- £563 yr wythnos
- £80 y noson
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Cawod
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r llety hunan-ddarpar mawr hwn yn y Bermo yn cynnig encil hyfryd i 2, gyda thwb poeth, a golygfeydd o’r mynyddoedd a’r môr, gan sicrhau eich bod chi’n gallu ymlacio’n llwyr. Mae Enlli Lodge o fewn pellter cerdded i draeth tywod hir, ac mae wedi’i leoli ar arfordir Gogledd Cymru, llai na milltir o bentref Tal-y-bont sydd â thafarn, siop a bwyty. Ymunwch â’r Llwybr Arfordirol o’r stepen drws, mwynhewch siopau, bwytai a chaffis hynod tref glan môr y Bermo 4.5 milltir i’r de, neu mae Safle Treftadaeth y Byd Castell Harlech 7 milltir i’r gogledd. Wedi ei osod o fewn ei ardd amgaeedig ei hun, dyma’r lle perffaith i gyplau sy’n edrych am wyliau tawel ger y môr yng Ngogledd Cymru.
Gyda nifer o barciau gwyliau i amlygu poblogrwydd a harddwch yr arfordir gwych hwn, mae Enlli Lodge yn cynnig rhywbeth gwahanol; y cyfle i fwynhau y lleoliad arbennig hwn gyda'r fantais o gael eich gwagle personol eich hun, y tu mewn a thu allan, sy'n rhoi teimlad o breifatrwydd. Fel bonws ychwanegol, os hoffech drafeilio gyda trên, mae llinell reilffordd Arfordir y Cambrian yn pasio drwy'r cae tu ôl yr ardd ac yn stopio yn yr orsaf yn Talybont, lai na milltir i ffwrdd.
Llawr Gwaelod
Gyda gwres o dan y llawr drwyddo draw, mae’r porthdy croesawgar hwn yn cynnwys lolfa, cegin a man bwyta mawr cynllun agored. Er bod y porthdy hwn ar gyfer 2 berson, mae ganddo’r cyfleusterau i ddiddanu 2 o westeion ychwanegol yn ystod y dydd. Mae hyn yn cynnwys digon o le i 4 person eistedd yn y lolfa, wrth y bwrdd bwyta, ar ddodrefn y teras ac yn y twb poeth.
Mae’r gegin wedi’i gosod yn llawn ar hyd wal gefn y lolfa, ac mae’n cynnwys oergell/rhewgell, microdon, peiriant golchi dillad, peiriant golchi llestri, sinc, hob a ffwrn. O ffenestr y gegin, mae golygfeydd hyfryd o fynyddoedd y Rhinogydd. Mae gan y man bwyta fwrdd derw soled traddodiadol a phedair cadair, ac mae golau’n hongian yn isel uwch ei ben.
Yn y lolfa, mae llawr derw, lle tân cerrig Cymreig gyda fflam ffug a basged tân, teledu 50” gyda Freeview, soffa a 2 gadair ledr. O’r drysau Ffrengig, gallwch weld eto y golygfeydd o fynyddoedd y Rhinogydd wrth iddynt redeg ochr yn ochr â’r môr tuag at aber afon Mawddach yn y Bermo a Chadair Idris. Mae’r olygfa o ffenestr y lolfa yn rhoi golygfeydd di-ball, fwy neu lai, o Fôr Iwerddon o fewn Bae Ceredigion.
O’r ystafell wely en-suite ym mhen blaen y porthdy, mae golygfeydd hyfryd o’r môr a’r arfordir yn estyn tuag at Dyddewi. Mae gwely dwbl derw yma gyda phâr o fyrddau bob ochr iddo, cist ddillad a chwpwrdd dillad wedi’i osod. Yn yr ystafell gawod en-suite fawr, mae cawod ddwbl fawr, tŷ bach a basnau twin math Belfast o fewn uned ymbincio. Gellir cael mynediad i’r ystafell gawod hefyd drwy’r ystafell gotiau yng nghefn y bwthyn (gyda mynediad i’r patio a’r twb poeth hefyd).
Gardd
Mae’r llety hunan-ddarpar hwn yn y Bermo wedi’i leoli yn ei ardd a’i batio amgaeedig ei hunan, sy’n ei wneud yn ddelfrydol i anifeiliaid anwes. Mae ferandas y tu allan ar hyd ochr orllewinol a deheuol y porthdy, a dyma’r mannau gorau i eistedd pan fydd yr haul allan yn ystod y dydd. Ynghyd â chadeiriau a mainc esmwyth ratan, mae barbeciw wedi’i adeiladu’n gadarn fel pe bai o gerrig, a gallwch ei ddefnyddio i goginio bwyd, neu i’ch cadw’n gynnes gyda’r nos, fel llosgwr coed. Mae’r holl danwydd angenrheidiol wedi’i ddarparu a’i storio gerllaw.
Mae man eistedd arall i gael (mae’r mynediad iddo drwy’r grisiau o’r teras sydd yng nghefn y porthdy), ac yma, mae golygfeydd panoramig i’w mwynhau o’r mynyddoedd yn ogystal â Môr Iwerddon.
Mae’r twb poeth wedi’i leoli ym mhen gogleddol y porthdy, ac mae golygfeydd hyfryd o’r môr i’w gweld yno hefyd.
Gwybodaeth ychwanegol
· Bydd pecyn i’ch croesawu yn cynnwys te, coffi a siwgr, cacen gartref a jamiau a wnaed yn lleol.
· Gwres a thrydan yn gynwysedig.
· Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
· Darperir 1 sychwr gwallt.
· Darperir coed ar gyfer y stôf llosgi coed y tu allan.
· Wi-fi ar gael.
· Dim ysmygu y tu mewn i’r llety.
· Croesewir hyd at 2 anifail anwes am ddim – gadewch inni wybod wrth archebu.
· Lle parcio â giatiau ar gyfer hyd at 2 car.
· Mae’r eitemau ychwanegol yn cynnwys:
Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, cadachau llestri a/neu sgwrwyr newydd, ffoil a glynlen/cling ffilm.
Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn o bapur ym mhob tŷ bach.