Gorwel

Abersoch, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £998 yr wythnos
  • £143 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Llety gwyliau 5 seren yn Abersoch. Wedi ei osod mewn safle dyrchafedig, gellir edmygu golygfeydd anhygoel o môr a thir ym Mhenrhyn Llyn o'r caban pren moethus hwn. Dim ond 10 munud o gerdded o'r traeth tywodlyd agosaf yn Abersoch gyda'i amrywiaeth eang o chwaraeon dwr, bwytai da, siopau ayyb. Paratowch i ddisgyn mewn cariad dros eich pen a'ch clustiau gydag ysblander Gogledd Cymru ar ei orau.

Llawr Gwaelod

Mae Gorwel yn llety gwyliau gwirioneddol hyfryd. Mae'r ystafell fyw yn cynnig y lleoliad perffaith i edmygu'r golygfeydd anhygoel o foethusrwydd y soffas clud. Pan, ac os, y byddwch chi'n stopio synfyfyrio, ceir hefyd teledu smart a chwaraewr DVD i'ch diddanu.

Darperir yr holl gyfarpar sydd ei angen arnoch yn y gegin gyflawn, yn cynnwys popty, hob, oergell, rhewgell a pheiriant golchi llestri. Ceir lle i hyd at 5 o bobl wrth y bwrdd bwyd ac mae hwn yn cynnig cyfle arall i ryfeddu at y golygfeydd dros bryd da o fwyd.

Ceir 2 ystafell wely yng nghaban pren moethus Gorwel, un twin ac un ystafell deulu sy'n cynnwys gwely dwbl a sengl. Mae'r ystafell ymolchi'n newydd sbon ac yn cynnwys baddon gyda chawod uwch ei ben, toiled ac uned ymolchi.

Gardd

Drysau dwbl yn agor allan i ardal patio gyda tho, gyda set barbeciw a dodrefn gardd. Ceir gardd amgaeedig ar ben pellaf y cabin hefyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Lleiniau gwely a thyweli yn cael eu darparu
  • Gwres canolog oel o dan y llawr a thrydan yn cael eu cynnwys.
  • Cyfleusterau smwddio ar gael
  • WiFi Ar Gael
  • Darperir cot a chadair uchel ar gais. Dewch a'ch dillad eich hunain ar gyfer y cot.
  • Croeso i 1 anifail anwes am £25 ychwanegol. Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond yn yr ystafell fyw y caiff yr anifail anwes fod a ni ddylid ei adael yn y caban ar ei ben eu hun.
  • Nodwch: Ni allwn gadarnahu bydd y twb poeth wedi dod i dymheredd pan gyrhaeddwch gyntaf ohewrydd mae yna glanhau hanfodol yn digwydd rhwng pob archeb.

Lleoliad

Wedi ei leoli ar fryn, mae gan y caban pren moethus hwn olygfeydd bendigedig o'r môr a chefn gwlad Pen Llyn. Filltir o bentref Abersoch a thaith gerdded 10 munud yn unig at y traeth tywod agosaf, dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer eich gwyliau ym Mhenrhyn Llyn

Er mai pentref bach yw Abersoch, mae yno wasanaethau da, gyda nifer o fannau bwyta a siopau da. Mae yno hefyd draeth tywod braf sydd wedi derbyn gwobr Baner Las, a bydd nifer o ddigwyddiadau hwylio cenedlaethol yn cael eu cynnal yno bob blwyddyn. Filltir oddi wrth y caban, mae pentref hardd Llangian, sydd ag eglwys yn dyddio o'r 6ed ganrif.

Mae Pen Llyn, lle mae'r iaith Gymraeg a'r ffordd Gymreig o fyw yn parhau i ffynnu, yn enwog am ei draethau hardd a chwaraeon dwr. Gyda bron i 100 milltir o arfordir trawiadol yn amgylchynu nifer o fryniau bach a mawr, ynghyd â mynyddoedd mawreddog Eryri yn y cefndir, mae'n le gwych i ddod am wyliau cerdded hefyd.

Ewch ar daith cwch i Ynys Enlli, cyn-safle pererindod crefyddol, rhowch dro ar bysgota, marchogaeth neu golff a manteisiwch ar y cyfle i gartio, bowlio deg ac ati ym Mharc Glasfryn. Mae'n werth ymweld â Phlas Glyn-y-Weddw - plasdy bendigedig sydd ag orielau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd gwych o'r môr, ac mae Rheilffordd Ffestiniog, nifer o gestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion oll gerllaw.

Traethau

Traeth Abersoch - traeth tywod gyda gwobr Baner Las. 1 filltir

Ewch i weld 10 traeth gorau Penrhyn Llyn

Chwaraeon Dwr

Mae Traeth Abersoch yn cynnig dwr tawel ar gyfer tonfyrddio a sgio dwr, hwylio, defnyddio cychod pwer a hwylfyrddio. 1 filltir

Mae Porth Neigwl yn lleoliad hynod boblogaidd gan syrffwyr a chorff-fyrddwyr. 2.5 milltir

Mae gan Bwllheli un o'r marinas gorau ar arfordir gorllewin Prydain. 5.5 milltir

Cerdded

Llwybr Arfordir Llyn - 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch gyda'r llwybr o fewn hanner milltir i’r bwthyn

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd sy'n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llyn. 4.5 milltir o hyd. 15 milltir o'r bwthyn.

Pysgota

Darllenwch ragor am y cyfleoedd i bysgota ar Benrhyn Llyn - dewisiadau addas ar gyfer pob oed.

Golff

Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 1.5 milltir.

Canolfan Golff Llyn - Pen-y-Berth. Maes ymarfer i 15, grin a byncer ymarfer a chwrs 9 twll gyda golygfeydd o'r mor. I ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol - gellir llogi clybiau. 3 milltir.

Clwb Golff Pwllheli - cwrs golf 18 golff, addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu. 6 milltir.

Clwb Golff Nefyn - Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o'r arfordir. 11 milltir.

Marchogaeth Ceffylau

Stablau Marchogaeth Llanbedrog - Gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau traeth a mynydd. 1.5 milltir

Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Teithiau traeth a mwy. Gwych i blant a dechreuwyr. 4 milltir.

Canolfan Farchogaeth Pen Llyn - Pwllheli. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 7 milltir.

Beicio

Darllenwch am gyfleoedd beicio ar Benrhyn Llyn