Bythynnod Sarn Group Cottages

Sarn Mellteyrn, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,610 yr wythnos
  • £230 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 3 o welyau dwbl
  • 4 o welyau sengl
  • 1 gwely bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 5 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae'r llety hwn wedi ei wneud fyny o dri bwthyn hunan ddarpar - gellir eu harchebu'n unigol neu fel rhan o grŵp. Cymerwch olwg ar Llofft Llyn (cysgu 4), Stabal y Sarn (cysgu 5) ac Ysgubor Llyn (cysgu 7)

Casgliad o 3 bwthyn hardd yng Ngogledd Cymru ar gyfer hyd at 16 o westeion, ar fferm deuluol ar Benrhyn Llŷn. Yn ganolog i'r holl draethau ac atyniadau gyda gardd fawr gaeedig gyda Barbaciw, siglenni, trampolîn, gôl pêl droed a mwy. Mwynhewch eistedd ar y patio - delfrydol ar gyfer prydiau bwyd alfresco neu i ymlacio mewn amgylchedd godidog. Perffaith ar gyfer ymgynull gyda teulu neu ffrindiau.


Bwthyn 1 - Ysgubor Llyn (cysgu 7 mewn 3 ystafell wely - 1 king, 1 twin, 1 gyda 3 gwely sengl) 


Llawr Gwaelod

Y mwyaf o'r tri bwthyn hunan ddarpar, mae Ysgubor Llŷn wedi ei addurno'n chwaethus drwyddo gyda trawstiau gwreiddiol a waliau cerrig. Mae'r ardal fyw agored yn cynnwys lle i eistedd gyda dwy soffa gyfforddus, tân trydan, teledu gyda chwaraewr fideo a DVD, a system CD/Hifi. Mae'r gegin dderw hardd gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, meicrodon a rhewgell fach.

Ystafell wely 1 - ystafell wely ar y llawr gwaelod gyda dau wely sengl ac ystafell ymolchi ynglwm gyda chawod sydd yn addas ar gyfer gwesteion anabl.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 2 - ystafell helaeth gyda gwely pedwar poster maint king.

Ystafell wely 3 - ystafell fawr gyda 3 gwely sengl a teledu/chwaraewr DVD.

Mae'r ystafell ymolchi foethus gyda cawod a baddon mawr whirlpool - perffaith i ymlacio!


Bwthyn 2 - Stabal y Sarn (cysgu 5 mewn 2 ystafell wely: 1 dwbwl, 1 gyda dwbwl a sengl)  


Llawr gwaelod

Mae Stabal y Sarn hefyd gyda ardal fyw agored gyda lolfa nenfwd uchel, trawstiau a waliau cerrig. Fe geir dwy soffa ddefnydd gysurus, dwy gadair ledr, teledu a chwaraewr DVD, a system CD/Hifi yn y lolfa. Mae'r gegin hardd yn cynnwys peiriant golchi llestri, meicrodon, oergell fawr, hob induction a phopty sengl, gyda topiau gwenithfaen. Bwrdd bwyta tŷ fferm wedi ei beintio ar gyfer 5 o bobl, a rhewgell fach yn y cwpwrdd dan y grisiau.

Ystafell wely 4 - gwely hardd pedwar poster gydag ystafell ymolchi ynghlwm ar y llawr gwaelod. Mae cawod a baddon mawr whirlpool yn yr ystafell ymolchi - delfrydol i ymlacio!

Mae'r bwthyn yn addas ar gyfer y llai abl sydd yn medru delio gydag ychydig o stepiau.

Llawr cyntaf

Ystafell wely 5 - un gwely dwbwl ac un sengl yn ogystal ag ystafell gawod breifat sydd wedi ei hadnewyddu'n ddiweddar.


Bwthyn 3 - Llofft Llŷn (cysgu 4 mewn 2 ystafell wely: 1 dwbwl, 1 bync)  
(Llety ar y Llawr Cyntaf)

Mae'r trydydd bwthyn gyda trawstiau agored ac ystafell fyw siâp L helaeth a chlud yn cynnwys cegin wledig hufen ar un pen gyda meicrodon, popty trydan, oergell, peiriant golchi llestri, bwrdd bwyd pîn a chadeiriau. Mae gan yr ardal fyw soffa ledr Chesterfield gyfforddus, cadair freichiau a thân trydan. Mae’r hen drawstiau i’w gweld, ac yn rhoi naws agored olau a helaeth. Teledu, chwaraewr fideo a DVD, yn ogystal â system CD/Hifi.

Ystafell wely 6 - gwely dwbwl efydd a haearn Fictorianaidd gyda dillad gwely newydd o gotwm Eifftaidd.

Ystafell wely 7 - gwely bync llawn maint

Mae cawod drydan bwerus yn yr ystafell ymolchi, unedau, teiliau a rheilen sychu tywelion.

 

Gardd

Mae gan pob bwthyn ei ardal batio ei hun yn edrych allan dros yr ardd. Mae'r ardd fawr yn le delfrydol a chaeedig ar gyfer gwesteion y tri bwthyn yn unig. Mae'n cynnwys Barbaciw nwy, siglenni a gôl pêl droed, yn ogystal â thŷ chwarae/ffram dringo gyda llithren a thrampolîn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwely, 1 tywel bath ac 1 tywel llaw yn gynwysedig. Ar gyfer defnydd yn y bwthyn yn unig - dim ar gyfer y traeth
  • Gwres canolog olew a thrydan yn gynwysedig  
  • Cot teithio, cadair uchel a giât diogelwch ar gael - dewch â’ch dillad eich hun ar gyfer y cot os gwelwch yn dda
  • Wifi ar gael
  • Ystafell golchi dillad ar wahân ar gyfer defnydd y 3 bwthyn sydd ar y safle ac mae’n cynnwys peiriant golchi a sychu dillad, y ddau ar fesurydd arian a rhewgell ddofn
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
  • Digon o le parcio

Lleoliad

Lleolir Bythynnod Sarn ar fferm wartheg, defaid a grawn yng nghanol Penrhyn Llŷn, ¼ milltir o bentref Sarn Mellteyrn gyda’i grochendy, canolfan gwaith coed, tai te a  thair tafarn (un ohonynt yn gweini bwyd). Ceir hefyd siop / swyddfa bost a garej gyda siop sy’n llogi DVDs yn y pentref, yn ogystal â chae chwarae bychan y gellir cerdded ato ar hyd llwybr braf drwy un o gaeau’r fferm.

Ar y safle, ceir digonedd o bethau i gadw’r plant yn ddiddan yn cynnwys cwningen, cath, ci a merlen ar yr iard. Mae croeso i chi grwydro o amgylch y fferm neu gallwch ofyn i’r perchennog am daith o amgylch yr anifeiliaid a’r fferm. Mae’r ardd fawr amgaeedig yn cynnig offer barbiciw, siglenni, llithren, gol pêl droed, den a thy chwarae yn ogystal â thrampolîn sy’n ffefryn mawr gyda gwestai.

Mae’r llety yn ganolog i Abersoch, Aberdaron, Nefyn a holl draethau tywod hardd Penrhyn Llŷn, gyda’r traeth agosaf 3.5 milltir i ffwrdd. Ceir digonedd o lwybrau cerdded, cyrsiau golff, tripiau pysgota ar y môr ac adnoddau chwaraeon dwr gerllaw. Hefyd o fewn pellter teithio byr, ceir tref farchnad Pwllheli, Cricieth a Porthmadog yn ogystal â nifer o atyniadau gwerth eu gweld megis Parc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Ffestiniog, cestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion.

Traethau

Canolog i holl draethau Penrhyn Llŷn. Yr agosaf yw Traeth Penllech, traeth tywod hir mewn llecyn cuddiedig, heddychlon. 3.5 milltir

Chwaraeon Dwr

Mae Traeth Abersoch yn cynnig dwr tawel ar gyfer tonfyrddio a sgïo dwr, hwylio, defnyddio cychod pwer a hwylfyrddio. 6.5 milltir

Mae Porth Neigwl yn lleoliad hynod boblogaidd gan syrffwyr a chorff-fyrddwyr. 9 milltir

Cerdded

Llwybr Arfordir Llŷn – 84 milltir o amgylch Penrhyn Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch â’r llwybr 3 milltir i ffwrdd, yn Penllech.

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd sy’n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llŷn. 4.5 milltir o hyd. 12 milltir o’r bythynnod.

Pysgota

Digon o gyfleoedd i bysgota ar Benrhyn Llŷn – dewisiadau addas ar gyfer pob oed.

Golff

Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 6.5 milltir.

Clwb Golff Nefyn a’r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o’r arfordir. 7.5 milltir.

Canolfan Golff Llŷn – Pen-y-Berth. Maes ymarfer i 15, grin a byncer ymarfer a chwrs 9 twll gyda golygfeydd o’r môr. I ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol – gellir llogi clybiau. 8 milltir.

Clwb Golff Pwllheli – cwrs golf 18 golff, addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu. 10 milltir.

Marchogaeth Ceffylau

Canolfan Farchogaeth Pen Llŷn – Pwllheli. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 2.5 milltir.

Stablau Marchogaeth Llanbedrog – Gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau traeth a mynydd. 6.5 milltir

Canolfan Farchogaeth Cilan – Abersoch. Teithiau traeth a mwy. Gwych i blant a dechreuwyr. 9 milltir.

Beicio

Cyfleoedd lu i feicio ar Benrhyn Llŷn