Crud y Wennol

Bala, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £365 yr wythnos
  • £52 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae Crud y Wennol yn ysgubor wedi ei thrawsnewid sy'n cynnig llety steilus a delfrydol i ddau, ac yn caniatau anifeiliaid. Lleoliad heddychlon, o fewn 5 milltir i Lyn Tegid yn y Bala, a nifer o atyniadau eraill, mae Crud y Wennol yn fan delfrydol ar gyfer gwyliau ymlaciol i gyplau. Mwynhewch chwaraeon dŵr, cerdded, darganfod trefi marchnad bychain Cymreig, reidiau ar drên stêm neu ar y gamlas, digon o fwytai gwych a llawer mwy. 

Llawr Gwaelod

Cegin, ardal fwyta a lolfa agored - mae'r ysgubor hon wedi ei hadnewyddu gan gadw llawer o'r trawstiau a'r nodweddion gwreiddiol. 

Yn y gegin a'r ardal fwyta fe geir llawr llechi, unedau cegin golau gydag oergell a rhewgell oddi mewn, meicrodon a phopty. Bwrdd bwyta gyda lle i dri, soffa ymlaciol ar gyfer darllen neu wylio'r teledu.

Llawr Cyntaf

Grisiau derw modern yn arwain i'r llawr cyntaf ac ystafell wely olau o gynllun agored gyda nenfwd uchel. Lloriau a drysau derw gyda thrawstiau traddodiadol. Cypyrddau ar ddwy ochr y gwely a theledu.

Ystafell ymolchi ensuite gyda cawod uwchben y baddon, toiled, basn a rheilen sychu tywelion. 

Gardd

Gardd odidog i gyplau ymlacio a mwynhau'r golygfeydd anhygoel. Wedi ei lleoli yng nghefn y bwthyn mae'r ardd wedi ei chau i mewn gyda dodrefn patio. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae Crud y Wennol yn un o ddau fwthyn, y drws nesaf i Crud y Werin sydd yn cysgu 4. Gellir archebu'r ddau fwthyn i gysgu cyfanswm o 6. 
  • Dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt ar gael 
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig  
  • Croesewir un ci bach am gost ychwanegol o £25 (yn daladwy wedi cyrraedd)  
  • Cot, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir   
  • Peiriannau golchi a sychu dillad ar gael yn y sied tu allan (rhannu hefo'r bwthyn drws nesaf - £3 yr awr i olchi; £3 am hanner awr i sychu   
  • Gwyliau byr i gyplau ar gael drwy'r flwyddyn   
  • Llefydd parcio tu allan y bwthyn 

Lleoliad

Mae Crud y Wennol yn mwynhau lleoliad tawel, ac yn gyfleus i nifer o atyniadau. Gyda chwaraeon dŵr, cerdded, golff, pysgota, siopau a bwytai ar gael yn nhref farchnad y Bala (5 milltir), ceir hefyd siop a garej o fewn 2 filltir ym mhentref Glanrafon. Mae tafarn sy’n caniatau anifeiliaid yn Llandderfel, 3 milltir o’r bwthyn ac mae nifer o lefydd bwyta gwych o fewn 10 milltir.

Gellir mwynhau hwylio a chaiacio ar Lyn Tegid (llyn naturiol mwyaf Cymru), neu sorbio, rafftio dŵr gwyn a Go Cartio ar gwrs pencampwriaethol, mae digon o weithgareddau gwyllt ar gael yn yr ardal! Mae hefyd nifer o weithgareddau y gellir eu mwynhau ar gyflymdra arafach - taith hamddenol ar Gamlas Llangollen, neu deithio ar y trên stêm ar hyd lannau Llyn Tegid. Ceir digon o siopau diddorol a chaffis deniadol i ymweld â nhw wrth ddarganfod trefi bach Cymreig yr ardal - tref ganoloesol Rhuthun; Dolgellau wrth droed Cader Idris, neu dref boblogaidd Betws y Coed - prif ganolfan dwristiaeth Parc Cenedlaethol Eryri.   

Cerdded
• Yr Hen Reilffordd (1 milltir) Caer Derwyn (2 filltir), llwybrau cylchol yn dechrau o Gorwen (5 milltir o’r bwthyn)
• Llwybrau cerdded eraill o Gorwen yn cynnwys Llwybr Gogledd Berwyn, Llwybr Dyffryn Dyfrdwy a Llwybr Clwyd (5 milltir o’r bwthyn)
• Ynghyd â’r nifer o lwybrau cerdded yn Bala, mae llwybr hyfryd o amgylch y llyn (5 milltir)
• Cadwyn fynyddoedd Aran yn cynnig 14 copa dros 2000 troedfedd. Llwybrau yn dechrau o Lanuwchllyn (10 milltir)
• Cadwyn fynyddoedd Arenig gyda 13 copa dros 2000 troedfedd, yn cynnwys Arenig Fawr a Moel Llyfnant. Llwybr yn dechrau ger Llyn Celyn (11 milltir)

Beicio
• Llyn Celyn - llwybr cylchol pymtheg milltir o amgylch y llyn (11 milltir o’r bwthyn)
• Llyn Tegid - llwybr hyd at 10 milltir o hyd o amgylch y llyn sy’n 4 milltir mewn hyd (5 milltir)
• Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin - llwybrau addas ar gyfer pob oed (19 milltir)

Chwaraeon Dŵr
• Canolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol - cartref i dair pencampwriaeth canwio’r byd bob blwyddyn, mae’n cynnig amrywiaeth o chwaraeon dŵr, o ganŵio a chaiacio i rafftio, a hyd yn oed saffari rafft deuluol. Argymhellir eich bod yn archebu o flaen llaw (2.5 milltir)
• Llyn Tegid - hwylio, canŵio a hwylfyrddio mewn ardal hardd (7 milltir)

Golff
Clwb Golff y Bala - cwrs golff 10 twll gyda golygfeydd godidog dros gefn gwlad Gogledd Cymru (5 milltir)

Pysgota
Llyn Tegid - amrywiaeth o 14 bysgod: draenogiaid, gwrachennod, penhwyaid, brithyll, penllwydion, slywennod, eog pan fo’n dymhorol a hefyd Gwyniad (6 milltir)

Traethau
Traethau agosaf yn Fairbourne ac Abermaw (31 milltir)