- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £588 yr wythnos
- £84 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Chwaraeon dŵr
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mae Llety’r Dderwen wedi ei leoli’n ddelfrydol - yn wledig, ond eto 7 milltir yn unig o ganol tref Wrecsam a 9 milltir o dref brydferth Llangollen. Saif y bwthyn gwledig, moethus hwn ar fferm weithiol ac os hoffech chi ddod â’ch ceffyl gyda chi ar eich gwyliau i gefn gwlad Gogledd Cymru, gellir darparu stabl iddo yntau hefyd. Os ydych chi awydd diwrnod ychydig yn fwy egsotig yna gellir teithio i Sw Caer, 25 milltir i ffwrdd.
Llawr Gwaelod
Mae’r bwthyn hunanarlwyo gwledig hwn yn cynnwys cegin ac ardal fwyta agored gyda waliau brics, calchfaen a llawr derw. Popty trydan a microdon yn gynwysedig. Mae’r iwtiliti hefyd yn cynnwys yr holl gyfarpar glanhau angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi, oergell/rhewgell ac offer smwddio. Boeler gwres canolog.
Ceir dodrefn a llawr derw yn y lolfa, gyda soffas lledr a theledu. Drws yn arwain allan i’r patio a’r ardd.
Ystafell wlyb â chawod, tolied a sinc ar y llawr gwaelod hefyd.
Llawr Cyntaf
Ceir lloriau pren a dwy ystafell wely yn Llety’r Dderwen. Dodrefn pîn gwledig eu naws sydd yn yr ystafell ddwbl a dodrefn hufen yn yr ystafell twin gyda llawr derw. Mae trydedd ystafell ar y llawr cyntaf hefyd gyda futon y gellir ei ddefnyddio i eistedd arni ac ymlacio.
Gardd
Mae gan y bwthyn hunan arlwyo hwn ardal batio, dodrefn gardd a lawnt hyfryd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gall gwestai ddod a’u ceffylau gyda nhw oherwydd ceir stablau a chyfleusterau llawn iddynt ar y safle. (tâl bychan o £25 y ceffyl/merlyn, i’w dalu i’r perchennog wrth i chi gyrraedd.
Dillad gwely, tywelion llaw a bath yn gynwysedig yn y pris.
Cot ar gael, dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Ni chaniateir ysmygu nac anifeiliaid anwes yn y bwthyn.
Gwres a thrydan yn gynwysedig.
Digonedd o le parcio.
Gwyliau byr ar gael trwy gydol y flwyddyn.
Lleoliad
Mae’r bwthyn hunan-ddarpar wedi ei leoli ar fferm weithiol, dwy filltir o’r pentref agosaf. Wedi ei amgylchynu gan drefi hanesyddol gyda llwybrau cerdded a beicio sydd yn fwrlwm o olygfeydd wrth i chi igamogamu drwy gefn gwlad, gan gynnwys llwybrau cerdded y Clawdd Offa, 2 filltir i ffwrdd.
Mae’r holl fywyd gwyllt, a’r cyfle i bysgota, gwylio adar a marchogaeth ceffylau yn ei wneud yn lleoliad braf i’r rhaid sy’n gwirioni ar natur yn eich plith. Fodd bynnag, os ydych chi’n dymuno rhywbeth rhywfaint yn fwy egsotig , beth am ymweld â Sw Caer, dim ond 25 milltir i fyny’r ffordd.
Cerdded
Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa (177 milltir i gyd) yn dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Ymunwch ag adran Melin Y Waun - Llandegla, 2 filltir i ffwrdd.
Llwybr Gogleddol y Berwyn, Llwybr Dyffryn Dyfrdwy a Llwybr Clwydian - i gyd o Langollen, 9 milltir o’r bwthyn.
Coed Llandegla - Amrywiaeth o lwybrau drwy’r goedwig, diwrnod hamdden gwych i’r teulu, 14 milltir.
Chwaraeon Dwr
Rafftio Dwr Gwyn, Canwio a Rafftio - Llangollen. Amrywiaeth o weithgareddau dwr a dan do sydd yn addas ar gyfer pawb, 9 milltir.
Pysgota
Pysgota Y Waun - dau lyn ar gyfer pysgota gyda phry a phwll abwyd ar wahân i blant, 9 milltir.
Afon Dyfrdwy - Llangollen, 6 milltir o bysgota afon, 9 milltir o’r bwthyn.
Pysgodfa Commonwood - Pysgota llyn ar gyfer pob gallu, 12 milltir.
Golff
Clwb Golff Llangollen, cwrs deunaw twll, 9 milltir.
Beicio
Coed Llandegla - beicio mynydd o’r safon uchaf sydd yn addas ar gyfer pob gallu a lefelau ffitrwydd, 14 milltir.
Marchogaeth
Dewch â’ch ceffyl ar wyliau - Mae gan Lety’r Dderwen stablau a chyfleusterau marchogaeth ar y safle.
Stablau Marchogaeth Fferm Springhill - Stablau gydag amrywiaeth o geffylau i bawb yn Nyffryn Ceiriog, 15 milltir.