Tir Bach Iago

Aberdaron, North Wales Coast

  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £576 yr wythnos
  • £82 y noson
  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb
  • Baddon
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Ymlaciwch mewn steil ar Benrhyn Llyn yn y bwthyn trawiadol hwn i 2. Gerllaw traeth cuddiedig a Llwybr Arfordirol Cymru, gyda pentref arfordirol Aberdaron ond 3.5 milltir i ffwrdd. Darganfyddwch ystafelloedd te a chaffis, bwytai a thafarndai, neu ewch a'r gwch i ynys gysegredig Enlli. Dyma encil arbennig a pherffaith ar gyfer cyplau. 

Os hoffech ddod â theulu neu ffrindiau gyda chi, mae yma hefyd ddau fwthyn 5 seren eraill ar y safle.

Llawr Gwaelod

Lolfa - soffa gyfforddus a chadair o flaen teledu a stôf goed. Golygfeydd o gefn gwlad drwy'r drysau patio. 

Cegin steilus gyda'r holl offer yn cynnwys oergell/rhewgell, meicrodon, popty a hob, peiriannau golchi llestri a golchi/sychu dillad. 

Ardal fwyta gyda bwrdd i 2.

Ystafell wely gyda gwely pedwar postyn maint king, cadair a theledu ar y wal. Baddon yn sefyll ar ben ei hun ar blatfform yn y cornel. 

Ensuite gyda cawod fawr, basn, toiled a rheilen sychu tywelion. 

Gardd

Patio ar godiad gyda dodrefn gardd a golygfeydd o gefn gwlad. Barbaciw ar gael os dymunir.   

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacen                  
  • Dillad gwelyau a sychwr gwallt yn gynwysedig                
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig              
  • Coed ar gael ar gyfer y stôf               
  • Wifi ar gael             
  • 1 anifail anwes am ddim - noder pan yn archebu               
  • Dim ysmygu tu mewn y bwthyn           
  • Parcio oddi ar y ffordd ar gyfer 2 gar          

Lleoliad

Mae Tir Bach Iago yn un o dri bwthyn mewn hen ysgubor wedi ei hadnewyddu, ym Mhenryn Llyn. Mae'r tri bwthyn yn mwynhau preifatrwydd ond os ydych am ddod ag aelodau eraill o'ch teulu neu ffrindiau gyda chi gellir gwneud hynny. Gyda patio a lawnt ei hun mae Tir Bach Iago yn mwynhau golygfeydd o'r tir a'r môr, ac yn loeoliad delfrydol ar gyfer cyplau. 

Mae'r Llwybr Arfordirol Cymru o fewn milltir, gyda pentref arfordirol Aberdaron (3.5 milltir), Morfa Nefyn (10 milltir), ac Abersoch (11 milltir) heb fod ymhell. Mae caffi ar draeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Porthoer sydd ond 1.5 milltir i ffwrdd a ble mae'r tywod yn wirioneddol chwibanu pan mae'r amodau yn iawn!

Mae Aberdaron yn bentref arfordirol ar ochr orllewinol Penrhyn Llŷn ac mae'n cynnig ystod o adnoddau. Mae rhain yn cynnwys dwy dafarn/bwytai (Tŷ Newydd a'r Llong) lle ceir bwyd rhagorol, caffis bach hyfryd, becws to gwellt, Spar a siop yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol. Mae pentref arfordirol Abersoch yn cynnig ystod eang o adnoddau gan gynnwys bwytai a siopau. Pwllheli (15 milltir), ydy 'prif ddinas' answyddogol Penrhyn Llŷn gydag adnoddau niferus ac amrywiaeth o siopau annibynnol, caffis a bwytai, archfarchnad, banciau a 2 farchnad - un ar ddydd Mercher a'r llall ar ddydd Sul (Mai i Medi). 

Ymhlith y prif atyniadau, fe geir ynys sanctaidd Ynys Enlli - unwaith yn leoliad pererindod crefyddol a nawr yn Warchodfa Natur Cenedlaethol. Gellir cyrraedd Ynys Enlli ar long o Borth Meudwy (5 milltir). Ychydig yn bellach na Phorth Meudwy, ar bwynt mwyaf gorllewinol y Penrhyn mae Uwchymynydd - penrhyn hanesyddol sydd yn cynnig lle gwych i edrych allan ar Ynys Enlli a'r arfordir. Fel y mae'r esiamplau hyn yn awgrymu, mae Penrhyn Llŷn yn ardal ddynodedig o harddwch naturiol eithriadol, gyda Hendy Iago yn cynnig lleoliad delfrydol i ddarganfod y rhan yma o Gymru.

Mae Penrhyn Llŷn, ble mae'r iaith Gymraeg a'r ffordd Gymreig o fyw yn dal i ffynnu, yn adnabyddus am ei draethau hardd a chwaraeon dŵr tra fod mynyddoedd mawreddog Eryri o fewn taith fer. Mae yna nifer o weithgareddau yn yr ardal yn cynnwys pysgota, marchogaeth, golff a Pharc Glasfryn, ble gellir mwynhau go-cartio, bowlio deg, saethyddiaeth ayb. Mae'n werth ymweld â Phlas Glyn y Weddw, maenor godidog gyda galeriau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd o'r môr, tra fod Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yn cynnig dyddiau allan gwych. Heb sôn am gestyll Criccieth a Chaernarfon, pentref Eidalaidd Portmeirion, cerdded neu ddal trên i fyny'r Wyddfa a llawer mwy.

Traethau

  • Porthoer - (1.5 milltir)
  • Traeth Aberdaron - traeth tywod gydag adnoddau (3.5 milltir)   

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Llŷn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru) - 84 milltir o gwmpas Penrhyn Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Gellir ymuno â'r llwybr o stepen y drws 
  • Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd 4.5 milltir o hyd, yn cynnwys y pwynt uchaf ar Benrhyn Llŷn (15.5 milltir o'r bwthyn)   

Beicio

  • Lonydd tawel a heddychlon ar stepen y drws - perffaith ar gyfer beicio   

Marchogaeth

  • Canolfan Farchogaeth Pen Llŷn, Pwllheli. Addas ar gyfer pob lefel o brofiad (7 milltir) 
  • Canolfan Farchogaeth Llanbedrog - gwersi marchogaeth ayb. ar y traeth a'r bryniau (11 milltir)   
  • Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Delfrydol ar gyfer plant (13.7 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

  • Mae traeth Abersoch yn cynnig dŵr llyfn ar gyfer sgîo dŵr, hwylio, cychod pŵer a syrffio gwynt (11 milltir)   
  • Mae Porth Neigwl yn le poblogaidd i syrffwyr a byrddwyr (11.5 milltir)  

Golff

  • Clwb Golff Nefyn a'r cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll gyda golygfeydd anhygoel (11 milltir)   
  • Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll, ger y traeth (11 milltir)   
  • Canolfan Golff Llŷn, Pen-y-Berth - 15 bae gyrru, lawnt a byncar ymarfer, a cwrs golff 9 twll gyda golygfeydd o'r môr. Ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr mwy profiadol - gellir llogi clybiau (12.5 milltir)   

Pysgota

  • Nifer o gyfleoedd ar gyfer pob math o bysgota ar Benrhyn Llŷn - addas ar gyfer pob oed