr wythnos
  • £97 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pwll nofio
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Sorry, infants (aged under 2) are not allowed at this property
  • Sorry, children (aged between 2 and 17) are not allowed at this property
  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r llety hunan-ddarpar mawr hwn yn y Bermo yn cynnig encil hyfryd i 2, gyda thwb poeth, a golygfeydd o’r mynyddoedd a’r môr, gan sicrhau eich bod chi’n gallu ymlacio’n llwyr. Mae Enlli Lodge o fewn pellter cerdded i draeth tywod hir, ac mae wedi’i leoli ar arfordir Gogledd Cymru, llai na milltir o bentref Tal-y-bont sydd â thafarn, siop a bwyty. Ymunwch â’r Llwybr Arfordirol o’r stepen drws, mwynhewch siopau, bwytai a chaffis hynod tref glan môr y Bermo 4.5 milltir i’r de, neu mae Safle Treftadaeth y Byd Castell Harlech 7 milltir i’r gogledd. Wedi ei osod o fewn ei ardd amgaeedig ei hun, dyma’r lle perffaith i gyplau sy’n edrych am wyliau tawel ger y môr yng Ngogledd Cymru.    

Gyda nifer o barciau gwyliau i amlygu poblogrwydd a harddwch yr arfordir gwych hwn, mae Enlli Lodge yn cynnig rhywbeth gwahanol; y cyfle i fwynhau y lleoliad arbennig hwn gyda'r fantais o gael eich gwagle personol eich hun, y tu mewn a thu allan, sy'n rhoi teimlad o breifatrwydd. Fel bonws ychwanegol, os hoffech drafeilio gyda trên, mae llinell reilffordd Arfordir y Cambrian yn pasio drwy'r cae tu ôl yr ardd ac yn stopio yn yr orsaf yn Talybont, lai na milltir i ffwrdd. 

Llawr Gwaelod

Gyda gwres o dan y llawr drwyddo draw, mae’r porthdy croesawgar hwn yn cynnwys lolfa, cegin a man bwyta mawr cynllun agored. Er bod y porthdy hwn ar gyfer 2 berson, mae ganddo’r cyfleusterau i ddiddanu 2 o westeion ychwanegol yn ystod y dydd. Mae hyn yn cynnwys digon o le i 4 person eistedd yn y lolfa, wrth y bwrdd bwyta, ar ddodrefn y teras ac yn y twb poeth. 

Mae’r gegin wedi’i gosod yn llawn ar hyd wal gefn y lolfa, ac mae’n cynnwys oergell/rhewgell, microdon, peiriant golchi dillad, peiriant golchi llestri, sinc, hob a ffwrn. O ffenestr y gegin, mae golygfeydd hyfryd o fynyddoedd y Rhinogydd. Mae gan y man bwyta fwrdd derw soled traddodiadol a phedair cadair, ac mae golau’n hongian yn isel uwch ei ben.

Yn y lolfa, mae llawr derw, lle tân cerrig Cymreig gyda fflam ffug a basged tân, teledu 50” gyda Freeview, soffa a 2 gadair ledr. O’r drysau Ffrengig, gallwch weld eto y golygfeydd o fynyddoedd y Rhinogydd wrth iddynt redeg ochr yn ochr â’r môr tuag at aber afon Mawddach yn y Bermo a Chadair Idris. Mae’r olygfa o ffenestr y lolfa yn rhoi golygfeydd di-ball, fwy neu lai, o Fôr Iwerddon o fewn Bae Ceredigion.   

O’r ystafell wely en-suite ym mhen blaen y porthdy, mae golygfeydd hyfryd o’r môr a’r arfordir yn estyn tuag at Dyddewi. Mae gwely dwbl derw yma gyda phâr o fyrddau bob ochr iddo, cist ddillad a chwpwrdd dillad wedi’i osod. Yn yr ystafell gawod en-suite fawr, mae cawod ddwbl fawr, tŷ bach a basnau twin math Belfast o fewn uned ymbincio. Gellir cael mynediad i’r ystafell gawod hefyd drwy’r ystafell gotiau yng nghefn y bwthyn (gyda mynediad i’r patio a’r twb poeth hefyd).

Gardd

Mae’r llety hunan-ddarpar hwn yn y Bermo wedi’i leoli yn ei ardd a’i batio amgaeedig ei hunan, sy’n ei wneud yn ddelfrydol i anifeiliaid anwes. Mae ferandas y tu allan ar hyd ochr orllewinol a deheuol y porthdy, a dyma’r mannau gorau i eistedd pan fydd yr haul allan yn ystod y dydd. Ynghyd â chadeiriau a mainc esmwyth ratan, mae barbeciw wedi’i adeiladu’n gadarn fel pe bai o gerrig, a gallwch ei ddefnyddio i goginio bwyd, neu i’ch cadw’n gynnes gyda’r nos, fel llosgwr coed. Mae’r holl danwydd angenrheidiol wedi’i ddarparu a’i storio gerllaw.

Mae man eistedd arall i gael (mae’r mynediad iddo drwy’r grisiau o’r teras sydd yng nghefn y porthdy), ac yma, mae golygfeydd panoramig i’w mwynhau o’r mynyddoedd yn ogystal â Môr Iwerddon.

Mae’r twb poeth wedi’i leoli ym mhen gogleddol y porthdy, ac mae golygfeydd hyfryd o’r môr i’w gweld yno hefyd.

Gwybodaeth ychwanegol

·         Bydd pecyn i’ch croesawu yn cynnwys te, coffi a siwgr, cacen gartref a jamiau a wnaed yn lleol.

·         Gwres a thrydan yn gynwysedig.

·         Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.

·         Darperir 1 sychwr gwallt.

·         Darperir coed ar gyfer y stôf llosgi coed y tu allan.

·         Wi-fi ar gael.

·         Dim ysmygu y tu mewn i’r llety.

·         Croesewir hyd at 2 anifail anwes am ddim – gadewch inni wybod wrth archebu.

    Dim plant na babis. 

·         Lle parcio â giatiau ar gyfer hyd at 2 car.

·         Mae’r eitemau ychwanegol yn cynnwys:
Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, cadachau llestri a/neu sgwrwyr newydd, ffoil a glynlen/cling ffilm.
Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn o bapur ym mhob tŷ bach.

Lleoliad

Mae gan y porthdy arfordirol croesawgar hwn leoliad preifat ym mhen pellaf ystâd breifat, sydd â golygfeydd o’r bryniau y tu ôl iddo a golygfeydd ardderchog dros Fae Ceredigion a Phen Llŷn i’r tu blaen iddo. Ewch am dro bach, a dewch ar draws traeth anhygoel ar arfordir Gogledd-orllewin Cymru – cyrchfan boblogaidd ar gyfer unrhyw un sy’n chwilio am wyliau ymlaciol ger y môr. Mae nifer o barciau gwyliau yn yr ardal sy’n amlygu poblogrwydd a harddwch y rhan arbennig yma o’r arfordir, ac mae Enlli Lodge yn cynnig rhywbeth gwahanol: y cyfle i fwynhau’r lleoliad arbennig hwn gyda’r budd o gael eich man personol eich hunan, y tu allan a’r tu mewn, yn ogystal â llawer mwy o breifatrwydd nag y gallai parc gwyliau ei gynnig.

Mae amrywiaeth o gaffis, bwytai, siopau a hefyd archfarchnad i gael 4.5 milltir i ffwrdd yn Abermo, ac mae llety hunan-ddarpar Enlli Lodge hefyd 0.7 milltir i ffordd o bentref Tal-y-bont. Mae’r cyfleusterau sydd yn y pentref yn cynnwys bwyty a darparwr prydau parod Eidalaidd Tony, yn ogystal â thafarn yr Ysgethin Inn sy’n fwyty tafarn lleol da ar ôl diwrnod o gerdded ar y Llwybr Arfordirol neu feicio ar Lwybr Mawddach. Hyd yn oed yn agosach na’r pentref, mae’r bwyty a’r bar enwog Nineteen.57, sy’n llai na hanner milltir o’r porthdy. Dim ond 2 filltir i ffwrdd mae’r bwyty pysgod a sglodion NorBar, ger Llanaber, ac mae’n werth ymweld ag Ael y Bryn yn Nyffryn Ardudwy (1.4 milltir) a gwesty’r George III ym Mhenmaenpwl (11.5 milltir).

Ymysg yr atyniadau poblogaidd yn yr ardal, mae gan Abermo draeth Baner Las gwych gyda golygfeydd anhygoel o’r mynyddoedd a theithiau cerdded hyfryd ar hyd aber Mawddach. Mae’n werth ymweld â phentref Eidalaidd Portmeirion a Phorthmadog lle mae Rheilffordd Eryri. Yn ogystal, mae Castell Harlech sy’n Safle Treftadaeth y Byd ac sy’n edrych allan dros un o gyrsiau golff gorau’r byd, a’r ganolfan beicio mynydd fyd-enwog yn Nghoed-y-Brenin ger Dolgellau. Mae rhywbeth i bawb, oll o fewn cylch o 20 milltir.

Mae’r llety hunan-ddarpar hwn yn Abermo hefyd wedi’i leoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri – paradwys i gerddwyr a dringwyr. Mae’n cynnig rhywbeth at ddant pawb, boed yn weithgareddau chwaraeon, yn wyliau ymlaciol wrth archwilio’r traethau tywod, neu’n wyliau gyrru hamddenol i fwynhau’r golygfeydd trawiadol sydd ym mhob man yn Eryri.

Traethau

  • Traeth Tal-y-bont – darn hardd o dywod heb fod yn bell o’ch porthdy. 0.3 milltir.
  • Traeth Bennar, Dyffryn Ardudwy – traeth tywod hyfryd gydag ambell dwyn tywod. Rhagorol ar gyfer syrffio ac mae’n un o’r lleoedd gorau yng Ngwynedd i gael tonnau da cyson. Mae parcio gerllaw a llwybr cerdded bordiog. 2 filltir.
  • Traeth Abermo – traeth tywod sydd wedi ennill statws y Faner Las. 4.5 milltir.
  • Traeth Harlech Beach – traeth tywod. 7 milltir.

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Cymru – gallwch ymuno â hwn o stepen eich drws. Ewch i’r dde tuag at Draeth Bennar ac i’r gogledd, neu i’r chwith tuag at Draeth Abermo a’r de. 0 milltir.
  • Copaon Y Llethr a Diffwys – Dyffryn Ardudwy – taith gerdded ganolradd / caled. 1.4 milltir.
  • Taith gerdded banorama – Abermo – addas i bob oedran. 4.5 milltir.
  • Llwybr Mawddach – Abermo i Ddolgellau – addas i bob oedran – cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn. 4.5 milltir.
  • Cadair Idris (mynydd yn Eryri) – 3 prif lwybr, a’r agosaf yn Nolgellau (12 milltir).

Beicio

Llwybr Mawddach – Fel y cyfeiriwyd ato uchod. 4.5 milltir.

Pysgota

  • Tripiau ar gychod pysgota ar y môr o Abermo. 4.5 milltir.

Golff

  • Clwb Golff Harlech – Royal St. David’s – cwrs golff 18 twll. 7 milltir.
  • Clwb Golff Dolgellau – cwrs golff 9 twll. 14.5 milltir.

Marchogaeth

  • Canolfan Merlota Fferm Bwlchgwyn – addas i bawb sy’n hŷn na 4 oed. 5 milltir ar long neu drên stem (ar agor o wyliau hanner tymor Ebrill tan fis Medi), 17 milltir ar y ffordd.