Y Granar

Abersoch, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,071 yr wythnos
  • £153 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei leoli 1 milltir o bentref Abersoch, Gogledd Cymru a dim ond 10 munud o gerdded o'r traeth tywodlyd agosaf. Os ydych yn edrych am fythynnod gwyliau 5 seren i'w rhentu yn Abersoch, bydd Y Granar yn eich darparu gyda phopeth sydd ei angen arnoch. Wedi ei leoli ar fferm arfordirol, mae'r bwthyn cyfeillgar hwn wedi ei leoli mewn ardal sy'n adnabyddus am ei harddwr naturiol eithriadol. Mae Abersoch yn cynnig chwaraeon dwr, traethau, llwybrau arfordirol, bwytai da, tafarndai, siopau a llawer mwy - lleoliad gwych ar gyfer ei gwyliau ym Mhenrhyn Llyn.

Llawr Gwaelod

Mae bwthyn gwyliau Y Granar yn dyddio nol i'r 1800au ac yn cynnig cyfuniad hyfryd o drawstiau agored gwreiddiol a waliau cerrig. Mae'r ystafell fyw hefyd yn cynnwys soffas lledr, teledu a gwresogydd coed trydan.

Cegin / ystafell fwyta ar wahan gyda bwrdd bwyta i 6. Ymhlith cyfarpar y gegin gyflawn ceir oergell/rhewgell, micro-don, hob/popty a pheiriant golchi llestri.

Llawr Cyntaf

Ceir tair ystafell wely i fyny'r grisiau - dwy ystafell wely dwbl (un ohonynt gydag ystafell ymolchi en suite) ac un twin.

Ceir ystafell ymolchi arall ar wahan sy'n cynnwys bath a chawod.

Gardd

Mae'r ardal patio tu blaen y bwthyn yn cynnwys dodrefn gardd ar gyfer eich mwynhad.

Gwybodaeth Ychwanegol

 

  • Os ydych yn edrych am grwp o fythynnod yn Abersoch, mae 3 bwthyn gwyliau arall ar y safle gan gynnwys Stabal y March drws nesaf.
  • Trydan a gwres canolog yn gynwysedig.
  • Lleiniau gwely a thyweli yn cael eu darparu.
  • Cot a chadair uchel ar gael ar gais. Dewch a'ch dillad gwely eich hunain i'r cot.
  • Ystafell golchi dillad i'w rannu gyda chyfleusterau smwddio.
  • Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes.

 

Lleoliad

Lleolir Bwthyn Hunan-ddarpar Y Granar ar fferm deuluol draddodiadol sy'n cadw defaid a gwartheg. Dim ond milltir o bentref hyfryd Abersoch a thaith gerdded 10 munud yn unig at y traeth agosaf, dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer eich gwyliau yng Ngogledd Cymru.

Mae bwytai, caffis, tafarndai ac amrywiaeth eang o siopau yn Abersoch er mai pentref gweddol fychan ydyw. Mae traeth hir godidog yno sydd wedi derbyn gwobr Baner Las, a chaiff amryw o ddigwyddiadau hwylio cenedlaethol eu cynnal yma. Filltir oddi wrth y caban, mae pentref hardd Llangian, sydd ag eglwys yn dyddio o'r 6ed ganrif.

Mae'r iaith Gymraeg a'r ffordd Gymreig o fyw yn parhau i ffynnu ym Mhenrhyn Llyn ac mae'r ardal yn enwog am ei draethau hardd a chwaraeon dwr. Gyda bron i 100 milltir o arfordir trawiadol yn amgylchynu nifer o fryniau sy'n amrywio o ran maint, ynghyd a mynyddoedd mawreddog Eryri yn y cefndir, mae'n le gwych i ddod am wyliau cerdded hefyd.

Ewch ar daith cwch i Ynys Enlli, cyn safle pererindod grefyddol, ewch i wneud ychydig o bysgota, marchogaeth neu golff a manteisiwch ar y cyfle i ymweld â Pharc Glasfryn er mwyn go-cart, bowlio deg a mwy. Mae'n werth ymweld â Phlas Glyn-y-Weddw - plasdy bendigedig sydd ag orielau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd gwych o'r mor, ac mae Rheilffordd Ffestiniog, nifer o gestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion oll gerllaw.

Traethau

Traeth Abersoch - traeth tywod gyda gwobr Baner Las. 1 filltir

Ewch i weld 10 traeth gorau Penrhyn Llyn

Chwaraeon Dwr

Mae Traeth Abersoch yn cynnig dwr tawel ar gyfer tonfyrddio a sgîo dwr, hwylio, defnyddio cychod pleser a hwylfyrddio. 1 filltir

Mae Porth Neigwl yn lleoliad hynod boblogaidd gan syrffwyr a chorff-fyrddwyr. 2.5 milltir

Mae gan Bwllheli un o'r marinas gorau ar arfordir gorllewin Prydain. 5.5 milltir

Cerdded

Llwybr Arfordir Llyn - 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch a'r llwybr o fewn hanner milltir i'r bwthyn

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd sy'n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llyn. 4.5 milltir o hyd. 15 milltir o'r bwthyn.

Pysgota

Darllenwch ragor am y cyfleoedd i bysgota ar Benrhyn Llyn - dewisiadau addas ar gyfer pob oed.

Golff

Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 1.5 milltir.

Canolfan Golff Llyn, Pen-y-Berth. Maes ymarfer i 15, grin a byncer ymarfer a chwrs 9 twll gyda golygfeydd o'r môr. I ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol - gellir llogi clybiau. 3 milltir.

Clwb Golff Pwllheli - cwrs golf 18 golff, addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu. 6 milltir.

Clwb Golff Nefyn a'r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o'r arfordir. 11 milltir.

Marchogaeth Ceffylau

Stablau Marchogaeth Llanbedrog - Gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau traeth a mynydd. 1.5 milltir

Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Teithiau traeth a mwy. Gwych i blant a dechreuwyr. 4 milltir.

Canolfan Farchogaeth Pen Llyn - Pwllheli. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 7 milltir.

Beicio

Darllenwch am gyfleoedd beicio ar Benrhyn Llyn