Maerdy Uchaf

Corwen, North Wales Borderlands

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,051 yr wythnos
  • £150 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Popty Range/Aga
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mwynhewch y lleoliad hyfryd a chuddiedig hwn, gyda'r cyfleustra o fod yn agos i nifer o atyniadau poblogaidd. Mae Maerdy Uchaf yn cynnig cymysgedd gwych o lety croesawgar, Cymreig a thraddodiadol gyda cyffyrddiadau bach moethus, yn cynnwys twb poeth preifat, ystafell chwaraeon, a dwy ystafell fyw gyda stôf goed yn y ddwy. Dyma gyfle i brofi fferm weithiol, neu fwynhau tawelwch a bywyd heddychlon cefn gwlad Gogledd Cymru. 

Llawr Gwaelod

Cegin fawr gyda thrawstiau agored o'r unfed ganrif ar bymtheg, Rayburn, a hen bopty bara nodweddiadol. Mae'r gegin steilus yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell, popty dwbwl, hob, meicrodon a cafetiere. Bwrdd ty fferm sy'n eistedd 8 gyda golygfeydd o gefn gwlad. 

Ystafell iwtiliti cydffyniol gyda rhewgell, peiriannau golchi a sychu dillad. Digon o le i storio beiciau, cotiau, esgidiau ayb.

Ystafell fyw gyda soffas lledr a sedd ffenestr, a nodweddion gwreiddiol megis trawstiau agored, lloriau a silffoedd ffenestri llechen. Teledu ar y wal.

Ystafell chwaraeon - digon o gyfarpar yn yr ystafell chwaraeon a arferai fod yn hen laethdy, gyda lloriau llechen a thrawstiau agored.

Ystafell ymolchi gyda cawod wlaw, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Lolfa gysurus ac ymlaciol gyda stôf goed a lle tân gwreiddiol ac unigryw. Soffa gysurus siâp 'L', teledu mawr a chwaraewr DVD. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely car llusg maint king gyda golygfeydd o gefn gwlad, cwpwrdd dillad a theledu ar y wal.

Ystafell wely 2 - gyda nodweddion gwreiddiol a gwely dwbwl.

Ystafell ymolchi - baddon Fictorianaidd yn edrych allan dros gefn gwlad, cawod arwahan, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Ystafell wely 3 - dau wely sengl gyda golygfeydd.

Ystafell wely 4 - gwely maint king mawr - gellir ei osod fel dau wely sengl 3' (dylid gwneud cais am hyn pan yn archebu). Trawstiau agored a blancedi gwlan Cymreig. 

Gardd

Mae'r llwyni hardd wrth ochr y ty yn nefoedd fach i fywyd gwyllt a gellir ei mwynhau o'r twb poeth preifat a moethus. Gellir hefyd fwynhau machlud haul a'r golygfeydd o'r ardd ffrynt gyda'i seddi a barbaciw. 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys torth o fara a photyn o farmalêd cartref, hanner dwsin o wyau, te, coffi, llaeth a siwgwr  
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig     
  • 2 sychwr gwallt ar gael
  • Wi-fi ar gael
  • Coed yn gynwysedig ar gyfer y stôf 
  • Cot, cadair uchel a giât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Croesewir hyd at 2 gi (llawr gwaelod yn unig) 
  • Dim ysmygu tu mewn     
  • Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu     
    • Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol     
  • Lle parcio i hyd at 4 car   

Lleoliad