- £763 yr wythnos
- £109 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae bwthyn gwyliau Stabal y March mewn lleoliad gwych, 1 milltir o Abersoch ym Mhenrhyn Llyn. Saif ar fferm deuluol draddodiadol o gig eidion a defaid ac fe’i trawsnewidiwyd yn gelfydd o hen stabl i fwthyn hunan-ddarpar sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd. Ymysg yr enghreifftiau gorau o fythynnod gwyliau yn Abersoch mae 10 munud yn unig ar droed i’r traeth tywodlyd agosaf, Llwybr Arfordirol Llyn, chwaraeon dwr, nifer o dai bwyta gwerth chweil, siopau, tafarndai a llawer mwy.
Llawr Gwaelod
Mae bwthyn gwyliau’r Stabal yn cynnig cyfuniad difyr o drawstiau yn ardal y gegin/lolfa. Mae’r lle tân gyda’r stôf llosgi coed trydan yn nodwedd amlwg yn y lolfa, yn ogystal â’r ddwy soffa ledr sy’n eich gwahodd i eistedd ac ymlacio. Ymhlith holl gyfarpar y gegin ceir golchwr llestri, oergell, microdon a bwrdd gyda lle i 6 eistedd o’i amgylch.
Ceir tair ystafell wely - 2 ystafell ddwbl, un gydag ystafell ymolchi en-suite ac mae gan y drydedd ystafell wely wlâu twin. Mae yna ystafell ymolchi arall ar wahân sy’n cynnwys bath/cawod.
Gardd
Tu blaen y bwthyn ceir ardal patio gyda dodrefn gardd lle gellir mwynhau'r golygfeydd arbennig.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Os ydych yn edrych am grwp o fythynnod gwyliau 5 seren yn Abersoch, mae 3 bwthyn hunanarlwyo arall ar y safle gan gynnwys Y Granar drws nesaf.
- Trydan a gwres canolog yn gynwysedig.
- Lleiniau gwely a thyweli yn cael eu darparu.
- Cot a chadair uchel ar gael ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain i’r cot.
- Ystafell golchi dillad i'w rannu gyda chyfleusterau smwddio.
- O fis Ionawr 2019 ymlaen yn unig - Mae croeso i 1 anifail anwes am £25 ychwanegol. Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond yn yr ystafell fyw y caiff yr anifail anwes fod a ni ddylid ei adael yn y bwthyn ar ei ben ei hun.
- Dim ysmygu.
- Caniateir gwyliau byr, gwyliau penwythnos a gwyliau yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor tawel. Gweler mwy o fanylion o dan ‘Prisiau’.