Y bythynnod gorau a mwy

Gwel y Garn

Abersoch - North Wales Coast

Bwthyn mewn lleoliad hyfryd ym Mhenrhyn Llŷn yn agos at nifer o draethau. Bwthyn moethus sy'n caniatau anifeiliaid.
  • Cysgu 5 o bobl
  • 3 Ystafell wely
  • 2 Ystafell ymolchi
  • Derbyn 3 anifail anwes
  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
81864
£439 - £1002 yr wythnos *

Disgrifiad

Mae’r bwthyn gwyliau hyfryd hwn mewn lleoliad heddychlon a gwledig, yn edrych dros filltiroedd o gefn gwlad agored a mynydd Garn Fadryn ym Mhenrhyn godidog Llyn. Mae gwyliau hunan ddarpar yma yn golygu fod ganddoch draeth gwahanol i ymweld ag ef bob dydd gan ei fod o fewn cyrraedd hawdd i dros 20 o draethau hardd a childraethau. Mae’r bwthyn hwn yn caniatáu anifeiliaid, ac yn cynnwys llawer o’i nodweddion gwreiddiol. Mae wedi ei adnewyddu i safon andros o uchel er mwyn darparu moethusrwydd a chysur i westai.

Mae’r trawstiau derw, waliau cerrig, stôf losgi coed modern, gwres o dan y llawr a dodrefn derw chwaethus yn cynnig teimlad o ymlaciol tu hwnt. Mae Llwybr Arfordirol Llyn a Llwybrau Beicio Lôn Las yn agos at y bwthyn ac mae arfordir y rhan hwn o Ogledd Cymru yn wirioneddol arbennig.

Llawr Gwaelod

Mae’r bwthyn hunan ddarpar hwn ym Mhenrhyn Llyn yn cynnig cegin / ystafell fwyta / ystafell fyw fawr ar gynllwyn agored.

Mae’r gegin dderw eang yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch - popty trydan a hob, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri a micro-don. O’r ystafell fwyta gall gwesteion fwynhau golygfeydd o’r ardd ac mae’r ystafell fyw yn cynnwys soffas cyfforddus, stôf losgi coed chwaethus, gwres o dan y llawr a theledu/DVD/WI-FI sgrin fflat a chwaraewr CD.

Ystafell wely twin gyda golygfeydd godidog dros gefn gwlad agored, ac mae’r ystafell wely hon wedi ei dodrefnu’n chwaethus gyda dodrefn a llawr modern, derw.

Ystafell ymolchi – Mae gan yr ystafell ymolchi chwaethus hon ar y llawr gwaelod gawod isel, bath dwfn a thoiled. Basn ymolchi â chwpwrdd a rheilen gynhesu tywelion.

Mae’r ystafell iwtiliti yn cynnwys peiriant golchi dillad ac ardal i storio cotiau, esgidiau ayyb.

Llawr Gwaelod

Ensuite double bedroom overlooking garden and open farmland. The original low beams have been retained to enhance the character of the room which again benefits from oak furniture and flooring. The adjoining bathroom has a corner low level shower, WC, vanity unit and heated towel rail.

Ystafell wely ddwbl ensuite yn edrych dros yr ardd a’r tir fferm. Mae’r trawstiau isel wedi eu cadw i ychwanegu at gymeriad yr ystafell sydd hefyd yn cynnwys dodrefn a llawr derw. Mae gan yr ystafell ymolchi gawod isel yn y gornel, toiled, basn ymolchi â chwpwrdd a rheilen gynhesu tywel.

Ystafell wely ar ffurf galeri agored - i fyny ychydig o risiau eto (dros ffordd i’r ystafell ddwbl), yn ystafell wely sengl gyda thema forwrol. Mae’r ffenestri velux yn galluogi gwesteion i wylio machlud anhygoel yn ystod tywydd braf. Mae’r ystafell hon unwaith eto’n llawn cymeriad gyda tho yn gostwng a thrawstiau isel.

Gardd

Mae gan y bwthyn ardd heb ddim grisiau o gwbl sy’n caniatáu gwesteion o bob oed i fwynhau’r haul boreol o’r ardal batio. Gan nad oes goleuadau stryd, gellir gwylio’r haul yn machlud yn hyfryd dros y bryniau yn ystod rhai adegau o’r flwyddyn. Darperir barbeciw a dodrefn gardd a gan fod yr ardd yn gaeedig, mae’n le perffaith i blant chwarae ac ar gyfer anifeiliaid.

Mae gan y bwthyn gwyliau hwn ym Mhenrhyn Llyn ardal ddiogel i storio deunydd awyr agored fel beics a byrddau syrffio.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig. Logiau a deunydd cynnau tân cychwynnol yn gynwysedig ar gyfer y stôf losgi coed a gellir prynu mwy o’r ffermdy.
  • Lleiniau gwely a thywelion - Darperir yr holl leiniau gwely yn ogystal â thywelion dwylo a bath.
  • Caniateir anifeiliaid - Derbynnir hyd at 3 anifail am gost ychwanegol o £20.00 am bob anifail (i’w dalu i’r perchennog wrth gyrraedd.) Ni ddylid gadael yr anifeiliaid eu hunain yn y bwthyn ac ni chaniateir cŵn yn y cyntedd, ystafelloedd gwely nac ar y dodrefn.
  • Gellir darparu cot teithio, giât ar gyfer y grisiau a chadair uchel ar gais.
  • Ardal sortio y gellir ei gloi ar gyfer beics, byrddau syrffio, esgidiau cerdded ayyb.
  • Darperir WI-FI (dewch a’ch glinfwrdd/ ipad ayyb eich hunain).
  • Signal ffôn symudol – signal Orange a Vodaphone ond gall y signal tu mewn i’r tŷ fod yn gyfyngedig.

Nodweddion

  • Cysgu 5 o bobl
  • 3 Ystafell wely
  • 1 Gwely dwbl
  • 3 Gwely sengl
  • 2 Ystafell ymolchi
  • Derbyn 3 anifail anwes
  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Saturday newid
  • 5 o draeth
  • 3 milltir o dafarn
  • 3 o siop
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ar fferm weithredol
  • Parcio preifat
  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell
  • Dim ysmygu
  • Tywelion yn gynwysedig
  • Dim peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch
  • Cot symudol

Prisiau

Adolygiadau

The cottage was stunning, tastefully decorated and very clean. Our children enjoyed playing hide and seek all over the cottage and got into many nooks and crannies and didn't have an ounce of dust on them! We visited the usual places of Caernarfon and Snowdon exploring the great outdoors of North Wales. Our holiday was perfect.Emily from St Clears - 2nd May 2017
Had a great weekend away. First time on the Llyn Peninsula. Nia made us so welcome with tea and cake and lots of great advice on places to visit both for walking and eating. The cottage was spacious, very clean and cosy and in a quiet location with easy access to all parts of the peninsula. A great find! Saw seals off the coast of Morfa Nefyn. Great pub Ty Coch Inn on the sandSpencer Family from Cheshire - 15th November 2016
Welcoming. Cottage well equipped, comfortable and very dog friendly and local vet is excellent. Eating out is good and varied but you need a car. Large number of beaches but not all dog friendly. Lots of walks but some footpaths over grown so be prepared. Stay was great, helped by the weather,nothing else would have made it any better.Gus from Lockerbie - 25th June 2016
Relaxing trip in a beautiful cottage with all mod cons. The owners have made every effort with the decoration and facilities to make it conformable and stylish. Kitchen well equipped with all you could need. Lovely beach towns such as Abersoch and Aberdaron. Not far from Anglesey which is well worth a visit. Overall everything perfect, down to the little tented bedroom which my friends' daughter loved.Anne and Family - 30th March 2016
PerfectChristine from Lancashire - 21st October 2015

Map

Calendr

Rhagfyr 2018
SadSulLlunMawMerIauGwe
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031    
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Ionawr 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
   1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031 
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Chwefror 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
      1
2345678
9101112131415
16171819202122
232425262728 
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Mawrth 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
      1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
3031     
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Ebrill 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
27282930   
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Mai 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
    123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Mehefin 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930     
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Gorffennaf 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
  12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031  
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Awst 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
     12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31      
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Medi 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
 123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
282930    
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Hydref 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
   1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031 
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Tachwedd 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
      1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
30      
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis
Rhagfyr 2019
SadSulLlunMawMerIauGwe
 123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031   
Ddim ar gael
Ar gael
Dyddiad newid
Wedi dewis

Eitemau Ychwanegol

Holiday Extras

We've hand-picked a selection of Holiday Extras from trusted partners to make your holiday extra special. When you make your booking, you'll see all the Extras on offer at your chosen property and be able to add them to your holiday. Booking them in advance gives you more time to relax when you arrive, and remember - many of these offers are exclusive so you won’t find them anywhere else.

Attractions & Experiences

Rib Ride Boat Tours 10% off Anglesey Boat Tour

Book an unbeatable adventure with Wales’ best adventure boat tour company and get 10% off any trip.

Attractions & Experiences

Corris Mine Explorers 10% off Mine Exploration Tours

First excavated in 1836, Braich Goch Slate Mine closed around 40 years ago. Go underground and see first-hand the kind of conditions miners had to work in.

Food & Drink

Virgin Wines 12 Bottle Classic Wine Selection

This classic case oozes class and is perfect to give you various flavours from across the globe! Enjoy 2 bottles of each wine to encourage sharing or indulgence...

Normal price
£115.87

Price
£95.50

Food & Drink

Virgin Wines 12 Bottle Luxury Wine Selection

This 12 bottle case is packed full of wines to blow you away with flavours and complexities all round – a case guaranteed to impress all who get the pleas...

Normal price
£175.87

Price
£131.90

Attractions & Experiences

Cadw 20% I FFWRDD O AELODAETH CADW

Wrth fod yn aelod o Cadw, mi gewch fynediad diderfyn i dros 100 o safloedd hanesyddol ar draws Cymru.Ar ben hynny, mae aelodaeth Cadw yn cynnwys:50% i ffwrdd o ...

Food & Drink

Virgin Wines 6 Bottle Celebratory Wine Selection

A true Prosecco lover's case! No excuse is needed for this beautiful selection (so don’t let others tell you any different!). Start with the wonderful flo...

Normal price
£74.93

Price
£61.75

Food & Drink

Virgin Wines 6 Bottle Classic Wine Selection

This 6 bottle classic case is perfect for those wanting to try something of everything – carefully selected to incorporate crowd pleasers from across the ...

Normal price
£60.93

Price
£47.95

Travel & Transport

Europcar Car Hire

Europcar, our preferred car hire partner, are offering you great quality UK car hire at affordable prices. With our dedicated offer you will save up to 20%.

Food & Drink

Dineindulge Dineindulge - private dining service

Enjoy private dining in the comfort of your holiday property. Dineindulge offer a personal chef service with restaurant quality cuisine from only £25 per perso...

Food & Drink

Little Welsh Hamper Company Luxury Welsh Hampers

Enjoy free delivery on fantastic luxury Welsh hampers during your holiday

Pages

Ardal leol

Wedi ei leoli ar fferm weithiol yng nghanol Penrhyn Llŷn, mae bwthyn hunan ddarpar Gwel y Garn mewn man cyfleus gyda mynediad rhwydd i dros 20 o draethau ac ystod o adnoddau.

Mae pentref Botwnnog o fewn 2 filltir i'r bwthyn, lle ceir caffi gwych sy'n gweini bwyd wedi ei wneud o gynnyrch lleol. Mae yna dafarn, garej, siop a chigydd lleol ym mhentref Sarn, 3 milltir o'r llety. Mae'r Llong (Ship) yn Edern (6 milltir) a Bwyty Bwyd Môr Twnti (3 milltir) yn cael eu cymeradwyo fel llefydd gwych i fwyta.

Heb fod ymhell mae traethau poblogaidd Abersoch (5 milltir) a Phwllheli (6.5 milltir) sydd yn enwog am eu chwaraeon dŵr. Mae Aberdaron (9 milltir) ym mhen pella'r Penrhyn yn cynnig tripiau mewn cwch i Ynys Enlli. Fe roddwyd cyhoeddusrwydd byd eang i Ty Coch ym Mhorthdinllaen (7 milltir) pan gafodd ei enwi 'y trydydd tafarn traeth gorau yn y byd' - gellir ond cael mynediad i'r dafarn unigryw hon ar droed. Mae maenordy yr Ymddiriedaeth Cenedlaethol, Plas yn Rhiw (5 milltir), wedi ei leoli ger Porth Neigwl, gyda'r 4 milltir o draeth yn le delfrydol ar gyfer syrffwyr yn ogystal â cherddwyr cŵn.

Mae Parc Gweithgareddau Glasfryn (11 milltir) yn boblogaidd ac yn cynnig ystod eang o weithgareddau yn cynnwys bowlio, gwibgartio a saethyddiaeth, gyda siop fferm helaeth, caffi a bwyty. Mae Pentref Eidalaidd Portmeirion, Parc Cenedlaethol Eryri, Rheilffyrdd y Wyddfa a Ffestiniog, a chestyll mawreddog ar gyd arfordir Gogledd Cymru. Mae ystod o atyniadau ar y tir a'r arfordir, ynghŷd ag ansawdd eithriadol y llety yn gwneud y llety hunan ddarpar hwn ar Benrhyn Llŷn yn leoliad delfrydol ar gyfer eich gwyliau.

Traethau

Yn ganolog i nifer o draethau gorau Cymru, mae'r canlynol i gyd o fewn 20 milltir i'ch bwthyn hunan ddarpar ym Mhenryn Llŷn

Traeth Abersoch - yn boblogaidd efo'r rheiny sy'n diddori mewn chwaraeon dŵr gan ei fod mor gysgodol (5 milltir)

Traeth Deheuol Pwllheli - tair milltir o hyd gyda tywod a cerrig mân. Fe geir caffi, siop a thoiledau ym mhen Dwyreiniol y promonâd (6.5 milltir)

Porth Neigwl - pedair milltir o hyd ac yn denu miloedd o syrffwyr bob blwyddyn gan ei fod yn profi tonau ymchwyddol o Fôr yr Iwerydd (6.8 milltir)

Traeth Nefyn - traeth tywodlyd ac yn ymgylchynu harbwr bach (6.8 milltir)

Morfa Nefyn - gellir cael mynediad o'r traeth ym Mhorth Dinllaen i'r dafarn enwog Tŷ Coch (6.9 milltir)

Traeth Aberdaron - gan fod y traeth wedi ei leoli yn y pentref fe geir digon o adnoddau yno. Mae'r llanw yn ddelfrydol ar gyfer syrffwyr a gellir gwld Ynys Enlli o'r traeth (9 milltir)

Cerdded

Ceir rhwydwaith o lwybrau yn arwain o'r bwthyn (0 milltir)

Mynydd Garnfadryn, ond taith gerdded fer o'r bwthyn ac yn cynnig golygfeydd anhygoel o Benrhyn Llŷn. Gellir gweld Sir Fôn, y Wyddfa, Sir Fôn a Mynyddoedd y Cambrian o'r copa.

Beicio

Mae taith beicio y Lôn Lâs gerllaw. Mae Clwb Beicio Dwyfor yn cwrdd yn lleol

Marchogaeth

Mae Canolfan Farchogaeth Lusitano Pen Llŷn yn cynnig dressage a trecio (1.5.milltir)

Fe geir Canolfan Farchogaeth arall ger Abersoch - Ysgol Farchogaeth Cilan (8.1.milltir)

Golff

Clwb Golff Abersoch - wedi ei enwi yr 17eg Cwrs Gorau yn y byd gyda cwrs 18 twll heriol ar gyfer pob gallu (5.5 milltir)

Clwb Golff Pwllheli - un o gyrsiau gorau Gogledd Cymru. Cwrs 18 twll gyda golygfeydd anhygoel (6.5 milltir)

Clwb Golff Nefyn - cwrs unigryw 26 twll gyda mynediad i Dafarn Ty Coch. Mae gan ymwelwyr y dewis o pun ai chwarae'r cwrs newydd neu yr hen gwrs (7.5. milltir)

Cwrs Golff Talu a Chwarae ym Mhenyberth - cyfleuster ar gyfer dechreuwyr a golffwyr profiadol. Mae yna gwrs newydd 9 twll newydd ei agor (7.5 milltir)

Pysgota

Gellir dewis o bysgota ar y lân, yn yr afon, neu ar gwch ym Mhenryn Llŷn. Gellir dal cwch o Abersoch (5.6 milltir) a Phwllheli (6.5 milltir)

Gall plant fwynhau dal crancod yn Harbwr Abersoch (5.6 milltir)

Chwaraeon Dŵr

Mae Abersoch yn le arbennig ar gyfer chwaraeon dŵr - yn cynnig syrffio, syrfffordio, hwylio a mwy (5 milltir)

Fe leolir Marina Pwllheli 6.5 milltir o'r bwthyn