Y Feillionen

Aberdaron, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £498 yr wythnos
  • £71 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Gallwch ymlacio yn llwyr yn y ffermdy dymunol hwn o’r ail ganrif ar bymtheg, sydd wedi’i adnewyddu ac wedi’i leoli ar fferm mewn lleoliad gwledig hyfryd. Dyma’r lle perffaith i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd a mwynhau amser da gyda’ch partner, eich ffrindiau neu’r teulu. Mae’r bwthyn gwyliau hwn ym Mhen Llŷn yn croesawu anifeiliaid anwes, ac mae’n cynnwys stôf llosgi coed, dresel, dwy lofft ddwbl hyfryd, ac amgylchedd ysblennydd, ac mae’n agos iawn at nifer o draethau a phentrefi arfordirol hyfryd.  

Ychwanegiad Newydd Sbon i’r Wefan

Llawr Gwaelod

Mae’r lolfa’n cynnwys dresel ‘antique’, simdde fawr wreiddiol gyda stôf llosgi coed Clearview a chyffyrddiadau hyfryd. Mae’n glyd gyda chyfoeth o drawstiau derw gwreiddiol sy’n rhoi ymdeimlad gwirioneddol o draddodiad. Mae dwy soffa ledr fawr o flaen teledu sgrin gwastad mawr a chwaraewr DVD. Mae ffenestr yn edrych allan ar iard sy’n wynebu i’r de.

Mae gan yr ystafell fwyta fwrdd ffermdy wedi’i beintio a chadeiriau wedi’u clustogi, yn uniongyrchol o flaen ffenestr sy’n edrych allan dros yr ardd a man bwydo adar. Mae mapiau a llyfrau ar gael i’ch cynorthwyo i archwilio’r ardal leol, a hefyd gemau bwrdd, posau jig-so a nifer o lyfrau i’ch diddanu. Mae’r ystafell fwyta yn arwain at y gegin, gan greu amgylchedd teuluol lle gallwch sgwrsio tra bydd y prydau’n cael eu paratoi.

Mae’r gegin yn un dderw fodern gyda phopeth sydd ei angen arnoch, a’r gwaith cerrig gwreiddiol i’w weld ar rai o’r waliau. Mae peiriant golchi llestri, ffwrn drydan, hob 4 cylch, microdon, ac oergell/rhewgell. Mae ystafell ar wahân ar gyfer peiriant golchi dillad a sychwr dillad.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely en-suite (gydag uned gawod) gyda golygfa dros dir y fferm a thros yr arfordir. Ystafell gyfforddus a chwaethus gyda matres a dillad gwely o ansawdd uchel. Cwpwrdd dillad mawr, bwrdd ymbincio a theledu.   

Ystafell wely ddwbl, hefyd â golygfa dros dir y fferm a thuag at yr arfordir. Matres a dillad gwely o ansawdd uchel, gyda dodrefn lliw hufen a theledu. Mae’n bosibl ychwanegu gwely sengl at yr ystafell hon ar gais.

Mae’r ystafell ymolchi yn cynnwys bath haearn mawr, tŷ bach, sinc a rheilen cynhesu tyweli.

Gardd

Mae gan y bwthyn gwyliau hwn ym Mhen Llŷn iard cysgodol ei hun sy’n wynebu’r de gyda mainc bren a dodrefn patio – lle delfrydol i fwynhau prydau bwyd yn yr awyr agored, i dorheulo ar y cadeiriau mawr, ac i fwynhau tawelwch a llonyddwch cefn gwlad.  

Mae’r machlud haul yma yn drawiadol, felly dyma leoliad gwych i fwynhau rhyfeddodau’r awyr gyda’r nos. Mae set barbeciw yma, a lein ddillad fechan hefyd wrth gefn y bwthyn, yn ogystal â gardd amgaeedig yn y cefn, gyda 2 siglen a thrampolîn, sydd wedi’u rhannu.

Gall plant dreulio oriau yn yr ystafell deganau y tu allan sy’n wych i deuluoedd. Mae’r ystafell hon yn cynnwys teganau fel Lego, Duplo a fferm bren, doliau ac ati. Mae allweddell gerdd hefyd a bwrdd snwcer i blant. Dylid goruchwylio plant drwy’r amser oherwydd y grisiau sy’n arwain at yr ystafell hon.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croesawu yn cynnwys cacennau cartref a thorth ffres o fara o’r becws lleol, te, coffi a llaeth.
  • Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr. *Tyweli at ddefnydd y bwthyn yn unig, ac nid i’w defnyddio ar y traeth.
  • Darperir 1 sychwr gwallt.
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
  • Darperir y fasged gyntaf o goed am ddim, ac mae bagiau ychwanegol o goed ar gael gan y perchennog am £4.
  • Cot babi a chadair uchel ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hun ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
  • Wi-fi ar gael.
  • Croesewir hyd at 2 gi am £25 y pen
  • Parcio oddi ar y ffordd.
  • Sied feiciau sy’n gallu cloi.
  • Darperir y pethau hyn yn y gegin hefyd: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, cadachau llestri a/neu sgwrwyr newydd, ffoil a glynlen/cling ffilm.
  • Darperir y pethau hyn yn yr ystafelloedd ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn o bapur ym mhob ystafell ymolchi.
  • Darperir cynnyrch glanhau cyffredinol: glanhawr cawod, hylif gwrthfacteria ac ati.
  • Dim ysmygu yn y bwthyn os gwelwch yn dda.
  • Mae Asda a Tesco yn dosbarthu i’r ardal.
  • Os hoffech brofi bywyd ar fferm weithredol, gadewch inni wybod a gallwn drefnu taith o gwmpas y fferm i chi. Gallwch helpu i fwydo’r ieir, casglu wyau, a bwydo’r ŵyn bach a’r lloi.

Lleoliad

Mae’r bwthyn gwyliau hwn ym Mhen Llŷn wedi’i leoli i fyny lôn dawel, hudolus a gwledig mewn man delfrydol, drws nesaf i fwthyn gwyliau arall i 2. Dim ond 2 filltir o’r arfordir ydyw, ar fferm weithiol lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio fel y brif iaith. Mae’r gerddi a’r iard yn hynod o daclus ac wedi’u cadw’n dda, gyda blodau a llwyni tymhorol. Mae iard y fferm ar wahân i’r bwthyn, ac mae hynny’n golygu ei fod hyd yn oed yn fwy tawel. Dyma’r lleoliad delfrydol i archwilio pentrefi hardd, traethau ardderchog, traethau bychain a phorthladdoedd Pen Llŷn.

Mae pentref hyfryd Aberdaron 3 milltir i ffwrdd gyda thraeth tywod, tafarndai, caffis, siopau a becws hyfryd, a Phorth y Swnt, sef canolfan ddehongli yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Aberdaron yn berffaith ar gyfer diwrnod allan ymlaciol a chyfeirir ato fel ‘Land’s End Cymru’ weithiau. Am ganrifoedd, y pentref oedd y man gorffwys olaf ar gyfer pereririon a oedd yn teithio i Ynys Enlli; heddiw, gallwch ddilyn ôl-troed y pereririon drwy ddal cwch i Ynys Enlli o Borth Meudwy (3 milltir). Ffoniwch Colin i archebu eich taith ar 07971 0769895. I weld golygfeydd hardd, teithiwch i fyny Mynydd Mawr, Uwchmynydd lle gallwch weld draw i Ynys Enlli ac yn ôl dros Ben Llŷn.

Gallwn argymell nifer o leoedd bwyta ym Mhen Llŷn o fewn 10 milltir i’ch bwthyn gwyliau. Mae’r rhain yn cynnwys Tŷ Newydd a’r Ship yn Aberdaron (sef y tafarndai da agosaf hefyd), Neuadd Tremfan yn Llanbedrog (8 milltir) a’r Ship yn Edern (9 milltir). Mae hefyd yn werth ymweld â chaffi Plas yn Rhiw (2 filltir), y caffis yn Aberdaron (y Gegin Fawr, Hen Blas a siop goffi’r Becws), Caffi’r Cwm a chaffi Tŷ Newydd yn Uwchmynydd (4 milltir) – heb anghofio’r bwytai a’r caffis rhagorol a niferus yn Abersoch (8 milltir).

Ymysg yr atyniadau poblogaidd eraill yn yr ardal mae Plas yn Rhiw, plasty o’r 17fed ganrif yn y Rhiw sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (2 filltir). Mae hefyd yn werth ymweld â Phorthoer, sydd 4 milltir i ffwrdd yn unig ac sy’n enwog am gael tywod sy’n chwibanu. Mae’r traeth tlws a diarffordd hwn yn un o’r traethau mwyaf perffaith yng Nghymru – dyma le gwych i fynd iddo i ymlacio, ac mae caffi ar y traeth a theithiau cerdded hardd gerllaw. Mae Saffari Morol Top Cat (2 filltir) yn cynnig teithiau pysgota a gwylio bywyd gwyllt, ac yn Nefyn (11 milltir) mae amgueddfa forwrol llyn – neu beth am fynd ar daith o gwmpas bragdy lleol Cwrw Llŷn? Mae Canolfan Iaith Gymraeg a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn yn ddiwrnod allan gwych arall, lle mae caffi, traeth, teithiau cerdded a golygfeydd arbennig – fel y mae Cricieth gyda’i gastell Cymreig enwog.

Traethau

  • Porth Ysgo – rhaid ichi ymweld â thraeth cudd hardd Porth Ysgo, sy’n cynnig lleoliad gwirioneddol ramantaidd. Dim ond 1.7 milltir i ffwrdd ydyw, ac felly mae’n daith gerdded hyfryd – neu gallech yrru yno, wrth gwrs.
  • Traeth Aberdaron – traeth tywod ger cyfleusterau’r pentref tlws hwn. 3 milltir.
  • Traeth Penllech – 4 milltir.
  • Porthoer – 5 milltir.
  • Tywyn, Tudweiliog – traeth cuddiedig hyfryd y gallwch gyrraedd o’r llwybr arfordirol. 6.5 milltir.
  • Abersoch – 8 milltir.
  • Porthdinllaen – 10 milltir.

Dyma 10 o’r traethau mwyaf poblogaidd ym Mhen Llŷn.

Cerdded

  • Teithiau cerdded yn syth o’ch bwthyn.
  • Mynydd Rhiw – 1 filltir.
  • Llwybr Arfordirol Llŷn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan) – 84 milltir o gwmpas Pen Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Mae’r man ymuno lai na 2 filltir o’r bwthyn ym Mhorth Ysgo. Gellwch gadw lle ar y Bws Arfordirol o flaen llaw i fynd â chi o’r bwthyn i ben eich taith.
  • Yr Eifl – Cadwyn o fynyddoedd sy’n cynnwys y pwynt uchaf ar Ben Llŷn. 4.5 milltir o hyd. 15 milltir o’r bwthyn.

Beicio

Pysgota

  • Pysgota bras Llŷn Leisure – 1 filltir.
  • Darllenwch fwy am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i bysgota ar Ben Llŷn – opsiynau sy’n addas i bobl o pob oedran.

Golff

Merlota

  • Stabl a Chanolfan Farchogaeth Lusitano Pen Llŷn, Llaniestyn. Marchogaeth i bobl ag unrhyw fath o brofiad – 6 milltir.
  • Stablau Marchogaeth Llanbedrog – gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau ar draethau a bryniau. 8.5 milltir.
  • Canolfan Farchogaeth Cilan – Abersoch. Teithiau ar y traeth a mwy. Gwych ar gyfer plant a dechreuwyr. 11 milltir.
  • Dysgwch fwy am farchogaeth ar Ben Llŷn.

Chwaraeon Dŵr

  • Mae traeth Abersoch yn cynnig dŵr gwastad ar gyfer tonfyrddio a sgïo ar y dŵr, hwylio, mynd ar gychod pwerus a bordhwylio. 8 milltir.
  • Mae Porth Neigwl yn boblogaidd iawn gyda syrffiwyr a chorff-fyrddwyr. 9 milltir.
  • Dysgwch fwy am Chwaraeon dŵr ar Ben Llŷn.