Ysgubor y Cwm

Mold, North Wales Borderlands

  • 5 Star
  • Wedi ei leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mae'r llety ar wahân a helaeth hwn i 8 ger yr Wyddgrug mewn lleoliad heddychlon a phrydferth.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £610 yr wythnos
  • £87 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Tân agored neu stôf goed

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 4 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 ystafell ymolchi
  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei leoli yn un o’r unig bum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol drwy Gymru gyfan, mae’r llety ar wahân a helaeth hwn ger yr Wyddgrug mewn lleoliad heddychlon a phrydferth. Mae ei leoliad ym mhentrefan gwledig Pen y Felin, ger pentref hyfryd Nannerch yn eich galluogi i gael encil heddychlon tu hwnt. Ymlaciwch a mwynhewch egwyl haeddiannol gyda stôf losgi coed groesawgar, golygfeydd godidog, cyfleusterau gwych a’r fantais o fod tafliad carreg o Lwybr Clawdd Offa.

Llawr Gwaelod

Cegin / ystafell fwyta eang ar gynllwyn agored. Mae’r gegin yn fawr ac yn fodern ac yn cynnwys llawr o deils calchfaen, trawstiau gwreiddiol a stôf fodern gyda phopty trydan a hob nwy. Ardal bwyta gyfforddus i wyth o westeion llwglyd. (Hefyd yn cynnwys peiriant golchi llestri, micro-don, oergell/rhewgell). Mae gan yr ardal fwyta lawr calchfaen gyda bwrdd bwyta a dreser Gymreig, teledu a chwaraewr DVD gyda freeview.

Ystafell fyw - Mae gan yr ystafell fyw hyfryd hon ffenestri gyda fframiau cerrig a stôf losgi coed, ac mae’n fan perffaith i ymlacio ar ddiwedd diwrnod prysur. Teledu freeview, DVD, chwaraewr cerddoriaeth a chonsol gemau. Amrywiaeth o lyfrau, gemau, DVDs a chryno ddisgiau ar gael hefyd.

Ystafell Iwtili gyda pheiriant golchi dillad, peiriant sychu dillad, haearn smwddio, hwfr ayyb

Ystafell Wely 1 - Ystafell wely ar y llawr gwaelod gyda gwely maint king mawr (gallu bod yn ddau wely twin ar gais). Droriau, cwpwrdd, silff bagiau, bwrdd gwisgo a drych. Ystafell ymolchi en-suite gyda chawod y gellir cerdded i mewn iddo, toiled a sinc.

Llawr Cyntaf

Ystafell Wely 2 – Gwely maint king mawr (gallu bod yn ddau wely twin ar gais). Droriau, cwpwrdd, bwrdd gwisgo, drych a silff bagiau.

Ystafell ymolchi deuluol gyda chawod fawr y gellir cerdded i mewn iddo, bath, toiled a chabinet gyda’r basn.

Ystafell wely 3 – Ystafell wely dwbl, uned droriau, bwrdd gwisgo, drych a lamp ger y gwely.

Ystafell wely 4 – Gwely maint king mawr, cwpwrdd, uned ddroriau, silff bagiau, bwrdd gwisgo a drychau.

Gardd

Mae gan y llety hunan arlwyo hwn yn yr Wyddgrug ardd fawr a phatio gyda bwrdd a chadeiriau. Cyfleusterau bagiau a mynediad i dair acer arall o dir.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig. Pecyn cychwynnol ar gyfer y stôf losgi coed.
  • Darperir dillad gwely, tyweli dwylo a bath
  • Sychwyr gwallt (un ymhob ystafell wely)
  • Wifi ar gael.
  • Cot teithio, cadair uchel a giât ar gyfer y grisiau ar gael ar gais
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
  • Digon o lefydd parcio oddi ar y ffordd ar gael yn y bwthyn hunan arlwyo hwn yn yr Wyddgrug.
  • Darperir - te, coffi, siwgr, potel bach o laeth, llieiniau sychu llestri, hylif golchi llestri ac ychydig o dabledi peiriant golchi llestri.

Lleoliad