Beudy Taicroesion

Barmouth, North Wales Coast

  • 3 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £474 yr wythnos
  • £68 y noson
  • 3 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Os mai traethau Baner Las, teithiau cerdded trawiadol a rownd o golff gyda golygfeydd o gestyll a môr yw eich syniad chi o wyliau yng Nghymru yna hwn yw’r bwthyn i chi. 5 munud ar droed at draeth euraidd, mae’r bwthyn hwn ar arfordir Gogledd Cymru mewn lleoliad delfrydol am ychydig heddwch a llonyddwch tra’i fod hefyd o fewn cyrraedd i Bermo gyda’i siopau, bwytai ayb.

Dewch a’ch beiciau am brofiad beicio mynydd gwych gerllaw, neu, am ddiwrnod mwy hamddenol, neidiwch ar y fferi o Bermo i'r Friog, teithiwch ar drên stêm Y Friog neu ymwelwch â phentref Eidalaidd Portmeirion. Ar ôl diwrnod llawn, ymlaciwch yn yr ardd i fwynhau golygfa’r machlud ar y môr.

Llawr Gwaelod

Ceir cegin gyflawn a modern yn y bwthyn hwn (cynnwys microdon ac oergell/rhewgell) a bwrdd bwyd i bedwar. Ystafelloedd gwely clud gyda golygfeydd o’r ardd - un dwbl ac un twin. Ystafell ymolchi foethus gyda chawod uwchben y bath.

Llawr Cyntaf

Lolfa hyfryd ac eang gyda thrawstiau ar hyd y nenfwd a golygfeydd gwych o’r môr. Teledu (sianeli am ddim), DVD a Radio/CD yn gynwysedig.

Gardd

Gardd gyda phatio, dodrefn a set barbeciw. Man delfrydol i fwynhau golygfeydd cefn gwlad a glan môr.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Te, Coffi, Siwgr, Llaeth a Chacen i’ch croesawu.
  • Darperir llyfrau, gemau a gwybodaeth am bethau i’w gwneud yn lleol yn y bwthyn.
  • Dillad gwely, tyweli a sychwr gwallt yn gynwysedig
  • Trydan a gwres canolog olew yn gynwysedig
  • Cot, cadair uchel a giât ar gyfer y grisiau ar gael ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
  • Golchdy i’w rannu yn yr ardd gyda pheiriant golchi a sychwr dillad
  • Llyfrau, gemau a gwybodaeth am bethau i’w gwneud yn lleol
  • Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes
  • Anaddas i bobl fethedig
  • Parcio am ddim, 1-2 car

Lleoliad

Mae llety hunan-ddarpar Beudy Taicroesion wedi’i leoli yn Llanaber, filltir o dref glan y môr hyfryd Bermo ar arfordir gogledd Cymru. Yn gyfleus o agos at Bermo (siopau, bwytai ac ati) mae’r bwthyn hefyd yn manteisio ar y ffaith fod ganddo un droed yng nghefn gwlad, gyda llwybrau yn arwain i fyny i’r bryniau yn dechrau o’r rhiniog.

Gellir ymuno â Llwybr Mawddach, sy’n croesi pont hardd Bermo, o fewn milltir i’r bwthyn. Dywedwyd “nad oes cystal taith gerdded â’r un o Bermo i Ddolgellau, oni bai am yr un o Ddolgellau i Bermo”. Mae golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri ac aber Mawddach, a dyma brofiad na ddylech ei golli, yn enwedig adeg machlud haul.

10 milltir i’r gogledd ar hyd yr arfordir, mae pentref hardd Harlech, sydd â chwrs golff enwog yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda'i leoliad bendigedig, a Chastell Harlech yn edrych i lawr arno. I feicwyr mynydd brwd, mae canolfan feicio mynydd Coed-y-Brenin hefyd o fewn 10 milltir.

Gallwch groesi ar gwch o Bermo i’r Friog, ac mae trên stêm y Friog yn cynnig diwrnod arall gwych, gyda’r orsaf ond ychydig funudau o fwthyn Beudy Taicroesion. Os oes gennych amser, bydd hefyd yn werth ymweld â phentref Eidalaidd Portmeirion, a gan fod Parc Cenedlaethol Eryri mor agos, gallech hefyd ystyried cerdded i ben yr Wyddfa.

Traethau

Traeth Bermo – traeth tywod gyda gwobr Baner Las. Milltir

Traeth y Friog – traeth tywod. 3 milltir (gan groesi ar gwch neu ar drên stêm)

Morfa Dyffryn – traeth a thwyni tywod. 5 milltir

Harlech – traeth tywod. 9 milltir

Cerdded

Llwybr Panorama – Bermo – addas i bob oed. Milltir o’r bwthyn.

Llwybr Mawddach – Bermo - addas i bob oed – cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn. Milltir

Copaon Y Llethr a Diffwys – Dyffryn Ardudwy – taith ganolig / egniol. 4 Milltir o’r bwthyn.

Llwybr Newydd Cynwch (New Precipice Walk) – Llanelltyd - addas i bob oed. 9 Milltir o’r bwthyn.

Cadair Idris (mynydd) – 3 prif lwybr, gyda’r agosaf o Ddolgellau (11 milltir) a Minffordd (18 milltir).

Beicio

Llwybr Mawddach – fel uchod

Canolfan Feicio Mynydd Coed-y-Brenin – Llwybrau addas i bob oed. 14 milltir

Golff

Clwb Golff Harlech – Royal St. David’s – cwrs golff 18 twll. 9 milltir

Clwb Golff Dolgellau – cwrs golff 9 twll. 11 milltir

Marchogaeth Ceffylau

Canolfan Farchogaeth Fferm Bwlchgwyn - addas i unrhyw un dros 4 oed. 2 filltir ar gwch neu drên stêm (Ebrill – Medi + hanner tymor), 14 milltir ar y ffordd.