- £592 yr wythnos
- £85 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Os ydych yn edrych am lety gwyliau ysblennydd a phreifat yng nghefn gwlad Gogledd Cymru, Hafan Hiraethog yw’r lle i chi. Mae ei leoliad gwledig yn cynnig encil bendithiol gyda golyfeydd gwych a dim goleudau stryd i’w ddifetha. Wedi ei leoli o fewn ei ardd amgaeedig ei hun a’i amgylchynu gan dir amaethyddol, mae golyfeydd hyfryd i bob cyfeiriad.
Dim ond 6 milltir o dref hanesyddol Dinbych ac i Lyn Brening a Chanolfan Ymwelwyr sy’n cynnig beicio, pysgota a cherdded. Mewn lleoliad gwledig prydferth a gyda amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a hamddenol ar garreg y drws, a dim ond 12 milltir o’r arfordir, mae’r bwthyn yn le delfrydol i fynd ar wyliau.
Llawr Gwaelod
Mae’r llety gwyliau 5 seren hwn yng Ngogledd Cymru yn cynnig ystafell wydr modern o dderw gyda ffenestri mawr i fwynhau golygfeydd gwych o Fynyddoedd Clwyd a’r cefn gwlad. Dodrefn gwiail a waliau cerrig traddodiadol.
Cegin/ystafell fwyta – Cegin fodern ar gynllwyn agored yn cynnwys popeth fyddai ei angen arnoch gyda thrawstiau a drysau Ffrengig yn agor at yr ardd. Bar brecwast deniadol gyda stoliau a lle i 6 eistedd yn gyfforddus iawn. Peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell a pheiriant golchi dillad yn gynwysedig. Mae’r dair ffenestr a’r drysau Ffrengig yn gwneud yr ystafell hon yn olau ac eang. Mae’r holl fleinds, lleni a gosodiadau golau yn cyd-fynd yn berffaith. Mae gan yr ystafell deledu sgrin fflat gyda chwaraewr DVD a dewis o DVDs ar gyfer gwestai.
Ystafell fyw – Ardal eistedd cyfforddus gyda lle tân mawr o gerrig a stôf losgi coed. Mae’r soffas cyfforddus yma yn sicrhau fod hon yn ystafell berffaith er mwyn ymlacio gyda gwydriaid o win o flaen lle tân clud.
Ystafell wely 1 – Ystafell wely ddwbl gyda gwely steil traddodiadol a dodrefn a ffabrigau sy’n cyd-fynd. Ysafell sy’n llawn cymeriad a steil.
Cawod/ystafell iwtiliti gyda sinc, peiriant golchi dillad a chyfleusterau golchi, toiled a chawod/ystafell wlyb.
Llawr Cyntaf
Ffenestr wydr lliw ar y grisiau yn edrych dros yr ardd
Ystafell wely 2 – Ystafell wely ddwbl sy’n fodern a chwaethus gyda dodrefn gwyn a dillad gwely a lleni sy’n cyd-fynd.
Ystafell wely 3 – Ystafell wely twin, eto gyda dodrefn a ffabrigau sy’n cyd-fynd.
Ystafell ymolchi – ystafell ymolchi ddeniadol gyda teils, gyda chawod dros ganol y bath, toiled, basn ymolchi a rheilen gynhesu tywelion.
Gardd
Gardd fawr gaeedig gyda dodrefn patio, barbeciw a gazebo. Mae’r ardd yn cynnwys lawnt, ardal wedi ei thirlunio, patio ac ardal chwarae gyda thegannau ar gyfer y tu mewn a’r tu allan.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig a lun bag o logiau am ddim. Glo am £8.00 y bag, logiau ychwanegol £3 y bag.
- Lleiniau gwely, tywelion dwylo a bath yn cael eu darparu
- Darperir cot a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
- Digon o lefydd parcio
- Ystafell wely ddwbl ar y llawr gwaelod gydag ystafell wlyb, gallai fod fwy addas ar gyfer gwestai llai abl
- Dodrefn a ffabrigau i gyd wedi eu dewis yn ofalus i roi teimlad moethus drwy’r t?
- Mae’r bwthyn gwyliau hwn ym mwynhau golygfeydd sy’n newid o hyd gyda’r tymhorau a dim goleuadau ffug - perffaith ar gyfer edrych ar y sêr.
- Dim wi-fi felly lleoliad perffaith i ddianc o fywyd dyddiol.