- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £506 yr wythnos
- £72 y noson
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 14:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mae gwyliau ymlaciol yn eich aros yn y llety hwn sy wedi ei leoli yng nghefn gwlad hyfryd Cymru. Mae'n bell o bopeth ond eto ond 5 milltir i ffwrdd o'r A55, sy'n caniatau mynediad rhwydd i holl atyniadau Gogledd Cymru. Mae'r llety newydd ei adnewyddu ac yn cynnig awyrgylch tawel a heddychlon. Mwynhewch ymlacio yn y baddon sy'n sefyll ar ben ei hun, neu cymerwch amser allan i fwynhau cefn gwlad o'ch gardd breifat. Mae dau lety arall gerllaw, y ddau gyda twba poeth, fyddai'n berffaith ar gyfer grwpiau teuluol neu ffrindiau fyddai'n dymuno dod at ei gilydd.
Llawr Gwaelod
Cegin - naws gwledig gyda nodweddion cyfoes. Unedau llwyd golau gyda wyneb gweithio pren. Offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, popty trydan a hob serameg, oergell/rhewgell. Bwrdd bwyta i ddau ar gyfer nosweithiau rhamantus.
Lolfa - ystafell ymlaciol gyda thrawstiau agored, soffa gyfforddus, bwrdd coffi, teledu Smart gyda freesat a bwrdd pêldroed.
Llawr Cyntaf
Ystafell gyda gwely maint king, teledu Smart gyda freesat, cadair gyfforddus a chypyrddau dillad.
Ystafell ymolchi gyda bath, cawod arwahan, basn, toiled a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Lawnt breifat a chaeedig, patio gyda bwrdd a chadeiriau gyda golygfeydd anhygoel. Barbaciw.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys wyau lleol, sgons/cacennau cri, te, coffi, siwgwr a llaeth
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Sychwr gwallt ar gael
- Wi-fi ar gael
- Gemau bwrdd
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y llety
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Darperir y canlynol:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Lle parcio ar y safle