Bwthyn Porthoer

Aberdaron, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £852 yr wythnos
  • £122 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pwll nofio

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely sengl
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r bwthyn 5 seren hwn gyda thwb poeth preifat yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau bwthyn arfordirol ar Benrhyn Llyn. O fewn pellter cerdded i draeth Porthoer, fe leolir Bwthyn Porthoer mewn man hardd a heddychlon gyda golygfeydd godidog a gardd fawr amgaeedig - perffaith ar gyfer plant neu anifeiliaid. O fewn 2 filltir i Aberdaron, y pentref mwyaf gorllewinol ar Benrhyn Llyn, ble dowch o hyd i gaffis bach, tafarndai/bwytai a thraeth tywodlyd arall.

Llawr Gwaelod

Ardal fyw helaeth a chroesawgar gyda golygfeydd anhygoel dros yr ardd a thu hwnt. Mae’n cynnwys lolfa, cegin ac ardal fwyta agored gyda gwres o dan y llawr.

Cegin dderw gyda phopeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys peiriant golchi llestri, popty trydan, hob anwytho, meicrodon a bwrdd bwyta derw.

Mae yna soffas lledr yn y lolfa gyda drysau patio mawr sy’n gwneud i’r ardd ymddangos fel pe bai yn rhan o’r ystafell fyw. Teledu mawr ar y wal gyda DVD a Wi-Fi yn gynwysedig.

Prif ystafell wely gyda gwely maint king, ystafell gawod ensuite gyda thoiled a gwres o dan y llawr.

Ystafell wely dwbl gyda chwpwrdd gwisgo, cwpwrdd dillad, byrddau bach ger y gwely a lampau.

Ystafell wely fawr yn cysgu 4 gyda dau wely sengl a gwely bync.

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod arwahan, a gwres o dan y llawr.

Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad, a rhewgell.

Gardd

Gardd fawr amgaeedig gyda thrampolîn, barbeciw nwy a golygfeydd anhygoel o gefn gwlad. Lleoliad delfrydol i ymlacio a mwynhau bwthyn gwyliau arfordirol ar Benrhyn Llyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
  • Darperir dillad gwelyau a sychwr gwallt
  • Wi-fi ar gael
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir
  • Croeso i 2 anifail anwes am bris ychwanegol
  • Dim ysmygu tu mewn
  • Digon o lefydd parcio preifat
  • Mwyafrif o 6 oedolyn (gwely bync yn addas ar gyfer plant yn unig)

Lleoliad

Mwynhewch wyliau arfordirol yng Nghymru mewn lleoliad heddychlon ar Benrhyn Llyn. Wedi ei leoli ar lôn wledig gyferbyn â fferm y perchnogion, mae’r bwthyn hwn yn un o ddau ar y safle. O fewn pellter cerdded (1/4 milltir) o draeth yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol ym Mhorth Oer - traeth hyfryd ble mae’r tywod yn chwibanu o dan eich traed pan fo’r amodau’n iawn. Gallwch hefyd ymuno â’r llwybr arfordirol yma a mwynhau golygfeydd godidog o Ynys Enlli neu Eryri.

Mae Ynys Enlli 2 filltir o’ch bwthyn, gellir mynd yno ar gwch o Borth Meudwy. Dyma gyn gyrchfan pererindod grefyddol sydd bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol. Hefyd 2 filltir i ffwrdd mae pentref glan y môr Aberdaron. Dyma bwynt mwyaf gorllewinol Penrhyn Llyn ble dewch o hyd i draeth tywodlyd, dwy dafarn gwerth chweil, a thai bwyta, caffis, a becws ble gallwch gael bara ffres bob bore, siop Spar, siop bapurau newydd a siop ar gyfer y traeth.
Mae yna hefyd nifer o draethau anhygoel eraill i chi eu mwynhau yn cynnwys Abersoch a Phwllheli, ‘prifddinas’ Penrhyn Llyn. Mae Penrhyn Llyn yn ardal nodedig o harddwch naturiol eithriadol ble mae’r iaith Gymraeg a’r ffordd Gymreig o fyw yn parhau i ffynnu. Mae’r ardal yn adnabyddus am chwaraeon dwr a phentrefi bach arfordirol hyfryd. Gyda 84 milltir o arfordir anhygoel, nifer helaeth o fryniau sy’n amrywio o ran uchder yn ogystal â mynyddoedd godidog Eryri ar garreg eich drws, mae hefyd yn le gwych ar gyfer gwyliau cerdded.

Llefydd eraill sy’n cael eu hargymell i ymweld â nhw yw maenordy hanesyddol Plas yn Rhiw (6 milltir), Canolfan Addysgiadol Felin Uchaf (5 milltir) a nifer o gestyll, gan gynnwys Criccieth (26 milltir) a Chaernarfon (35 milltir). Ar gyfer dyddiau llawn hwyl i’r teulu, rhaid ymweld â Pharc Glasfryn lle gellir cymryd rhan mewn gweithgareddau megis go-cartio, bowlio deg, saethyddiaeth ayyb, ynghyd â Rheilffordd Ffestiniog, pentref Eidalaidd Portmeirion, Parc Gelli Gyffwrdd a’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis.

Traethau
  • Traeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Porth Oer (0.25 milltir).
  • Traeth Aberdaron – traeth tywodlyd godidog gyda’r pentref hyfryd hwn yn gefndir iddo (2 filltir).
Cerdded
  • Llwybr Arfordirol Llyn - 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch â'r llwybr 0.2 milltir o’r bwthyn.
  • Yr Eifl – cadwyn o fynyddoedd 4.5 milltir o hyd yn cynnwys y pwynt uchaf ar Benrhyn Llyn (18 milltir).
Beicio
  • Gellir llogi beiciau yn Aberdaron ac mae digon o lonydd cefn gwlad heddychlon i deithio arnynt.
Pysgota
  • Llynnoedd Llyn - dau lyn wedi eu tirlunio yn hyfryd ac yn llawn carpiaid a gwarchennod (4.5 milltir).
Marchogaeth
  • Canolfan Farchogaeth Pen Llyn ym Mhwllheli - fferm styd gyda reidiau ar gyfer pob oed a gallu (9 milltir).
  • Stablau Marchogaeth Llanbedrog – gwersi marchogaeth ayyb. Teithiau ar y traeth a‘r bryniau (13 milltir).
  • Canolfan Farchogaeth Cilan yn Abersoch - marchogaeth ar y traeth a mwy. Delfrydol ar gyfer plant a phobl dibrofiad (14 milltir).
Chwaraeon Dwr
  • Mae traeth Abersoch yn cynnig dwr llyfn ar gyfer ton-fyrddio a sgïo dwr, hwylio, cychod pwer a hwylforio (12 milltir).
  • Porth Neigwl - lle poblogaidd iawn ar gyfer syrffywr a chorff-fyrddwyr (13 milltir).
Golff
  • Clwb Golff Nefyn a’r Cyffiniau - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll uwchben y creigiau gyda golygfeydd arfordirol ysblennydd (12 milltir)
  • Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll ger y traeth (12.5 milltir)