- £654 yr wythnos
- £93 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mwynhewch wyliau ymlaciol a heddychlon yn y bwthyn hardd hwn gyda twb poeth preifat, stôf losgi coed a golygfeydd o gefn gwlad. Mewn Ardal o Harddwch Naturiol Neilltuol, mae'r cyn ysgubor un llawr hwn yn agos i bentref Llandegla gyda'i dafarn/bwyty, dwy siop a chaffi. Mae Llwybr Clawdd Offa ar stepen y drws, tra fod Canolfan Beicio Mynydd 'One Planet Adventure' yn Fforest Llandegla ond 3 milltir i ffwrdd.
Yn ganolog i dref farchnad Rhuthun, tref gamlas Llangollen, yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Eryri, dinas Rufeinig Caer, ac arfordir Gogledd Cymru. Lleoliad gwych i ddarganfod Gogledd Cymru a thu hwnt.
Llawr Gwaelod
Cegin/Ystafell fwyta - cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty a hob trydan, meicrodon ac oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, peiriannau golchi a sychu dillad. Bwrdd bwyta a 6 cadair.
Lolfa - gyda nenfwd uchel a thrawstiau, drysau patio yn arwain allan i'r ardd a'r twb poeth. Soffas a chadeiriau o gwmpas stôf losgi coed, teledu a chwaraewr DVD.
Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king a teledu ar y wal. Cypyrddau dillad a lampau ger y gwely. En-suite yn cynnwys baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl a theledu, cypyrddau dillad a lampau ger y gwely. En-suite gyda cawod, toiled a basn.
Ystafell wely 3 - dau wely sengl, teledu a chypyrddau dillad.
Ystafell ymolchi gyda cawod, toiled a basn.
Gardd
Gardd gefn breifat a chaeedig gyda twb poeth a golygfeydd o gefn gwlad. Patio a lawnt gyda Barbaciw, bwrdd a chadeiriau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr a llaeth, menyn a photel o wîn
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Coed ar gyfer y stôf goed yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 3 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wifi ar gael
- Dm anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Eitemau ar gael - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau, ffoil a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Parcio ar gyfer 3 car