Stabal y Sarn

Sarn Mellteyrn, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £543 yr wythnos
  • £78 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Un o dri bwthyn hunan ddarpar - gellir eu harchebu ar y cyd fel Bythynnod Sarn Group Cottages i letya 16 o bobl. Cymerwch olwg ar Llofft Llyn (cysgu 4) ac Ysgubor Llyn (cysgu 7) am fwy o wybodaeth. 

Yn agos at holl draethau euraidd Penrhyn Llyn, mae'r bwthyn hwn yn ddelfrydol ar gyfer cyplau, grwpiau bach ac yn addas i blant. Mae'r ardd gaeedig gyda phopeth sydd gan blentyn ei angen, yn cynnwys siglen, llithren, gol peldroed, ty chwarae a thrampolin. Wedi ei leoli ar fferm weithiol, gellir gwneud cais i gwrdd â'r anifeiliaid (cwningen, cathod, cwn, ceffyl, defaid a gwartheg) - profiad o wyliau fferm gwirioneddol. 

Llawr Gwaelod

Cynllun agored gyda lolfa â nenfwd uchel, trawstiau a waliau cerrig. Mae'r lolfa gysurus gyda soffa a chadeiriau lledr, teledu, chwaraewr fideo a DVD, a system CD/HiFi. Mae'r dodrefn pîn traddodiadol i gyd wedi eu gwneud â llaw gan grefftwr lleol. 

Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, meicrodon a bwrdd bwyta crwn. 

Ystafell wely gyda gwely dwbwl 4 postyn a chyfleusterau ensuite, sy'n cynnwys uned gawod fawr a baddon trobwll mawr - delfrydol i ymlacio ynddo. 

Mae'r bwthyn yn addas ar gyfer person methedig sy'n medru ymdopi ag ambell i step y tu allan. 

Llawr Cyntaf

Ail ystafell wely gyda gwelyau dwbwl a sengl, ac ystafell gawod breifat sydd newydd ei hadnewyddu. 

Mae Stabal yn ddelfrydol ar gyfer dau gwpwl sydd am rannu bwthyn gyda'r fantais o fod â chyfleusterau preifat.

Gardd

Mae'r bwthyn hunan ddarpar hwn yng Ngogledd Cymru gyda patio a bwrdd yn edrych allan dros yr ardd. Mae gardd fawr estynedig yn cael ei rhannu rhwng y tri bwthyn ar y safle ac mae'n cynnwys barbaciw nwy, siglenni, gôl pêldroed, yn ogystal â thŷ chwarae/ffram ddringo gyda llithren, a trampolîn. Mae'r ardd yn gaeedig sy'n ei gwneud yn berffaith ar gyfer gwyliau teuluol. 

Gwybodaeth Ychwanegol   

  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau yn gynwysedig, yn ogystal ag 1 tywel llaw ac 1 tywel bath ar gyfer pob person. Tywelion ar gyfer y bwthyn yn unig, ddim i'r traeth
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât diogelwch ar gael os dymunir (dewch a dillad eich hun i'r cot)   
  • Wifi ar gael 
  • Ystafell golchi dillad arwahan yn cael ei rhannu rhwng y 3 bwthyn ar y fferm - yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad, a rhewgell (rhewgell fach ar gael yn y bwthyn hefyd)
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu   
  • Mae'r bwthyn hunan ddarpar hwn hefyd ar gael ar gyfer gwyliau byr. Gweler mwy o fanylion o dan ‘Prisiau'

Lleoliad

Lleolir llety gwyliau Stabal y Sarn ar fferm wartheg, defaid a grawn yng nghanol Pen Llŷn. ¼ milltir o bentref Sarn Mellteyrn gyda’i grochendy, canolfan gwaith coed, tai te a thri tŷ tafarn da (un ohonynt yn gweini bwyd). Ceir hefyd siop / swyddfa bost a garej gyda siop sy’n llogi DVDs yn y pentref, yn ogystal â chae chwarae bychan y gellir cerdded ato ar hyd llwybr braf trwy un o gaeau’r fferm.

Ar y safle, ceir digonedd o bethau i gadw’r plant yn ddiddan yn cynnwys cwningen, cath, ci a merlen ar yr iard. Mae croeso i chi grwydro o amgylch y fferm neu gallwch ofyn i’r perchennog am daith o amgylch yr anifeiliaid a’r fferm. Mae’r ardd fawr amgaeedig yn cynnig offer barbiciw, siglenni, llithren, gol pêl droed, den a thy chwarae yn ogystal â thrampolîn sy’n ffefryn mawr gyda gwestai.

Mae’r llety yn ganolog i Abersoch, Aberdaron, Nefyn a holl draethau tywod hardd Pen Llŷn, gyda’r traeth agosaf 3.5 milltir i ffwrdd. Ceir digonedd o lwybrau cerdded, cyrsiau golff, tripiau pysgota ar y môr ac adnoddau chwaraeon dwr gerllaw. Hefyd o fewn pellter teithio byr, ceir tref farchnad Pwllheli, Cricieth a Porthmadog yn ogystal â nifer o atyniadau gwerth eu gweld megis Parc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Ffestiniog, cestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion.

Traethau

Canolog i holl draethau Pen Llŷn. Yr agosaf yw Traeth Penllech, traeth tywod hir mewn llecyn cuddiedig, heddychlon. 3.5 milltir

Chwaraeon Dwr

Mae Traeth Abersoch yn cynnig dwr tawel ar gyfer tonfyrddio a sgïo dwr, hwylio, defnyddio cychod pwer a hwylfyrddio. 6.5 milltir

Mae Porth Neigwl yn lleoliad hynod boblogaidd gan syrffwyr a chorff-fyrddwyr. 9 milltir

Cerdded

Llwybr Arfordir Llŷn – 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch â’r llwybr 3 milltir i ffwrdd, yn Penllech.

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd sy’n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llŷn. 4.5 milltir o hyd. 12 milltir o’r apartment.

Pysgota

Nifer o gyfleoedd i bysgota ar Benrhyn Llŷn – dewisiadau addas ar gyfer pob oed.

Golff

Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 6.5 milltir.

Clwb Golff Nefyn a’r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o’r arfordir. 7.5 milltir.

Canolfan Golff Llŷn – Pen-y-Berth. Maes ymarfer i 15, grin a byncer ymarfer a chwrs 9 twll gyda golygfeydd o’r môr. I ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol – gellir llogi clybiau. 8 milltir.

Clwb Golff Pwllheli – cwrs golf 18 golff, addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu. 10 milltir.

Marchogaeth Ceffylau

Canolfan Farchogaeth Pen Llŷn – Pwllheli. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 2.5 milltir.

Stablau Marchogaeth Llanbedrog – Gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau traeth a mynydd. 6.5 milltir

Canolfan Farchogaeth Cilan – Abersoch. Teithiau traeth a mwy. Gwych i blant a dechreuwyr. 9 milltir.

Beicio

Digon o gyfleoedd i feicio ar Benrhyn Llŷn