- £424 yr wythnos
- £61 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Chwaraeon dŵr
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r llety gwyliau hunan-ddarpar moethus hwn ym Mhen Llŷn yn berffaith ar gyfer cyplau neu deuluoedd bychain. Mae traethau tywodlyd hyfryd Abersoch, Aberdaron a Nefyn a thraethau godidog eraill Pen Llyn i gyd gerllaw. Mwynhewch yr ardd fawr amgaeedig gyda’i chyfleusterau barbeciw a phopeth y gallech obeithio amdano ar gyfer y plant. Gellwch hyd yn oed gyfarfod yr anifeiliaid ar y fferm weithiol hon o ddefaid, cig eidion a grawnfwyd.
Llawr Cyntaf
Llety hunanarlwyo ar y llawr cyntaf yw hwn gyda thrawstiau agored drwyddo.
Mae’r ystafell fyw siâp L helaeth a chlud yn cynnwys cegin wledig hufen ar un pen gyda microdon, popty trydan, oergell, peiriant golchi llestri, bwrdd bwyd pîn a chadeiriau. Mae gan yr ardal fyw soffa ledr Chesterfield gyfforddus, cadair freichiau a thân trydan gyda lle tân o hen haearn bwrw. Mae’r hen drawstiau i’w gweld, ac yn rhoi naws agored olau a helaeth. Teledu, chwaraewr fideo a DVD, yn ogystal â system CD/Hifi.
Ceir dwy ystafell wely - y gyntaf gyda gwely efydd a haearn Fictorianaidd dwbl a dillad gwely newydd o gotwm Eifftaidd, a’r ail ystafell gyda gwelyau bync maint llawn.
Yn yr ystafell ymolchi ceir cawod drydan ansawdd uchel, unedau ymolchi steilus a theils mosaig marmor, yn ogystal â rheilen cynhesu tywelion.
Gardd
Yr un peth mae pob gwestai yn cytuno arno ynghylch gwyliau ar fferm Crugeran yw bod yr Ardd yn Wych! Ceir set barbeciw, siglenni, llithren, goliau pêl droed, den, ty chwarae a thrampolîn wedi eu gwasgaru o amgylch yr ardd fawr werdd. Yn anffodus, mae rhieni yn cael trafferth i berswadio’r plant i adael yr ardd i fynd ar dripiau “diflas” i’r traeth neu “anturiaethau” o amgylch rhyw gastell neu i gilydd! Ymddiheuriadau - allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am blant anufudd / anfodlon!
Mae gan y llety ei ardal batio ei hun a bwrdd ar gyfer mwynhau rhywfaint o fwyta ‘alfresco’.
Mae’r ardal ardd fawr ar gael i’w mwynhau gan ymwelwyr y tri bwthyn sydd ar y safle. Mae’r ardd yn amgaeedig ac yn cynnwys set barbeciw, sleid, gôl bêl-droed, ffau, ty chwarae a thrampolin gwych.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dillad gwely, 1 tywel bath ac 1 tywel llaw ar gael i bob person yn y pris. Ar gyfer defnydd yn y bwthyn yn unig - dim ar gyfer y traeth.
Cot teithio, cadair uchel a giât diogelwch ar gael. (dewch â’ch dillad eich hun ar gyfer y cot os gwelwch yn dda)
Ystafell golchi dillad ar wahân ar gyfer defnydd y 3 bwthyn sydd ar y safle ac mae’n cynnwys peiriant golchi a sychu dillad, y ddau ar fesurydd arian a rhewgell ddofn.
Gwresogyddion trydan a thrydan yn gynwysedig.
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu.
Gellir aros yma am gyfnodau byrrach yn ystod y tymor tawel. Gweler mwy o fanylion o dan ‘Prisiau'.