Gwelfryn

Aberdaron, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £575 yr wythnos
  • £82 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:30
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn Gwyliau Hunanarlwyo yn Aberdaron, Gogledd Cymru. Lleolir bwthyn Gwelfryn uwchlaw paradwys Aberdaron, pentref mwyaf gorllewinol Pen Llyn. O fewn pellter cerdded 5 munud i’r pentref a’r traeth, mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer archwilio’r gornel hyfryd hon o Gymru gyda’i rhwydwaith o lwybrau cerdded gwledig ac arfordirol, ei thraethau a’i childraethau tywodlyd braf.

Llawr Gwaelod

Saif bwthyn Gwelfryn ei hun uwchlaw’r pentref ar begwn Pen Llyn sydd wedi ei phenodi yn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Ceir ffenestr grom yn yr ystafell fyw gyda golygfeydd hyfryd o gefn gwlad. Mae teledu, chwaraewr fideo a DVD ar gael. Mae’r gegin yn cynnwys oergell / rhewgell, microdon, golchwr llestri, peiriant golchi dillad a’r holl gyfarpar arall sydd ei angen ar gyfer gwyliau hunanarlwyo.

Ceir 1 ystafell wely ddwbl ac un twin yn y bwthyn. Mae’r bathrwm yn cynnwys bath a chawod uwch ei ben, sinc, toiled a phwynt eillio.

Gardd

Gardd amgaeedig a thaclus gyda dodrefn. Mae’n ddiogel i blant chwarae ynddi a cheir sied â chlo sy’n addas ar gyfer cadw beiciau ayb hefyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Nid yw’r perchnogion yn gallu caniatáu anifeiliaid anwes yn anffodus.

Gwresogyddion storio yn ogystal â rhai trydan ychwanegol yn yr ystafelloedd byw a bwyta. Trydan a gwres yn gynwysedig.

Darperir dillad gwely a thyweli ond gofynnir i westai ddod a’u tyweli glan môr eu hunain, yn ogystal â dillad ar gyfer y cot.

Cot, cadair uchel a giat ddiogelwch ar gael ar gais.

Parcio oddi ar y ffordd ar gael.

Caniateir gwyliau byrion yn ystod canol / penwythnosau yn y tymor tawel. Gweler y manylion o dan ‘Prisiau’.

 

Lleoliad

Mae bwthyn gwyliau Gwelfryn o fewn 5 munud ar droed i draeth tywod Aberdaron a gweddill atyniadau’r pentref hyfryd hwn. Mae lleoliad Gwelfryn yn ddelfrydol ar gyfer archwilio Pen Llyn gyda’i rwydwaith o lwybrau cerdded, yn cynnwys y llwybr arfordirol, ei draethau euraid hardd a’i gildraethau.

Ewch ar daith cwch o Aberdaron i Ynys Enlli, cyn-safle pererindod grefyddol sydd bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol. Rhowch dro ar bysgota, marchogaeth neu golff a manteisiwch ar y cyfle i gartio, bowlio deg ac ati ym Mharc Glasfryn. Mae’n werth ymweld â Phlas Glyn-y-Weddw - plasty bendigedig sydd ag orielau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd gwych o’r môr, ac mae Rheilffordd Ffestiniog, nifer o gestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion oll gerllaw.

Mae Pen Llyn, lle mae’r iaith Gymraeg a’r ffordd Gymreig o fyw yn parhau i ffynnu, yn enwog am ei draethau hardd a chwaraeon dwr. Gyda bron i 100 milltir o arfordir trawiadol yn amgylchynu nifer o fryniau bach a mawr, ynghyd â mynyddoedd mawreddog Eryri yn y cefndir, mae’n le gwych i ddod am wyliau cerdded hefyd.

Traethau

Traeth Aberdaron – traeth tywod hardd gyda phentref prydferth Aberdaron yn edrych drosto. 0.5 milltir

Chwaraeon Dwr

Mae Traeth Abersoch yn cynnig dwr tawel ar gyfer tonfyrddio a sgïo dwr, hwylio, defnyddio cychod pwer a hwylfyrddio. 12 milltir

Mae Porth Neigwl yn lleoliad hynod boblogaidd gan syrffwyr a chorff-fyrddwyr. 13 milltir

Cerdded

Llwybr Arfordir Llyn – 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch â’r llwybr 0.5 milltir o’r bwthyn

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd sy’n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llyn. 4.5 milltir o hyd. 17 milltir o’r bwthyn.

Golff

Clwb Golff Nefyn a’r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o’r arfordir. 12 milltir

Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 12 milltir

Canolfan Golff Llyn – Pen-y-Berth. Maes ymarfer i 15, grin a byncer ymarfer a chwrs 9 twll gyda golygfeydd o’r môr. I ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol – gellir llogi clybiau. 14 milltir

Clwb Golff Pwllheli – cwrs golf 18 golff, addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu. 9 milltir.

Marchogaeth Ceffylau

Canolfan Farchogaeth Pen Llyn – Pwllheli. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 8 milltir

Stablau Marchogaeth Llanbedrog – Gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau traeth a mynydd. 12 milltir

Canolfan Farchogaeth Cilan – Abersoch. Teithiau traeth a mwy. Gwych i blant a dechreuwyr. 15 milltir

Beicio

Digonedd o ffyrdd a llwybrau gwledig i bob cyfeiriad