Sgubor Madrun

Abersoch, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Bwthyn Gwyliau 5 seren ger Abersoch, Pen Llyn. Mae Sgubor yn cynnig ardal chwarae awyr agored i blant a pysgota afon a thraeth tywod Porth Neigwl, 2 funud i ffwrdd.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £590 yr wythnos
  • £84 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Ystafell chwaraeon
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:30

Disgrifiad

Ym mwthyn gwyliau Sgubor Madrun fe storiwyd gwair a bwyd anifeiliaid am y 250 mlynedd diwethaf. Mae wedi ei adnewyddu yn ddiweddar yn fwthyn gwyliau moethus gyda chymaint â phosib o'r nodweddion gwreiddiol a phosib yn weledol. Mae gan y bwthyn ardal chwarae i blant a thraeth hir 3 milltir dywodlyd Porth Neigwl ychydig dros hanner milltir i ffwrdd.

Llawr Gwaelod

Mae mynediad blaen a thu ôl y bwthyn hwn yn lefel ac yn addas i westai llai abl yn ogystal â chadeiriau olwyn. Mae'n agor yn syth i ystafell agored yn cynnwys lolfa, lle bwyta a chegin. Mae rhan o'r llawr llechfaen gwreiddiol wedi ei ail osod yn y gegin a'r ardal fwyta a chadwyd rhai o'r waliau cerrig, y cyfan yn ychwanegu at gynhesrwydd a chymeriad y llety. Ceir ffenestr fawr gyda ffenestr ddwbl sydd yn cynnig golygfeydd gwych o gefn gwlad a theimlad golau ar y tu mewn. Ceir gwresogyddion o dan y llawr gwaelod hefyd.

Mae'r gegin gyflawn yn cynnwys cyfarpar ansawdd uchel a digonedd o lestri a gwydrau. Mae'r safon pum seren yn parhau yn y lolfa gyda soffas lledr mawr cyfforddus a chlustogau meddal sy'n cyfrannu at y teimlad cartrefol. Ceir teledu plasma newydd ar y wal, chwaraewr DVD, CD/radio.

Ceir ystafell wely ddwbl ar y llawr gwaelod hefyd sydd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae ganddo ystafell ymolchi en-suite gyda chawod a chanllawiau ger y toiled a'r basn golchi dwylo. Gellir darparu cadair ar olwynion neu gadair droelli i'r rhai llai abl.

Llawr Cyntaf

Grisiau hyfryd wedi ei chreu gan saer lleol yn arwain i lawr cyntaf ar steil oriel gyda dwy ystafell wely gyda nenfwd ar ongl a dwy ffenestr velux yn edrych allan ar olygfeydd godidog cefn gwlad. Ceir gwely dwbl clasurol gyda chanopi ac en-suite mewn un ystafell ac mae'r ystafell arall yn cynnwys tri gwely sengl hufen. Mae'r brif ystafell ymolchi ar y llawr hwn hefyd gyda Jaquzzi.

Gardd

Drws cefn dwbl mawr yn arwain allan i ardal y patio gyda dodrefn gardd. Delfrydol ar gyfer edmygu'r golygfeydd neu i eistedd ac ymlacio gyda gwydraid o win gyda'r nos. Ystafell chwaraeon ar agor.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trydan a gwres canolog yn gynwysedig.

Cyswllt WIFI ar gael - dewch â'ch gliniadur eich hun.

Darperir sychwr gwallt ar gais.

Croesewir cwn, ond ni ddylid eu gadael ar eu pennau eu hunain yn y bwthyn. Wedi'r cyfan, maen nhw hefyd ar eu gwyliau ac rydyn ni eisiau cynnal safon uchel y llety. Codir ffi fechan o £30 y ci (uchafswm o 2 gi bach neu 1 ci mawr), yn daladwy i'r perchennog pan ydych yn cyrraedd. Gadewch i ni wybod os ydych yn dod a chi er mwyn i ni roi giât wrth y grisiau.

Mae'r lleoliad yma hefyd yn wych ar gyfer grwpiau (cysgu hyd at 13 hefo'i gilydd). Mae bwthyn moethus arall ar y safle - edrychwr ar argaeledd Stabal Madrun (cysgu 6).

Lleoliad

Mae Sgubor Madrun yn fwthyn moethus ar fferm ar Benrhyn Llyn. O fewn tafliad carreg mae traeth Porth Neigwl sy'n boblogaidd iawn gyda syrffwyr, ac Abersoch (3 milltir) sy'n adnabyddus am ei weithgareddau chwaraeon dwr gyda cystadleuthau'n cael eu cynnal yno bob blwyddyn. Ceir amryw o draethau tywod, cildraethau a phyllau cerrig eraill o fewn ychydig filltiroedd i Sgubor Madrun hefyd.

Mae pentref hardd Llangian 1 filltir i ffwrdd, gyda swyddfa bost/siop ac eglwys sy'n dyddio o'r 6ed ganrif. Filltir a hanner i ffwrdd mae pentref o'r enw Llanengan gydag eglwys ganol oesol sy'n werth ei gweld yn ogystal â thafarn wledig gyda bwyd da.

Mae Pen Llyn, lle mae'r iaith Gymraeg a'r ffordd Gymreig o fyw yn parhau i ffynnu, yn llawn traethau hardd a golygfeydd godidog. Gyda bron i 100 milltir o arfordir trawiadol yn amgylchynu nifer o fryniau bach a mawr, ynghyd â mynyddoedd mawreddog Eryri ar y gorwel, mae'n le gwych i ddod am wyliau cerdded hefyd.

Ewch ar daith cwch i ymweld ag Ynys Enlli, cyn-safle pererindod grefyddol, rhowch dro ar bysgota, marchogaeth neu golff a manteisiwch ar y cyfle i gartio, bowlio deg ac ati ym Mharc Glasfryn. Mae'n werth ymweld â Phlas Glyn-y-Weddw - plasty bendigedig sydd ag orielau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd gwych o'r môr, ac mae Rheilffordd Ffestiniog, nifer o gestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion oll gerllaw.

Traethau

Porth Neigwl - traeth tywod 4 milltir o hyd. Lle da am syrff ac yn croesawu cwn. 0.5 milltir

Chwaraeon Dwr

Mae Porth Neigwl yn lleoliad hynod boblogaidd gan syrffwyr a chorff-fyrddwyr. 0.5 milltir

Mae Traeth Abersoch yn cynnig dwr tawel ar gyfer tonfyrddio a sgio dwr, hwylio, defnyddio cychod pwer a hwylfyrddio. 3 milltir

Cerdded

Llwybr Arfordir Llŷn 84 milltir o amgylch Penrhyn Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch i'r llwybr o fewn hanner milltir i'r bwthyn

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd sy'n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llŷn. 4.5 milltir o hyd. 18 milltir o'r bwthyn.

Pysgota

Pysgota afon ar gael i westai sy'n aros ym mwthyn Sgubor. Gellir trefnu hyn gyda'r perchnogion ar ôl cyrraedd.

Golff

Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 3 milltir.

Canolfan Golff Llŷn Pen-y-Berth. Maes ymarfer i 15, grin a byncer ymarfer a chwrs 9 twll gyda golygfeydd o'r môr. I ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol, gellir llogi clybiau. 7 milltir.

Clwb Golff Pwllheli, cwrs golf 18 golff, addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu. 10 milltir.

Clwb Golff Nefyn a'r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o'r arfordir. 14 milltir.

Marchogaeth Ceffylau

Stablau Marchogaeth Llanbedrog - Gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau traeth a mynydd. 4 milltir

Canolfan Farchogaeth Cilan, Abersoch. Teithiau traeth a mwy. Gwych i blant a dechreuwyr. 4.5 milltir.

Canolfan Farchogaeth Pen Llŷn, Pwllheli. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 5 milltir.