- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
- £535 yr wythnos
- £76 y noson
- 7 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 4 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Bwthyn arfordirol llawn cymeriad, lle caiff atgofion eu creu. Mae’r bwthyn hwn yn cynnig popeth y byddech yn ei ddymuno ar eich gwyliau yng Nghymru. 5 munud ar droed i draeth baner las, gerddi hudol yn edrych dros y môr, llwybrau cerdded hardd ar hyd yr aber a lleoliad perffaith i fanteisio ar yr holl atyniadau ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Ymlwybrwch ar hyd y prom at y siopau/bwytai yn Bermo, mwynhewch deithiau ar y trenau stêm a’r cychod neu ewch i ymweld â’r cestyll lleol a llawer mwy. Paradwys i gerddwyr gyda llwybrau i’r mynyddoedd o’r bwthyn ac yn agos i Barc Cenedlaethol Eryri.
Llawr Gwaelod
Ceir ystafell fyw helaeth ym mwthyn gwyliau Taicroesion, yn cynnwys trawstiau, pentan urddasol a theledu. Ceir cornel glud mewn ystafell ar wahân gyda theledu, ystafell fwyta a chegin gyflawn yn cynnwys microdon, oergell/rhewgell a golchwr llestri.
Llawr Cyntaf
Mae gan y bwthyn ystafell wely ddwbl helaeth gyda gwely sengl ychwanegol. Ceir dwy ystafell twin hefyd yn ogystal ag ystafell ymolchi gyda thoiled a chawod uwchben y bath.
Gardd
'Gerddi hudolus yn edrych allan ar y môr'. 'Mae’r ardd yn dir chwedlonol i blant bach chwarae ynddi'. 'Gardd flaen brydferth yn wynebu’r de'. Dim ond ychydig o’r dyfyniadau gan westai fu’n aros yn y bwthyn hyfryd hwn. Darperir patio, dodrefn a set barbeciw ynghanol y blodau a’r planhigion.
Gwybodaeth Ychwanegol
Te, Coffi, Siwgr, Llaeth a Chacen i’ch croesawu.
Dillad gwely, tyweli a sychwr gwallt yn gynwysedig
Trydan a gwres canolog olew yn gynwysedig
2 deledu digidol, chwaraewr DVD, CD a Radio/casét
Ystafell golchi dillad i’w rhannu gyda pheiriant golchi a sychwr dillad. Toilet tu allan i'w gael drws nesaf i'r ystafell golchi.
Llyfrau, gemau a gwybodaeth am bethau i’w gwneud yn yr ardal
Dim ysmygu
Tanwydd i’r tân am bris, cyflenwad cyntaf am ddim
Anifeiliaid anwes - uchafswm o 1 ci (rhaid cadw ar dennyn). £25 yr anifail anwes, taladwy i’r perchennog wrth gyrraedd.
Digon o le parcio
Lleoliad
Mae bwthyn arfordirol Taicroesion wedi’i leoli yn Llanaber, filltir o Bermo ar arfordir gogledd Cymru, a ddim ond 5 munud o waith cerdded o draeth baner las anhygoel. Yn gyfleus o agos at Bermo (siopau, bwytai ac ati) mae’r bwthyn hefyd yn manteisio ar y ffaith fod ganddo un droed yng nghefn gwlad, gyda llwybrau yn arwain i fyny i’r bryniau yn dechrau o’r rhiniog.
Yna gellir ymuno â Llwybr Mawddach, sy’n croesi pont hardd Abermo, o fewn milltir i’r Bwthyn. Dywedwyd “nad oes cystal taith gerdded â’r un o Bermo i Ddolgellau, oni bai am yr un o Ddolgellau i Bermo”. Mae’r golygfeydd o fynyddoedd Eryri yn llifo i lawr aber Mawddach yn arbennig, profiad na ddylech ei golli, yn enwedig adeg machlud haul.
10 milltir i’r gogledd ar hyd yr arfordir, mae pentref hardd Harlech, sydd â chwrs golff enwog yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda'i leoliad bendigedig, gyda Chastell Harlech yn edrych i lawr arno. I feicwyr mynydd brwd, mae canolfan feicio mynydd Coed-y-Brenin hefyd o fewn 10 milltir.
Gallwch groesi ar gwch o Abermo i’r Friog, ac mae trên stêm y Friog yn cynnig diwrnod arall gwych, gyda’r orsaf ond ychydig funudau o fwthyn Taicroesion. Os oes gennych amser, bydd hefyd yn werth ymweld â phentref Eidalaidd Portmeirion, a gan fod Parc Cenedlaethol Eryri mor agos, gallech hefyd ystyried cerdded i ben yr Wyddfa.
Traethau
Traeth Bermo – traeth tywod gyda gwobr Baner Las. Milltir
Traeth y Friog – traeth tywod. 3 milltir (gan groesi ar gwch neu ar drên stêm)
Morfa Dyffryn – traeth a thwyni tywod. 5 milltir
Harlech – traeth tywod. 9 milltir
Cerdded
Llwybr Panorama – Bermo – addas i bob oed. Milltir o’r bwthyn.
Llwybr Mawddach – Bermo - addas i bob oed – cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn. Milltir
Copaon Y Llethr a Diffwys – Dyffryn Ardudwy – taith ganolig / egniol. 4 Milltir o’r bwthyn.
Llwybr Newydd Cynwch (New Precipice Walk) – Llanelltyd - addas i bob oed. 9 Milltir o’r bwthyn.
Cadair Idris (mynydd) – 3 prif lwybr, gyda’r agosaf o Ddolgellau (11 milltir) a Minffordd (18 milltir).
Beicio
Llwybr Mawddach – fel uchod
Canolfan Feicio Mynydd Coed-y-Brenin – Llwybrau addas i bob oed. 14 milltir
Golff
Clwb Golff Harlech – Royal St. David’s – cwrs golff 18 twll. 9 milltir
Clwb Golff Dolgellau – cwrs golff 9 twll. 11 milltir
Marchogaeth Ceffylau
Canolfan Farchogaeth Fferm Bwlchgwyn - addas i unrhyw un dros 4 oed. 2 filltir ar gwch neu drên stêm (Ebrill – Medi + hanner tymor), 14 milltir ar y ffordd.