Stabal Llandegla

Llandegla, North Wales Borderlands

  • Ysgubor wedi ei hadnewyddu yn cynnig llety 5 seren mewn Ardal o harddwch Naturiol Neilltuol yng Ngogledd Cymru.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £449 yr wythnos
  • £64 y noson

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Ysgubor wedi ei hadnewyddu yn cynnig llety 5 seren mewn Ardal o harddwch Naturiol Neilltuol yng Ngogledd Cymru. Gyda stôf goed groesawgar, golygfeydd o gefn gwlad, mynediad uniongyrchol i Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a Chanolfan Feicio Mynydd Fforest Llandegla ond tair milltir i ffwrdd, dyma leoliad perffaith ar gyfer eich gwyliau nesaf yng Nghymru. Tafarn bentref/bwyty, dwy siop a chaffi o fewn 2 filltir a mynediad anghynwysol i ogofeydd cuddiedig ar dir y perchennog.

Mae'r bwthyn hefyd yn ganolog i gyrchfannau poblogaidd megis tref farchnad Rhuthun, camlas a thrên stêm Llangollen, Parc Cenedlaethol Eryri, arfordir Gogledd Cymru, a dinas Rufeinig Caer. Lleoliad perffaith i ddarganfod Gogledd Cymru a thu hwnt. 

Llawr Gwaelod

Lolfa - ystafell braf gyda soffas a chadeiriau yn amgylchynu stôf goed a theledu.

Cegin - gyda'r cyfarpar angenrheidiol yn cynnwys oergell/rhewgell, popty a gril, meicrodon a pheiriant golchi llestri, peiriannau golchi a sychu dillad.

Ardal fwyta - yn ffinio â'r gegin, gyda bwrdd bwyta mawr a chadeiriau, golygfeydd a mynediad uniongyrchol allan i'r ardd. 

Ystafell ymolchi - gyda cawod, toiled a basn. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 -  gyda gwely maint king a teledu ar y wal. Cypyrddau dillad a lampau ger y gwely.

Ystafell ymolchi - baddon, basn, toiled a rheilen sychu tywelion. 

Ystafell wely 2 -  gwely dwbwl a theledu, cypyrddau dillad a lampau ger y gwely. En-suite gyda cawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Ystafell wely 3 -  dau wely sengl, teledu a chypyrddau dillad.

Gardd

Gardd fawr a chaeedig gyda lawnt, patio gyda bwrdd a 6 cadair, a thy chwarae i'r plant. Goliau pêl-droed ar gael ar gyfer y lawnt - perffaith ar gyfer plant o bob oed. Wedi ei amgylchynu gan olygfeydd o gefn gwlad. Barbaciw siarcol hefyd ar gael. 

Sied y gellir ei chloi ar gael ar gyfer cadw beiciau ayb. 

Additional Information

  • Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr a llaeth, menyn a photel o wîn    
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig   
  • Coed ar gyfer y stôf goed yn gynwysedig    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
  • 3 sychwr gwallt ar gael    
  • Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot     
  • Wifi ar gael
  • Dm anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn 
  • Eitemau ar gael - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau, ffoil a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol    
  • Parcio ar gyfer 3 car    

Lleoliad