Gadlas

Aberdaron, North Wales Coast

  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,568 yr wythnos
  • £224 y noson
  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 4 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Yn rhan o ddatblygiad newydd trawiadol a chyffrous, mae Gadlas yn un o ddau fwthyn mawr moethus ym Mhen Llyn. Rydyn ni i gyd yn chwilio am ychydig o faldod y dyddiau hyn, ac mae digon ohono yma. Mae nodweddion arbennig fel y sawna preifat, caban cawod/ager a gwres o dan y llawr drwy'r bwthyn yn rhai o'r pethau bach ychwanegol hynny sy'n gwneud i'r bythynnod moethus yma yn Llyn sefyll uwchlaw’r gweddill.

Mae'r berl ddiarffordd hon yn cynnig traethau i bob cyfeiriad, gweithgareddau ac atyniadau di-ben-draw ar garreg eich drws ac mae'r golygfeydd o Benrhyn Llyn yn syfrdanol.

Mae modd uno'r bwthyn hwn gyda'r bwthyn drws nesaf er mwyn lletya hyd at 24 o bobl o dan un to. Mae'r bythynnod wedi eu dylunio'n arbennig gan ystyried anghenion partïon mawr – ystafelloedd mawr i bawb gael dod at ei gilydd, a rhannau preifat llai pan fydd angen llonydd arnoch.

Llawr Gwaelod

Cegin ac ystafell fwyta cynllun agored hyfryd na fyddwch am eu gadael. Cegin dderw o'r radd flaenaf gyda phaent lliw hufen a thopiau gwenithfaen. Dwy ffwrn sengl fawr a hob anwytho mawr. Peiriant golchi llestri, microdon ac oergell wedi'u gosod yn rhan o'r gegin. Bwrdd bwyd mawr ar gyfer hyd at 14 o westeion, a theledu sgrin fflat. Llawr teils gyda gwres o dano sy’n defnyddio gwres naturiol y ddaear, a drysau patio yn agor allan i'r patio brecwast o flaen y bwthyn.

Sawna – Blwch sawna a llawr teils yn yr ystafell.

Ystafell wely 1 – dewis rhwng gwely maint brenin mwy neu welyau twin. Ystafell wlyb ensuite heb risiau i fynd iddi. Mae'r ystafell hon ar lefel y llawr yr holl ffordd o'r maes parcio – ac felly byddai'n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Ystafell wely 2 – Ychydig risiau i fyny o'r gegin – dewis o wely maint brenin mwy neu welyau twin.

Ystafell wely 3 – Ystafell wely deuluol gydag un gwely maint brenin a gwely bync maint llawn.

Ystafelloedd 2 a 3 yn rhannu ystafell ymolchi gyda blwch cawod-ager, basn a thy bach ar lawr teils.

*Cadarnhewch eich dewis o welyau yn Ystafelloedd 1 a 2

Cornel aml-bwrpas yn cynnwys peiriant golchi, sychwr dillad, lle cotiau ac esgidiau.

Ystafell aml-bwrpas y tu allan gyda rhewgell, lle cotiau ac esgidiau. Boeler ar gyfer y gwres dan y llawr.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 4 – Ystafell wely deuluol gydag un gwely maint brenin a dau wely sengl. Ystafell ymolchi ensuite gyda bath anhygoel arddull cwch o alwminiwm gloyw yng nghanol yr ystafell gyda thapiau cymysgu cawod.

Ystafell wely 5 – Gwely maint brenin gyda thy bach preifat a basn. Mae golygfeydd panoramig o Ben Llyn o'r ystafell hon – mae'n siwr mai hon fydd yr ystafell y bydd pawb am daflu ceiniog i'w chael!

Lolfa llawr cyntaf gyda golygfeydd rhagorol o fynydd Rhiw ar un ochr ac yn edrych yn ôl tuag at weddill Penrhyn Llyn ar yr ochr arall. Ail deledu. Soffa fawr ledr gyda llosgwr coed ar gyfer nosweithiau clyd a/neu ramantus yn y bwthyn.

Gardd

Patios brecwast o flaen y bwthyn gyda meinciau picnic i fwynhau haul y bore, sy'n agor allan i damaid o laswellt cyffredin. Mae gardd breifat gyda barbeciw a dodrefn bwyta allanol yn y cefn. Mynedfa a pharcio preifat.

Mae'r lle chwarae mawr cyffredin yn cynnwys ffrâm ddringo a goliau pêl-droed y gall gwesteion sy'n aros yn y ddau fwthyn hwn eu mwynhau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dillad gwely yn gynwysedig, dewch â'ch tywelion eich hunain.

Gwres a thrydan yn gynwysedig

Gwres o dan y llawr drwy'r bwthyn, gan ddefnyddio gwres naturiol y ddaear.

Caiff cot a chadair uchel eu darparu

Croeso i gwn – hyd at 2 neu 3 – mae rheolau llym ynghylch hyn. £60 yr un.

Digon o le parcio

Wifi ar gael.

Lleoliad

Mae’r llety hunan ddarpar hwn yng Ngogledd Cymru yn un o ddau fwthyn mewn lleoliad preifat, i lawr lôn wledig rhwng Bryncroes a Sarn Mellteyrn. Gyda golygfeydd anhygoel ac yn ganolig i weddill Penrhyn Llŷn, mae’n cynnig llwybrau cerdded cylchol ar hyd lonydd a llwybrau gwledig. Mae pentre Sarn Mellteyrn dri chwarter milltir o’r bwthyn - taith gerdded braf ynddi ei hun.

Mae pentref Sarn Mellteyrn yn cynnig crochendy, ystafelloedd te a dwy dafarn groesawus. Mae yma siop gyda swyddfa bost, a garej gyda siop sydd yn rhentu allan DVDs, yn ogystal â cae chwarae bychan. Mae traethau tywod hardd Penrhyn Llŷn, gan cynnwys Abersoch, Aberdaron a Nefyn, i gyd gerllaw, gyda’r traeth agosaf ond 3 milltir a hanner i ffwrdd.

Gellir cerdded, chwarae golff, mynd ar dripiau pysgota, a chymeryd rhan mewn chwaraeon dŵr oddi yma. Mae tref farchnad Pwllheli, trefi Criccieth a Phorthmadog, yn ogystal ac atyniadau hanesyddol a golygfaol niferus megis Parc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Ffestiniog, cestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion, i gyd o fewn cyrraedd i’r llety 5 seren hwn.

Traethau

Yn ganolog i’r holl draethau ar Benrhyn Llŷn. Yr agosaf yw Traeth Penllech, traeth hir, tywodlyd sy’n rhoi teimlad o unigedd (3.5 milltir)

Cerdded

Llwybr Arfordirol Llŷn - 84 milltir o amgylch Penrhyn Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Gellir ymuno â’r llwybr 3 milltir o’r llety, yn Penllech

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd, 4.5 milltir o hyd, sy’n cynnwys y pwynt uchaf ar Benrhyn Llŷn (12 milltir)

Marchogaeth

Stablau a Chanolfan Farchogaeth Pen Llŷn - Pwllheli. Stablau gyda reidiau addas ar gyfer pob lefel o brofiad (2.5 milltir).

Stablau Marchogaeth Llanbedrog - gwersi marchogaeth ayb. Reidiau ar y traeth a’r bryniau (6.5 milltir)

Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Reidiau ar y traeth a mwy. Addas ar gyfer plant a’r di-brofiad (9 milltir)

Chwaraeon Dŵr

Mae traeth Abersoch yn cynnig ei hun ar gyfer hwylio, syrffio a llawer mwy (6.5 milltir)

Mae Porth Neigwl yn fan poblogaidd ar gyfer syrffio a bordio (9 milltir)

Golff

Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll ger y traeth (6.5 milltir)

Clwb Golff Nefyn - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll gyda golygfeydd anhygoel (7.5 milltir)

Canolfan Golff Pen Llŷn – Pen-y-Berth. Cwrs gyrru 15 bae, lawnt a byncar ymarfer, a cwrs golff 9 twll gyda golygfeydd o’r môr. Ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr lefel uwch - clybiau ar gael i’w llogi (8 milltir)

Clwb Golff Pwllheli - cwrs golff 18 twll, yn addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu (10 milltir)     

Beicio

Nifer o lwybrau i feicio ar Benrhyn Llŷn

Pysgota

Ystod o gyfleon i bysgota ar Benrhyn Llŷn - opsiynau addas ar gyfer pob oedran