Groesfaen Bach

Denbigh, North Wales Borderlands

  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,922 yr wythnos
  • £275 y noson
  • 5 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 5 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 6 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae ffermdy modern Groesfaen Bach yn cynnig llety moethus hunan-ddarpar yng Ngogledd Cymru ac mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd a grwpiau mawr. Wedi ei leoli ar fferm weithredol mewn llecyn heddychlon ynghanol cefn gwlad, gydag arfordir Gogledd Cymru o fewn 6 milltir a Llwybr Cerdded Clawdd Offa 1.5 milltir yn unig i ffwrdd. Ar odrau tawel Bryniau Clwyd sy’n ymestyn o’r arfordir yr holl ffordd i Langollen, mae hon yn un o ddim ond wyth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol drwy Gymru gyfan.

Llawr Gwaelod

Lolfa yn cynnwys tân nwy, teledu 50", DVD a Radio/CD. Ystafell helaeth iawn gyda dwy soffa i 3, un soffa i 2, 1 gadair, 2 gadair ddarllen, 1 pwffi a bwrdd coffi.

Ystafell fwyta / cegin gyda phopty trydan integredig ar lefel y llygad, hob, microdon, oergell steil Americanaidd gyda bocs rhew, golchwr llestri ac ynys fawr yn y canol ar gyfer paratoi bwyd. Arwyneb gwenithfaen i’r cyfan. Bwrdd bwyd hir i 12 yn ogystal â bar brecwast gyda 2 sedd uchel, teledu ar y wal a golygfeydd trawiadol dros dir gwledig.

Ystafell wely 1: Gwely maint super king, cîst o ddroriau, 2 gwpwrdd ger y gwely ac ystafell cadw dillad. Ystafell ymolchi en suite, toiled a basn ymolchi.

Ystafell ymolchi ar wahân yn cynnwys cawod toiled a basn ymolchi.

Ystafell iwtiliti gyda pheiriant golchi dillad, sinc ac arwyneb gweithio.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 2: Gwely bync triphlyg - gwely dwbl ar y gwaelod a gwely sengl uwchben, yn ogystal â chist o ddroriau.

Ystafell wely 3: Gwely maint king gyda chypyrddau ger y gwely a chyfleusterau en suite yn cynnwys cawod, toiled a basn ymolchi. Ystafell cadw dillad, balconi gyda bwrdd a chadeiriau patio a golygfeydd bendigedig.

Ystafell wely 4: Gwely maint super king, cypyrddau ger y gwely, cist o ddroriau ac ystafell cadw dillad. Cyfleusterau en suite yn cynnwys cawod, toiled a basn ymolchi.

Ystafell wely 5: Gwely maint super king gyda chypyrddau ger y gwely, cist o ddroriau a chwpwrdd dillad.

Ystafell ymolchi 1: Bath ar goesau, cawod ar wahân, toiled a basn ymolchi.

Ail Lawr

Ystafell wely 6: Gwely maint king gyda chypyrddau ger y gwely, ystafell cadw dillad a chypyrddau storio ar hyd yr ymylon.

Ystafell wely 7: Dau wely sengl gyda chypyrddau ger y gwelyau a chwpwrdd dillad.

Ystafell ymolchi 2: Bathrwm steil 'Siôn a Siân’ gyda mynediad o ystafelloedd gwely 6 a 7 gyda chawod uwchben y bath, toiled a basn ymolchi.

Gardd

Gardd fawr amgaeedig gydag ardal patio a seddi ar gyfer hyd at 14. Golygfeydd dros gyfres o fynyddoedd a chefn gwlad agored o’r ty ac o’r ardd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwres olew canolog a thrydan yn gynwysedig

Darperir dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt

Darperir cot a chadair uchel ar gais

WiFi yn gynwysedig

Dylid goruchwylio plant ifanc os ydynt allan o gwmpas y fferm.

Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu yn y bwthyn.

Digonedd o le barcio.

Lleoliad

Mae ffermdy Gorsfaen Bach wedi ei leoli mewn cefn gwlad hyfryd - llai na 6 milltir o arfordir Gogledd Cymru a dim ond 1.5 milltir o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Wedi ei leoli mewn ardal heddychlon wrth droed bryniau Clwyd sy’n mynd o’r arfordir holl ffordd i Langollen, un o’r wyth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol drwy Gymru gyfan.

Wedi ei leoli ar fferm weithiol dawel, mae’r llety hunan ddarpar hwn yng Ngogledd Cymru filltir yn unig o’r siop agosaf yng Nghaerwys a hefyd milltir o’r dafarn/bwyty agosaf (Black Lion ym Mhabell) sy’n gweini bwyd gwych. Bwyty arall a argymhellir yn yr ardal yw Tafarn Glan yr Afon ym Milwr, sydd hefyd yn dod gyda gwasanaeth i westai Groesfaen Bach gael lifts am ddim. Mae hefyd amrywiaeth o’r nwyddau angenrheidiol ar gael yn Nhreffynnon, 4 milltir i’r gogledd.

Mae’r ardal hon wir yn nefoedd ar gyfer cerddwyr a beicwyr gydag amrywiaeth o lwybrau traeth a lonydd tawel i’w harchwilio ym mhob cyfeiriad. Unwaith yr ydych yn y car, dim ond ychydig o filltiroedd i ffwrdd mae’r arfordir ble gallwch fwynhau digon o draethau tywodlyd, yr SeaQuarium a’r Sun Centre yn Rhyl, S? Mynydd Cymru ym Mae Colwyn a phier Fictorianaidd hyfryd, tripiau cwch, Canolfan Sgïo a Eirafyrddrio, tobaganio ayyb yn Llandudno. Ychydig pellach i’r gorllewin mae tref gaerog hanesyddol Conwy gyda’i gastell ysblennydd - un o’r ychydig o lefydd arbennig yn Ynysoedd Prydain i gael statws Safle Treftadaeth y Byd.

Ewch i ymweld â Gerddi Ymddiriedolaeth Genedlaethol Bodnant, ewch i weld Parc Gwledig Loggerheads, mwynhewch feicio mynydd yng nghanolfan beicio mynydd Llandegla neu mentrwch ar Gylchffordd Go-Catio Gogledd Cymru. Gydag Ynys Môn a Pharc Cenedlaethol Eryri hefyd o fewn pellter teithio, yn sicr bydd ganddoch ddigon o ddewis yn ystod eich arhosiad ym mwthyn Groesfaen Bach.

Cerdded

Clawdd Offa - Llwybr Cenedlaethol (177 milltir i gyd) yn dilyn ffin Cymru/Lloegr. (1.5 milltir o’r llwybr yn mynd trwy dir y perchennog). Ymunwch â’r llwybr 1.5 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Dyffryn Maes Glas – Abaty Canol Oesol, melinau o’r 19fed ganrif a fferm Fictorianaidd yn rai o’r llefydd dylid ymweld â nhw ar y llwybr cerdded 2.5 milltir yma. Llwybr gweddol hawdd a fflat i’w cherdded. 5.5 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru – Y lle agosaf i ymuno ag efo yw Whelston, 5.5 milltir i ffwrdd.

Parc Gwledig Loggerheads – Moel Famau, Cilcain – llwybr mynydd 554 metr o uchder. Lle poblogaidd i deuluoedd fynd i gerdded, wedi ei leoli mewn parc gwledig ger Loggerheads. 12 milltir.

Golff

Clwb Golff Caerwys – Wedi ei leoli yng nghanol bryniau Clwyd, dyma gwrs golf 9 twll. 1 milltir.

Clwb Golff Treffynnon - Cwrs 18 twll mewn rhostir, delfrydol ar gyfer ymwelwyr o bob gallu gyda chymysgedd o bâr trioedd, pedwar a phump er mwyn herio golffwyr mwy profiadol. 3 milltir

Clwb Golff Pennant – Wedi ei adeiladu yng nghanol ardal o harddwch naturiol eithriadol, mae’r cwrs golf 18 twll yma yn cynnig her i bob golffiwr o ddechreuwyr i rai proffesiynol. 3.5 milltir.

Pysgota

Pysgodfa Wal Goch yn Nannerch, gyda brithyll brown ac enfys. 3.8 milltir.

Afon Elwy - Gellir pysgota am eog a brithyll. Cysylltwch gyda Chymdeithas Genweirwyr Rhyl a Llanelwy am drwydded. 9 milltir i’r pwynt agosaf, yn Llanelwy.

Beicio

Llwybr Cilcain – Llwybr hawdd 5.5 milltir o hyd o Gilcain hyd at gyrion bryniau Clwyd gyda golygfeydd ysblennydd dros Ddyffryn Clwyd tuag at Eryri. 6 milltir o’r bwthyn.

Ar hyd glan y môr. Llwybr cylch 15 milltir o Bwll Brickfield yn Rhyl, hyd at lan y môr. Yna mae’n dilyn y llwybr arfordirol i Brestatyn cyn troi’n ôl i’r mewndir ar lwybr beicio Prestatyn - Dyserth. Pwynt agosaf yn Nyserth, 9 milltir.

Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru. 34 milltir o lwybr beicio o ansawdd uchel, y rhan fwyaf ohono oddi ar y ffordd rhwng Talacre a Phenmaenmawr. Pwynt agosaf yn Nhalacre, 10 milltir.

Coed Llandegla – beicio mynydd o ansawdd uchel yn addas ar gyfer bob gallu a lefel ffitrwydd. 20 milltir.

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Bridlewood. Mae’r stablau’n mwynhau lleoliad gwledig ychydig tu allan i Brestatyn gyda mynediad uniongyrchol i Draeth Talacre ar hyd llwybr preifat. 9.5 milltir.

Traethau

Talacre - traeth hyfryd. Gwarchodle natur a thwyni tywod. 10 milltir

Prestatyn Beach – another 4 miles of family friendly sands divided between three great beaches; Ffrith Beach, Central Beach and Barkby Beach. 11 miles
Traeth Prestatyn – 4 milltir arall o dywod sy’n wych ar gyfer teuluoedd. Wedi ei rannu rhwng tri traeth hyfryd; Traeth Ffridd, Traeth Canolog a Thraeth Barkby. 11 milltir.

Traeth Rhyl - 3 milltir o dywod euraidd sy’n ddelfrydol i deuluol gyda digon o weithgareddau glan y môr traddodiadol. Yn cynnwys y Sun Centre. 14 milltir.

Chwaraeon Dwr

Hwylio, syrffio dwr a sgïo jet ar Farina Rhyl. 14 milltir.

Syrffio Barcud Gogledd Cymru - Ysgol syrffio barcud ym Mae Cinmel ar arfordir Gogledd Cymru.

Rafftio Dwr yn Llangollen. 29 milltir