Meillionen Fach

Aberdaron, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £416 yr wythnos
  • £59 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Dyma’r encil perffaith i ddianc o brysurdeb bywyd bob dydd, lle gallwch fwynhau gwyliau hunan-ddarpar braf, rhamantaidd i 2. Mae’r traeth agosaf a Llwybr Arfordirol Cymru o fewn 2 filltir ac mae nifer o draethau tywod a phentrefi arfordirol hyfryd o fewn 10 milltir. Mae croeso i anifeiliaid anwes, ac mae stôf llosgi coed groesawgar yma a golygfeydd anhygoel o’r stepen drws. Dyma leoliad gwych i archwilio ardal drawiadol Pen Llŷn ar hyd ei ffyrdd gwledig hudol.

Llawr Gwaelod

Gallwch ymlacio a dadflino yn yr hen ysgubor hon sydd wedi’i hadnewyddu mewn modd chwaethus ac sydd mewn lleoliad gwledig hyfryd. Ewch i mewn i ystafell fyw cynllun agored glyd ar y llawr gwaelod gyda nenfwd traddodiadol â thrawstiau, a llawr teils drwyddo draw.

Ymlaciwch ar y soffa neu gadair esmwyth gyfforddus gyda stôl droed a goleuwch y stôf llosgi Clearview. Mwynhewch bryd rhamantaidd ar y bwrdd derw crwn hynafol hyfryd. Teledu sgrin gwastad a chwaraewr DVD.

Cegin fodern gyda phopeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys peiriant golchi llestri, ffwrn drydan, hob 4 cylch, ac oergell gyda rhewgell yn rhan ohoni. Mae cwpwrdd mawr y gallwch gerdded i mewn iddo o dan y grisiau, sy’n cynnwys peiriant golchi dillad ac ychydig o le storio.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely fawr â charped, gyda gwely mawr iawn o safon uchel, a fydd yn rhoi noson heddychlon i chi ac yn adfywio eich meddwl. Matres, dillad gwely a dodrefn o ansawdd uchel. Cwpwrdd dillad mawr gosodedig gyda chwpwrdd sychu. Mae gwely soffa sengl yma hefyd sy’n addas i blentyn bach.

Ystafell gawod olau ac agored ar wahân, gyda chawod bwerus fawr yn y gornel, sinc a thŷ bach.

Gardd

Mae gan y bwthyn iard cysgodol ar wahân sy’n wynebu’r de, gyda mainc garreg draddodiadol a dodrefn patio. Mae’n ddelfrydol ar gyfer mwynhau prydau, torheulo, a mwynhau tawelwch a heddwch cefn gwlad. Mae machlud yr haul mor drawiadol yma, a gallwch syllu ar ryfeddodau’r awyr gyda’r nos. Mae 2 wely haul ar gael hefyd, a set barbeciw.

Ceir lein ddillad fechan a gardd amgaeedig yng nghefn y bwthyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd pecyn croesawu yn cynnwys cacennau cartref a thorth o fara ffres o’r becws lleol, te, coffi a llaeth.
  • Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr. *Mae’r tyweli at ddefnydd y bwthyn yn unig, ac ni ddylid eu defnyddio ar y traeth.
  • Darperir 1 sychwr gwallt.
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
  • Darperir 1 fasged o goed am ddim, ac mae bagiau ychwanegol o goed ar gael gan y perchennog am £4.
  • Wi-fi ar gael.
  • Darperir cot babi a chadair uchel ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
  • Croesewir hyd at 2 gi am £25 y pen
  • Parcio oddi ar y ffordd.
  • Sied y gellir ei gloi ar gyfer beiciau.
  • Darperir y pethau hyn yn y gegin hefyd: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestr/tabledi peiriant golchi llestri, cadachau llestri a/neu sgwrwyr newydd, ffoil a glynlen/cling ffilm.
  • Darperir yr hyn a ganlyn yn yr ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn o bapur tŷ bach.
  • Cynnyrch glanhau cyffredinol: glanhawr cawod, hylif gwrthfacteria ac ati.
  • Dim ysmygu y tu mewn i’r bwthyn os gwelwch yn dda.
  • Mae’r archfarchnadoedd Asda a Tesco yn dosbarthu i’r bwthyn.
  • Os hoffech brofi fferm weithredol, gadewch inni wybod a gallwn drefnu taith o gwmpas y fferm ar eich cyfer. Gallwch wylio’r gweithgareddau dyddiol ar y ffarm gan ddibynnu ar y tymor, a helpu i fwydo’r ieir, casglu wyau, a bwydo’r ŵyn bach a’r lloi.

 

Lleoliad

Bydd unrhyw un sy’n caru cefn gwlad wrth eu boddau â’r paradwys hwn. Mae’r bwthyn hwn yn un o bâr o dan yr un to, 2 filltir o’r arfordir, ac mae wedi’i leoli i fyny lôn wledig dawel, hudolus 1.4 milltir o brif ffordd y B4413, ar fferm weithiol lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio fel y brif iaith. Mae’r gerddi a’r iard yn hynod o daclus ac wedi’u cadw’n dda, gyda blodau a llwyni tymhorol. Mae iard y fferm ar wahân i’r bwthyn, ac mae hynny’n golygu ei fod hyd yn oed yn fwy tawel. Dyma’r lleoliad delfrydol i archwilio pentrefi hardd, traethau ardderchog, traethau bychain a phorthladdoedd Pen Llŷn.

Mae pentref hyfryd Aberdaron 3 milltir i ffwrdd gyda thafarndai, caffis, siopau a becws hyfryd, a Phorth y Swnt, sef canolfan ddehongli yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymysg y lleoedd gorau i fwyta yn yr ardal mae Tŷ Newydd a’r Ship yn Aberdaron, sef y tafarndai da agosaf hefyd (3 milltir), Neuadd Tremfan yn Llanbedrog (8 milltir) a’r Ship yn Edern (9 milltir). Mae hefyd yn werth ymweld â chaffi Plas yn Rhiw (2 filltir), y caffis yn Aberdaron (y Gegin Fawr, Hen Blas a siop goffi’r Becws), Caffi’r Cwm a chaffi Tŷ Newydd yn Uwchmynydd (4 milltir) – heb anghofio’r bwytai a’r caffis rhagorol a niferus yn Abersoch (8 milltir).

Mae nifer o atyniadau yn yr ardal, gan gynnwys Plas yn Rhiw – plasty o’r 17eg ganrif o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (2 filltir). Mae hefyd yn werth ymweld â phentref Aberdaron heb os, i gael diwrnod ymlaciol – cyn-bentref pysgota ydyw, a chyfeirir ato weithiau fel ‘Land’s End’ Cymru. Y pentref oedd man gorffwys olaf y pereririon a oedd yn teithio i Ynys Enlli. Mae hefyd yn werth ymweld â Phorthoer, sy’n enwog am gael tywod sy’n chwibanu! Mae’r traeth yn dlws a diarffordd – un o’r traethau mwyaf perffaith yng Nghymru. Dim ond 4 milltir i ffwrdd ydyw, ac mae’n lle gwych i fynd i ymlacio. Mae caffi ar y traeth a theithiau cerdded prydferth yno.

Profiad arbennig arall yw dal cwch i Ynys Enlli o Borth Meudwy (3 milltir). Ffoniwch Colin i archebu eich taith ar 07971 0769895. I weld golygfeydd hardd, teithiwch i fyny Mynydd Mawr, Uwchmynydd lle gallwch weld draw i Ynys Enlli ac yn ôl dros Ben Llŷn. Mae Saffari Morol Top Cat (2 filltir) yn cynnig bywyd gwyllt a theithiau pysgota, ac yn Nefyn (11 milltir), mae Amgueddfa Forwrol Llŷn a thaith o gwmpas bragdy lleol Cwrw Llŷn. Cerddwch ar hyd y llwybrau natur, ymwelwch â’r gerddi hardd ac archwiliwch nifer o wahanol fathau o adeiladau eco a threftadaeth yn Felin Uchaf, Rhoshirwaun (1 filltir). Mae Canolfan Iaith Gymraeg a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn yn ddiwrnod allan gwych arall, lle mae caffi, traeth, teithiau cerdded a golygfeydd arbennig – fel y mae Cricieth gyda’i gastell Cymreig enwog.

Traethau

  • Porth Ysgo – rhaid ichi ymweld â thraeth cudd hardd Porth Ysgo, sy’n cynnig lleoliad gwirioneddol ramantaidd. Dim ond 1.7 milltir i ffwrdd ydyw, ac felly mae’n daith gerdded hyfryd – neu gallech yrru yno, wrth gwrs.
  • Traeth Aberdaron – traeth tywod ger cyfleusterau’r pentref tlws hwn. 3 milltir.
  • Traeth Penllech – 4 milltir.
  • Porthoer – 5 milltir.
  • Porth Iago – 5 milltir.
  • Tywyn, Tudweiliog – traeth cuddiedig hyfryd y gallwch gyrraedd o’r llwybr arfordirol. 6.5 milltir.
  • Abersoch – 8 milltir.
  • Porthdinllaen – 10 milltir.

Dyma 10 o’r traethau mwyaf poblogaidd ym Mhen Llŷn.

Cerdded

  • Teithiau cerdded yn uniongyrchol o’r bwthyn.
  • Mynydd Rhiw – 1 filltir.
  • Llwybr Arfordirol Llŷn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan) – 84 milltir o gwmpas Pen Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Mae’r man ymuno agosaf lai na 2 filltir o’r bwthyn ym Mhorth Ysgo. Gallwch gadw lle ar y Bws Arfordirol o flaen llaw i fynd â chi o’r bwthyn i ben eich taith.
  • Yr Eifl – Cadwyn o fynyddoedd gan gynnwys y pwynt uchaf ar Ben Llŷn. 4.5 milltir o hyd. 15 milltir o’r bwthyn.

Beicio

Pysgota

  • Pysgota bras hamdden Llŷn – 1 filltir.
  • Darllenwch fwy am yr amrywiaeth o gyfleoedd i fynd i bysgota ar Ben Llŷn – opsiynau addas i bobl o bob oedran.

Golff

  • Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, ger y traeth. 8 milltir.
  • Clwb Golff Nefyn a’r Cyffiniau – 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll ar y clogwyn gyda golygfeydd arfordirol rhagorol. 10 milltir.
  • Canolfan Golffio Llŷn – Penyberth. Maes ymarfer golff 15 bae, man ymarfer potio a byncer a chwrs golff 9 twll gyda golygfeydd o’r môr. Addas i ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol – mae modd llogi ffyn golff. 11 milltir.

Merlota

  • Stabl a Chanolfan Farchogaeth Lusitano Pen Llŷn, Llaniestyn. Marchogaeth i bobl sydd ag unrhyw fath o brofiad – 6 milltir.
  • Stablau Marchogaeth Llanbedrog – gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau ar draethau a bryniau. 8.5 milltir.
  • Canolfan Farchogaeth Cilan – Abersoch. Teithiau ar y traeth a mwy. Gwych ar gyfer plant a dechreuwyr. 11 milltir.
  • Dysgwch fwy am farchogaeth ar Ben Llŷn.


Chwaraeon Dŵr

  • Mae traeth Abersoch yn cynnig dŵr gwastad ar gyfer tonfyrddio a sgïo ar y dŵr, hwylio, mynd ar gychod pwerus a bordhwylio. 8 milltir.
  • Mae Porth Neigwl yn lleoliad poblogaidd iawn ar gyfer syrffiwyr a chorff-fyrddwyr. 9 milltir.
  • Dysgwch fwy am chwaraeon dŵr ar Ben Llŷn.