- £610 yr wythnos
- £87 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Chwaraeon dŵr
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae Llety’r Dderwen wedi ei leoli’n ddelfrydol - yn wledig, ond eto 7 milltir yn unig o ganol tref Wrecsam a 9 milltir o dref brydferth Llangollen. Saif y bwthyn gwledig, moethus hwn ar fferm weithiol ac os hoffech chi ddod â’ch ceffyl gyda chi ar eich gwyliau i gefn gwlad Gogledd Cymru, gellir darparu stabl iddo yntau hefyd. Os ydych chi awydd diwrnod ychydig yn fwy egsotig yna gellir teithio i Sw Caer, 25 milltir i ffwrdd.
Llawr Gwaelod
Mae’r bwthyn hunanarlwyo gwledig hwn yn cynnwys cegin ac ardal fwyta agored gyda waliau brics, calchfaen a llawr derw. Popty trydan a microdon yn gynwysedig. Mae’r iwtiliti hefyd yn cynnwys yr holl gyfarpar glanhau angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi, oergell/rhewgell ac offer smwddio. Boeler gwres canolog.
Ceir dodrefn a llawr derw yn y lolfa, gyda soffas lledr a theledu. Drws yn arwain allan i’r patio a’r ardd.
Ystafell wlyb â chawod, tolied a sinc ar y llawr gwaelod hefyd.
Llawr Cyntaf
Ceir lloriau pren a dwy ystafell wely yn Llety’r Dderwen. Dodrefn pîn gwledig eu naws sydd yn yr ystafell ddwbl a dodrefn hufen yn yr ystafell twin gyda llawr derw. Mae trydedd ystafell ar y llawr cyntaf hefyd gyda futon y gellir ei ddefnyddio i eistedd arni ac ymlacio.
Gardd
Mae gan y bwthyn hunan arlwyo hwn ardal batio, dodrefn gardd a lawnt hyfryd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gall gwestai ddod a’u ceffylau gyda nhw oherwydd ceir stablau a chyfleusterau llawn iddynt ar y safle. (tâl bychan o £25 y ceffyl/merlyn, i’w dalu i’r perchennog wrth i chi gyrraedd.
Dillad gwely, tywelion llaw a bath yn gynwysedig yn y pris.
Cot ar gael, dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Ni chaniateir ysmygu nac anifeiliaid anwes yn y bwthyn.
Gwres a thrydan yn gynwysedig.
Digonedd o le parcio.
Gwyliau byr ar gael trwy gydol y flwyddyn.