Bwthyn gwyliau 5 seren sydd hefyd yn croesawu cwn. Lleolir � milltir o draeth hir tywodlyd Porth Neigwl, Pen Llyn. Poblogaidd ymhlith teuluoedd a syrffwyr.
- £531 yr wythnos
- £76 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 09:30
Disgrifiad
Mae'r bwthyn gwyliau 5 seren hwn yng Ngogledd Cymru ger Abersoch ar fferm arfordirol. Wedi ei adnewyddu'n feddylgar o hen adeilad hyfryd a chadarn, a phellter cerdded hawdd i draeth hir a thywodlyd Porth Neigwl - poblogaidd gyda syrffwyr a theuluoedd. Mae'r bwthyn hyfryd hwn yng Ngogledd Cymru yn cynnig encil heddychlon a gwledig ac yn safle hwylus i archwilio'r ardal o gwmpas. Wedi ei ddylunio hefyd i ddarparu gwyliau hwylus i westeion anabl.
Llawr Gwaelod
Mae'r ystafell fyw a bwyta eang wedi ei dodrefnu'n draddodiadol gyda thrawstiau a phentan sy'n rhyddhau gwres o stôf losgi coed neu dân trydan. Teledu a fideo.
Yn y gegin, ceir popty trydan a thegell, oergell a rhewgell, golchwr llestri, golchwr dillad, microdon, tostiwr, haearn a bwrdd smwddio.
Un ystafell wely dwbl gyda en-suite yn cynnwys cawod, toiled a basn, a gyda gwely pedwar postyn deniadol. Mae'r ystafelloedd eraill yn un dwbl ac un twin (zip&link cyfuno i king/superking). Mae'r brif ystafell ymolchi yn agos i'r ystafelloedd hyn ac mae'n cynnwys Jacuzzi.
Gardd
Ardal batio amgaeedig gyda dodrefn gardd a golygfeydd o gefn gwlad. Mae'r ardal batio hefyd yn agor i ardal chwarae fawr, amgaeedig gyda sleid, siglenni ayyb (rhannu gyda 1 bwthyn arall). Ystafell chwaraeon ar agor.
Gwybodaeth Ychwanegol
Trydan a gwres canolog, logiau a glo i gyd yn cael eu darparu yn y bwthyn gwyliau hwn yng Ngogledd Cymru.
Sychwr gwallt ar gael ar gais.
Cyswllt WiFi ar gael - dewch a'ch cyfrifiadur / gliniadur eich hun.
Mae'r bwthyn gwyliau hwn yn ddelfrydol ar gyfer plant ifanc ac mae hefyd wedi ei ddylunio i ddarparu gwyliau hwylus i westeion anabl:
- Croesewir cŵn tywys
- Mynediad i gadair olwyn yn y gawod
- Cadair i'r gawod
- Switsys lefel isel
- Canllawiau
- Drysau llydan
- Cadair uchel
- Mynediad hawdd a lle parcio tu allan y drws
- "dual motor rise and recline electric chair, 3 tier backrest and memory foam pressure relief"
Croesewir cŵn, ond ni ddylid eu gadael ar eu pennau eu hunain yn y bwthyn. Wedi'r cyfan, maen nhw hefyd ar eu gwyliau ac rydyn ni eisiau cynnal safon uchel y llety. Codir ffi fechan o £30 y ci (uchafswm o 2 gi bach neu 1 ci mawr ar ar-wahan i alsatians a chi defaid Almaeneg), yn daladwy i'r perchennog pan ydych yn cyrraedd. *Gadewch i ni wybod o flaen llaw os ydych yn dod a chi er mwyn i ni roi giât wrth y grisiau cyn eich cyrhaeddiad.
Mae'r lleoliad yma hefyd yn wych ar gyfer grwpiau (cysgu hyd at 13 hefo'i gilydd). Mae bwthyn moethus arall ar y safle - edrychwr ar argaeledd Sgubor Madrun (cysgu 7).
Lleoliad
Lleolir Bwthyn Gwyliau Stabal Madrun ar fferm weithredol mewn llecyn prydferth ar Benrhyn Llyn. Ychydig dros ½ milltir i ffwrdd ceir traeth Porth Neigwl sy'n boblogaidd gyda syrffwyr, ac Abersoch (3 milltir) syâ'n adnabyddus am ei weithgareddau chwaraeon dwr. Ceir nifer o draethau tywod, cildraethau a phyllau cerrig eraill o fewn ychydig filltiroedd i Fwthyn Hoewal hefyd.
Mae pentref hardd Llangian 1 filltir i ffwrdd, gyda swyddfa bost/siop ac eglwys sy'n dyddio o'r 6ed ganrif. Filltir a hanner i ffwrdd ceir pentref arall o'r enw Llanengan gydag eglwys ganol oesol sy'n werth ei gweld yn ogystal â thafarn wledig gyda bwyd da. Ceir ciosg ffôn yn y ddau bentref.
Mae Pen Llyn, lle mae'r iaith Gymraeg a'r ffordd Gymreig o fyw yn parhau i ffynnu, yn enwog am ei draethau hardd a chwaraeon dwr. Gyda bron i 100 milltir o arfordir trawiadol yn amgylchynu nifer o fryniau bach a mawr, ynghyd â mynyddoedd mawreddog Eryri yn y cefndir, mae'n le gwych i ddod am wyliau cerdded hefyd.
Ewch ar daith cwch i Ynys Enlli, cyn-safle pererindod grefyddol, rhowch dro ar bysgota, marchogaeth neu golff a manteisiwch ar y cyfle i gartio, bowlio deg ac ati ym Mharc Glasfryn. Mae'n werth ymweld â Phlas Glyn-y-Weddw - plasty bendigedig sydd ag orielau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd gwych o'r môr, ac mae Rheilffordd Ffestiniog, nifer o gestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion oll gerllaw.
Traethau
Porth Neigwl - traeth tywod 4 milltir o hyd. Lle da am syrff ac yn croesawu cwn. 0.5 milltir
Ewch i weld 10 traeth gorau Penrhyn Llŷn
Chwaraeon Dwr
Mae Porth Neigwl yn lleoliad hynod boblogaidd gan syrffwyr a chorff-fyrddwyr. 0.5 milltir
Mae Traeth Abersoch yn cynnig dwr tawel ar gyfer tonfyrddio a sgïo dwr, hwylio, defnyddio cychod pwer a hwylfyrddio. 3 milltir
Gweler mwy o wybodaeth am chwaraeon dwr ym Mhen Llyn.
Cerdded
Llwybr Arfordir Llyn - 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch a'r llwybr o fewn hanner milltir i'r bwthyn
Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd sy'n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llyn. 4.5 milltir o hyd. 18 milltir o'r bwthyn.
Pysgota
Pysgota afon ar gael i westai sy'n aros ym mwthyn Hoewal. Gellir trefnu hyn gyda'r perchnogion ar ôl cyrraedd.
Darllenwch ragor am y cyfleoedd i bysgota ar Benrhyn Llyn - dewisiadau addas ar gyfer pob oed.
Golff
Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 3 milltir.
Canolfan Golff Llyn - Pen-y-Berth. Maes ymarfer i 15, grin a byncer ymarfer a chwrs 9 twll gyda golygfeydd o'r môr. I ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol - gellir llogi clybiau. 7 milltir.
Clwb Golff Pwllheli - cwrs golf 18 golff, addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu. 10 milltir.
Clwb Golff Nefyn a'r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o'r arfordir. 14 milltir.
Marchogaeth Ceffylau
Stablau Marchogaeth Llanbedrog - Gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau traeth a mynydd. 4 milltir
Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Teithiau traeth a mwy. Gwych i blant a dechreuwyr. 4.5 milltir.
Canolfan Farchogaeth Pen Llyn · Pwllheli. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 5 milltir.
Beicio
Darllenwch am gyfleoedd beicio ar Benrhyn Llyn