Cwt Bach

Abergele, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% May Half term - 24th May - 31st May 2024
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £513 yr wythnos
  • £73 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 14:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Stiwdio hardd gyda twb poeth preifat, yn cynnig gwyliau delfrydol i gyplau yng nghefn gwlad heddychlon Gogledd Cymru. Gyda'i ddecor gwledig, mae'r cyn-ysgubor hon yn rhoi teimlad o fwthyn bugail ar y tu mewn ond gyda waliau cerrig solet ar y tu allan. Mae'n leoliad delfrydol i ymlacio tra'n darganfod Gogledd Cymru gyda'i holl anturiaethau, o'r arfordir (5 milltir) ac Eryri, i drefi marchnad, Zip World ac Aventure Parc Snowdonia. 

Os hoffech ddod â teulu neu ffrindiau gyda chi, mae yma hefyd fwthyn arall i 4 ar y safle, sydd newydd ei adnewyddu gyda'i ardd a thwb poeth preifat.

Llawr Gwaelod

Stiwdio ar gynllun agored yn cynnig llety clyd i gyplau, gyda thrawstiau a drysau derw.

Cegin - unedau llwyd gydag wyneb gweithio pren. Yn cynnwys popty sengl a hob, oergell/rhewgell, tegell a thostiwr. Peiriant golchi mewn adeilad arwahân ar y safle.

Ardal fwyta - bwrdd a chadeiriau i 2.

Lolfa - soffa i 2 o flaen teledu Smart ar y wal.

Ardal cysgu - gwely maint king gyda chypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi - yn cynnwys cawod wlaw, basn, toiled a rheilen sychu tywelion. 

Gardd

Gardd wyllt gaeedig gyda choed ffrwythau yn y cefn, mynediad drwy stepiau wrth ochr y llety. Mae'r ardd yn cynnwys patio gyda twb poeth preifat a bwrdd i 2. Golygfeydd pellgyrhaeddol tuag at y mynyddoedd ar y gorwel. 

Mae'r patio yn ffrynt y ty yn berffaith ar gyfer paned yn y bore. Golygfeydd o gefn gwlad a bywyd gwyllt. Barbaciw ar gael. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys sgons/cacennau cri, yn ogystal â the, coffi, siwgwr a llaeth 
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig 
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
  • Sychwr gwallt ar gael
  • Wi-fi yn gynwysedig
  • Mynediad fyny/lawr 3 step (dim rheilen llaw) i'r patio a'r drws ffrynt
  • Mae'r eitemau canlynol hefyd ar gael: 
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu 
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol     
  • Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes tu mewn y bwthyn     
  • Parcio ar gyfer 2 car

Lleoliad