Maes Mared

Denbigh, North Wales Borderlands

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £898 yr wythnos
  • £128 y noson
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 3 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Llety hardd ac eang gyda’r holl gyfleusterau modern - y man delfrydol i ymgynnull am wyliau gyda’r teulu neu ffrindiau. Mae’r llety mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ger Dinbych, yn Nyffryn Clwyd, ac yn cynnig tawelwch llwyr a golygfeydd gwledig godidog. Wedi ei leoli ar fferm deuluol, gyda stôf goed groesawus, dwy ystafell fyw, cegin fawr a gardd breifat, amgaeedig. Lleoliad cyfleus o fewn siwrne fer i arfordir Gogledd Cymru, cestyll ac atyniadau di-ri.

Llawr Gwaelod

Cegin Gymreig draddodiadol a thrawiadol gyda thrawstiau derw a llawr llechen - calon y cartref. Mae’r dreser a’r bwrdd bwyta mawr, sydd yn eistedd 10, yn nodweddion ysblennydd sydd wedi eu cynllunio yn arbennig ar gyfer yr ystafell. Yn ogystal â’r popty Aga olew, hob a meicrodon/gril, mae’r hen ffwrn bobi wedi ei hadnewyddu i ddangos sut yr arferai bwyd gael ei baratoi yn y ffermdy hwn sy’n dyddio nol i’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae yna hefyd sinc Belfast, peiriant golchi llestri, oergell a rhewgell, soffa a theledu yn y gegin.

Lolfa draddodiadol gyda stôf goed yn yr hen aelwyd a thrawstiau derw. Dwy soffa ledr gyfforddus a dwy gadair i ymlacio o flaen y tân. Teledu mawr a sedd yn y ffenestr i fwynhau’r golygfeydd.

Ail lolfa/ystafell fyw helaeth gyda lle tân nodweddiadol â bwa pren uwchben a dwy fainc capel bob ochr i’r stôf olew. Dwy soffa ledr a theledu ar y wal. Dwy ffenestr fawr yn edrych allan dros yr ardd ac ambell i nodwedd hanesyddol. Ar y nenfwd ac uwchben y lle tân fe welir symbol o arfbais Tywysogaidd.

Mae’r Ystafell Chwarae (oddi ar y lolfa) yn cynnig ‘den’ i blant ac oedolion ifanc i fedru cysylltu eu gemau cyfrifiadurol i’r sgrin HDMI a’r chwaraewr DVD. Mae yna ystod o deganau ar gyfer y plant iau, dwy gadair ymlaciol a dau fag ffa. Ceir DVDs, llyfrau a gemau bwrdd ar gyfer y gwesteion iau sydd wedi eu dewis gan blant y perchennog.

Ystafell iwtiliti gyda sinc Belfast, peiriant golchi/sychu dillad, haearn a bwrdd smwddio.

Ystafell Gemau tu allan - drws nesaf i’r gegin, mae’n le delfrydol ar gyfer oriau o hwyl yn chwarae tennis bwrdd neu bêl-droed bwrdd gyda theulu a ffrindiau.

Llawr Cyntaf

Ceir pum llofft wely fawr ar ddau lawr:

Llofft 1: gwely dwbl cyfforddus, byrddau a lampau ger y gwely. Droriau dillad, lle i hongian dillad ac un o’r golygfeydd gorau yn y ty - yn edrych dros yr ardd a’r goeden dderw drawiadol; brenhines Maes Mared!

Llofft 2: ystafell twin gyda dau wely sengl cyfforddus, byrddau a lampau ger y gwely a cwpwrdd dillad mawr.

Ystafell ymolchi ar gyfer gwesteion llofft 1, 2 a 3. Yn cynnwys cawod, baddon arwahân, basn a thoiled.

Llofft 3: llofft fawr foethus gyda gwely lledr maint ‘king’ gyda byrddau a lampau ger y gwely. Basn modern yn y gornel a dau gwpwrdd dillad mawr.

Ystafell gawod - ystafell fodern gyda chawod fawr, basn a thoiled.

Ail Lawr

Llofft 4: llofft hardd gyda gwely dwbl cyfforddus, byrddau a lampau ger y gwely a chwpwrdd dillad. Golygfeydd braf dros yr ardd a’r caeau.

Llofft 5: llofft foethus arall gyda gwely dwbl arbennig sydd yn ymgorffori sgrîn deledu - perffaith ar gyfer ymlacio yn y bore cyn codi i fwynhau’r diwrnod. Droriau dillad traddodiadol, cadair gyfforddus, byrddau a lampau ger y gwely.

Gardd

Gardd fawr hardd a chaeedig gyda planhigion o gwmpas yr ymylon. Lawnt ar gyfer ymlacio neu chwarae gemau gyda’r plant ieuengaf (dylid eu goruchwylio drwy’r amser). Dodrefn gardd ar gyfer bwyta yn yr awyr iach neu ymlacio gyda gwydraid o win mewn lleoliad preifat gyda golygfeydd o gefn gwlad. Mae nant fach yn rhedeg yng ngwaelod yr ardd (wedi ei ffensio allan) a llyn bach gerllaw lle gellir gweld hwyaid, crehyrod glas, gwyddau a ffesantod

Sied gyda Barbaciw siarcol y gellir ei fwynhau mewn unrhyw dywydd

Wedi ei leoli ar fferm, mae yna gyfle i ymwelwyr drefnu gweithgareddau ‘profiadau’r buarth’ gyda’r perchennog ymlaen llaw

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys bisgedi, siocled, potel o wîn, cacennau cri, menyn, llaeth (ychydig o de, siwgr a choffi) a blodau
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig. Basgedaid o goed ar gyfer pan rydych yn cyrraedd. Gellir prynu rhagor o goed am bris rhesymol
  • 1 sychwr gwallt ar gael
  • Cot, cadair uchel a gât i’r staer ar gael. Dewch â dillad i’r cot gyda chi
  • Dim anifeiliad anwes nac ysmygu
  • Parcio preifat ar gyfer hyd at 6 car
  • Hefyd ar gael… Cegin - pupur a halen, hylif golchi llestri/ychydig o dabledi i’r peiriant golchi llestri, clytiau. Cymysgydd llaw trydan a chlorian pwyso.
  • Ystafell ymolchi - sebon hylif a phapur toiled cychwynnol ym mhob toiled
  • Cynnyrch glanhau cyffredinol yn cynnwys powdr golchi dillad, bwced a mop
  • Gwybodaeth twristiaeth ar gael yn ychwanegol i becyn gwybodaeth cyffredinol. Hefyd, awgrymiadau’r perchennog am lefydd i fwyta, yfed a mwynhau yn yr ardal.

Lleoliad

Mae’r llety helaeth hwn ger Dinbych yn mwynhau lleoliad gwledig hyfryd, ar fferm deuluol lle cedwir gwartheg a defaid. Mewn ardal o harddwch naturiol neilltuol ynghanol y grug a’r caerau yn Nyffryn Clwyd. 2.5 milltir o bentref Henllan gyda’i siop bentref a swyddfa bost, a thafarn gyfeillgar a chroesawgar o’r enw Tafarn Llindir.

Mae tref farchnad hynafol Dinbych o fewn 4 milltir ac ymhlith ei hystod o atyniadau fe geir castell, a nifer o fwytai gwych yn cynnwys Con Amici Italian a Brookhouse Mill. Mae’r Ceffyl Gwyn yn Llandyrnog hefyd yn cael ei gymeradwyo (6 milltir) a Ty Gwyn yn Rhuallt (7 milltir). Mae’r Hawk and Buckle hefyd yn enwog am ei bwyd rhagorol - tafarn deuluol draddodiadol Gymreig yn Llannefydd (6 milltir)

Gellir mwynhau diwrnod allan yn nhref gadeirlan Llanelwy gyda’i Tweedmill Factory Outlets (7 milltir), neu deithio ar hyd arfordir Gogledd Cymru sydd 12 milltir i’r gogledd. Mae’r traeth euraidd agosaf yn Rhyl, tra mae trefi glan môr Llandrillo yn Rhos, Llandudno a Chonwy i gyd o fewn 30 munud.

Mae’n werth ymweld â Llyn Brenig (11.5 milltir) gyda’i ganolfan ymwelwyr, caffi, ardal chwarae, pysgodfa, beiciau i’w llogi, a llwybrau cerdded ar hyd ymyl y llyn. Gellir cael diwrnod allan gwych yn nhref farchnad hanesyddol Rhuthin (12 milltir), ac os yr ydych yn chwilio am antur, beth am roi cynnig ar feicio mynydd yng Nghoedwig Llandegla neu rai o’r gweithgareddau isod...

Cerdded

Llyn Brenig - cyfres o lwybrau sydd yn addas ar gyfer pob oed a gallu (11.5 milltir)

Llwybr Arfordirol Cymru - mwynhewch olygfeydd o’r môr ar hyd y rhan yma yng Ngogledd Cymru - addas ar gyfer pob oed (12 milltir)

Llwybr Clawdd Offa - Llwybr Cenedlaethol (177 milltir o hyd) yn dilyn ffin Cymru/Lloegr. Man cychwyn ym Mhrestatyn (15 milltir)

Moel Famau, Cilcain - llwybr mynyddig 554 metr o uchder. Cyrchfan poblogaidd ar gyfer cerdded gyda’r teulu, wedi ei leoli mewn parc gwledig ger Loggerheads (16 milltir)

Pysgota

Afon Elwy - gellir pysgota am eog neu frithyll (1 milltir) - trwydded ar gael 8 milltir i ffwrdd yn Llanfair Talhaearn

Golff

Clwb Golff Dinbych - cwrs golff 18 twll (3.5 milltir)

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Llannerch - gellir cael gwersi ar gyfer unrhyw oed, unrhyw allu (5 milltir)

Ysgol Farchogaeth Dolgoed - ar gyfer pob oed a gallu (6 milltir)

Traethau

Traeth y Rhyl - 3 milltir o dywod euraidd, delfrydol i deuluoedd gyda digon o weithgareddau traddodiadol glan môr. Yn cynnwys y Ganolfan Haul (Sun Centre) (12 milltir)

Traeth Prestatyn - 4 milltir o draethau sy’n addas ar gyfer teuluoedd - yn cynnwys Traeth Ffrith, Traeth Canolog a Thraeth Barkby (14 milltir)

Chwaraeon Dwr

Hwylio, hwylforio a jet sgïo yn y Marina yn Rhyl (12 milltir)

Syrffio barcud Gogledd Cymru - ym Mae Kimnel ar arfordir Gogledd Cymru (12 milltir)

Beicio

Llwybr arfordir Gogledd Cymru - 34 milltir o lwybr beicio wyneb caled, y rhan fwyaf oddi ar y ffordd rhwng Talacre a Phenmaenmawr. Man agosaf yw promen?d y Rhyl (12 milltir)

Coed Llandegla - beicio mynydd gwych sy’n addas ar gyfer pob gallu a lefel fitrwydd (22 milltir)