Plas y Mor

Aberdaron, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £2,164 yr wythnos
  • £309 y noson
  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Pwll nofio
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 4 o welyau sengl
  • 1 gwely bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 5 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Os yn edrych am rywle arbennig i dreulio eich gwyliau, does dim rhaid edrych ymhellach na’r llety hwn gyda golygfeydd anhygoel o’r môr. Ty 5 seren enfawr mewn lleoliad ysblennydd ydy Plas y Môr, o fewn ei ardd ei hun ac yn edrych allan dros draeth tywodlyd 4 milltir o hyd. Yn cyfuno heddwch a phreifatrwydd, mae’n cynnig y man perffaith ar gyfer grwpiau mawr neu gynulliad teuluol. Llety helaeth, gyda nodweddion ychwanegol gwych megis ystafell chwaraeon - dyma Benrhyn Llyn ar ei orau.

Llawr Gwaelod

Byddai’n bosib treulio eich gwyliau cyfan yn y gegin/ystafell fwyta enfawr! Mae’r chwe panel gwydr yn fframio golygfa ddihafal o draeth Porth Neigwl a thu hwnt i fynyddoedd Eryri, gan ymgorffori drysau patio dwbwl sydd yn agor allan i batio mawr llawr llechen.

Mae’r gegin yn ysgafn, helaeth a modern gyda chypyrddau lliw carreg a llechen lwyd, a thopiau gwenithfaen. Ceir ynddi offer delfrydol ar gyfer grwpiau mawr gyda 2 bopty sengl, 2 olchwr llestri, hob anwytho mawr, oergell uchel a rhewgell arwahan, meicrodon, popty araf a pheiriant gwneud coffi. Mae digonedd o le i eistedd o amgylch y bwrdd bwyta mawr, gydag ynys yn cynnig arwynebedd gweithio ychwanegol neu far brecwast. Mae yno lawr teils, a hyd yn oed stôf llosgi coed, teledu ar y wal a soffa ledr ar gyfer nosweithiau oer y gaeaf!

Mae’r gegin yn cydrannu’r stôf goed ddwy-ochrog gydag ystafell fyw foethus, lle ceir soffa gornel ledr, teledu ar y wal, a charped ar y llawr. Mae tair ffenestr yn golygu fod yr ystafell yn ysgafn a golau, ac yn sicrhau y gwneir y mwyaf o’r golygfeydd anhygoel.

Ceir ail ystafell fyw helaeth gyda lle tân o’r 1920au (ddim mewn defnydd) a dreser Gymreig draddodiadol. Teledu sgrîn fawr a chwaraewr DVD, a charped ar y llawr.

Fe leolir y peiriant golchi, a’r peiriant sychu dillad mewn ystafell arwahan. Mae digon o le yma i gadw cotiau ac esgidiau.

Ystafell gawod sydd ar lefel y llawr gyda rheilen cynhesu tywelion a sychwr dwylo.

Llofft 1 - Llofft fawr ar y llawr gwaelod gydag ystafell ymolchi â chawod ynghlwm, a drysau patio yn agor allan i’r lawnt. Oddi yma gellir edrych allan ar ehangder glas y môr a thraeth mwyaf y Penrhyn. Ystafell heddychlon a phreifat gyda gwely maint king, bynciau a theledu sgrîn fflat.

Mynedfa gyda llawr parquet gwreiddiol.

Llawr Cyntaf

Llofft 2 - Llofft braf gyda gwely haearn maint king.

Llofft 3 - Gwely dwbwl derw a chwpwrdd dillad helaeth. Golygfa braf o fynydd y Rhiw gyda’i garped o grug ac eithin.

Llofft 4 - Gwelyau twin a lle tân wedi ei deilio (ddim mewn defnydd)

Llofft 5 - Mae gwely maint king a dodrefn derw yn y llofft hon, gyda hen le tân â theils glas yn ychwanegu at y moethusrwydd (ddim mewn defnydd)

Mae mynediad bwa hardd o’r 1920au yn arwain i’r ystafelloedd ymolchi yng nghefn y ty:

Ystafell gawod eang gyda rheilen cynhesu tywelion.

Ystafell ymolchi helaeth gyda baddon modern yn sefyll ar ben ei hun. Sinc fawr fodern o arddull ddiwydiannol gyda ffram haearn a rheilen cynhesu tywelion.

Ail Lawr

Man eistedd neilltuedig, yn ddelfrydol ar gyfer plant neu bobl ifanc sydd angen ardal preifat eu hunain i wylio teledu.

Ystafell cawod gyda rheilen cynhesu tyweli.

Llofft 6 - Ystafell ‘twin’ braf.

Gardd

Gardd fawr wedi ei chau i mewn gyda golygfeydd ysblennydd. Patio helaeth gyda dodrefn gardd, yn cynnwys Barbaciw nwy mawr.

Mae’r llety moethus hwn hefyd yn cynnig ystafell chwaraeon gyda bwrdd dartiau, tenis bwrdd, gêm bêldroed, hoci aer, a gêm ‘Connect 4’ fawr. Delfrydol ar gyfer tywydd gwlyb!

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso gyda cynnyrch lleol wrth i chi gyrraedd
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Basgedaid goed fawr (y gyntaf am ddim) - gellir prynu coed ychwanegol yn lleol yn ystod eich arhosiad
  • Dillad gwelyau, tywelion llaw a bath wedi eu darparu
  • *Gellir archebu triniaethau therapi harddwch a thylino ar gyfer eich arhosiad - manylion pellach ar gael os dymunir*
  • Sychwr gwallt ym mhob llofft
  • Cot a chadair uchel ar gael os oes angen
  • Dim ysmygu o fewn yr adeilad
  • Croeso i hyd at ddau anifail anwes (£30 yr anifail yn ychwanegol)
  • Digonedd o le parcio preifat
  • Noder y mwyaf o westeion ar y safle yw 14 - dim gwersylla ar unrhyw adeg.
  • Mae'r pris yn cynnwys yr holl wres a thrydan yn y llety, ond sylwer fod yna fesurydd (Meter) ar gyfer y gwres yn yr ystafell chwaraeon sydd yn defnyddio darnau £1 neu 20c

Lleoliad

Mae’r llety helaeth hwn sy’n cynnig golygfeydd o’r môr wedi ei leoli ar gyrion pentre tawel Rhiw. Mae ei leoliad arbennig yn sicrhau ei fod mewn man delfrydol i fwynhau un o olygfeydd gorau Penrhyn Llyn. Mae’r olygfa o Borth Neigwl ac Eryri, a throsodd i Sir Benfro ar ddiwrnod clir yn anhygoel.

Ym mhentref arfordirol Aberdaron (4 milltir) ceir sawl bwyty, siopau a dwy dafarn sydd yn gweini bwyd. Mae pentref Sarn Mellteyrn (hefyd yn 4 milltir) yn cynnig siop bentre, cigydd, crochendy, garej a dwy dafarn. Yn ogystal â thafarndai Y Llong a Tynewydd yn Aberdaron, mae Venetia a Coconut Kitchens yn Abersoch (6.5 milltir), Bryncynan a Nanhoron Arms yn Nefyn, yn cael eu hargymell fel llefydd i fwyta allan.

Mae Penrhyn Llyn yn ardal ddynodedig o harddwch naturiol arbennig, ble mae’r iaith a’r ffordd o fyw Cymreig yn parhau i ffynnu. Mae’n llawn o drysorau cudd sydd yn aros i gael eu darganfod, ac mae’n enwog am ei draethau a’i chwaraeon dwr. Gellir cerdded o’ch llety i Plas yn Rhiw, plasdy yr Ymddiriedaeth Cenedlaethol sydd yn ddyddiedig o’r ail ganrif ar bymtheg, gyda gardd arddurnol a golygfeydd bendigedig. Mae’n werth ymweld â’r dafarn ar y traeth ym Mhorthdinllaen, a chroesi ar long i Ynys Enlli. Gyda’n agos i 100 milltir o forlin gwefreiddiol, mae’n werth cymryd amser i archwilio llwybr yr arfordir sydd yn mynd yr holl ffordd o amgylch Penrhyn Llyn.

Atyniad gwych arall ydy Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn (17 milltir) gyda’i bae cuddiedig ei hun. Am ddiwrnod allan llawn hwyl mae’n werth ymweld â Pharc Glasfryn (cartio, bowlio deg ayb), neu os ydych am ymlacio, mae Plas Glyn-y-Weddw yn cynnig maenordy godidog gydag orielau, gerddi hardd ac ystafell dê gyda golygfeydd o’r môr. Gellir hefyd fwynhau diwrnodau allan ar yr Wyddfa, Rheilffordd Ffestiniog, cestyll Criccieth a Chaernarfon, a phentref Eidalaidd Portmeirion.

Traethau
  • Porth Neigwl - 4 milltir o draeth tywodlyd gyda syrffio gwych ac sydd yn caniatau cwn. Mynediad cyfyngedig ar droed o fewn 0.5 milltir / 7 milltir gyda char
  • Traeth Aberdaron - traeth tywodlyd godidog gyda phentref hardd Aberdaron a’i holl gyfleusterau yn gefndir iddo (4 milltir)
  • Traeth Abersoch - traeth tywodlyd sydd wedi derbyn gwobr Baner Las (6.5 milltir)
  • Gellir ymweld â rhagor o draethau gwych o fewn taith fer i’ch bwthyn gwyliau.
Cerdded
  • Llwybr Arfordirol Llyn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan). Gellir ymuno â’r llwybr o garreg y drws yn Rhiw, 0.1 milltir o’r bwthyn
  • Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd 4.5 milltir o hyd sydd yn cynnwys y man uchaf ar Benrhyn Llyn - (16.5 milltir)
Marchogaeth
  • Stablau a Chanolfan Farchogaeth Pen Llyn - Pwllheli. Stablau, gyda reidiau ar gyfer pob lefel o brofiad (6 milltir)
  • Stablau Marchogaeth Llanbedrog - gwersi marchogaeth ayb. Reidiau ar y traeth a’r bryniau (7.5 milltir)
  • Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Reidiau ar y traeth a mwy. Lle delfrydol i blant a’r rhai di-brofiad (8.5 milltir)
Golff
  • Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll, gerllaw’r traeth (6.5 milltir)
  • Canolfan Golff Llyn - Pen-y-Berth. Cwrs dreifio 15 bae, lawnt ymarfer a byncer, yn ogystal â chwrs golff naw twll gyda golygfeydd o’r môr.
  • Clwb Golff Nefyn a’r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll uwchben y clogwyni gyda golygfeydd arfordirol ysblennydd (12 milltir)
  • Clwb Golff Pwllheli - cwrs golff 18 twll, yn addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu (12 milltir)
Chwareon dwr
  • Saffari Morol Top Cat - Mwynhewch drip saffari morol ar long o amgylch arfordir hardd Penrhyn Llyn, yn cychwyn o’r Rhuol (hanner milltir o’r bwthyn). Gellir hefyd drefnu tripiau pysgota neu dripiau darganfod morloi ym misoedd Medi a Hydref. Cynigir tripiau deifio yn ogystal.
  • Mae Porth Neigwl yn fan poblogaidd ar gyfer syrffwyr a byrddwyr. Mynediad cyfyngedig ar droed o fewn 0.5 milltir / 7 milltir gyda char
  • Mae dwr llyfn traeth Abersoch yn berffaith ar gyfer byrddio a sgio dwr, hwylio, cychod pwer a hwylforio (6.5 milltir)