Bwthyn Tre-faen

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £481 yr wythnos
  • £69 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei leoli ar fferm weithiol, mae’r bwthyn hwn ym Mannau Brycheiniog sy’n caniatáu anifeiliaid yn rhan o adnewyddiad sydd wedi ennill gwobrau. Gyda nifer o weithgareddau cerdded, beicio a mwy ger llaw, mae’r lleoliad yn un delfrydol i gymryd mantais o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae opsiwn i deuluoedd mwy neu grwpiau i aros mewn mwy nag un llety ar y safle.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw ac ardal fwyta ar gynllwyn agored gyda soffa lledr gyfforddus a bwrdd bwyta gyda lle i 4. Teledu a chwaraewr DVD, Blu-ray a Freesat.

Cegin dderw wedi ei gwneud â llaw, sy’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch – hob a phopty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell fawr a pheiriant golchi dillad.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - Prif ystafell wely ddwbl gyda bath hyfryd sy’n sefyll ar ei ben ei hun, bwrdd gwisgo, cist ddroriau a chwpwrdd.

Ystafell ymolchi chwaethus – yn cynnwys uned gawod, toiled a sinc.

Ystafell wely 2 – Gwely sengl gyda droriau a ffenestr yn y to sy’n ddelfrydol ar gyfer edrych ar y sêr.

Ardal Gardd

Yn nhu blaen y llety mae buarth fferm a pharcio. Mae'r ardd yn cynnwys byrddau a chadeiriau, cadair siglo a barbeciw mawr nwy. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso lleol wrth i chi gyrraedd
  • Dim anifeiliaid anwes
  • Dillad gwely a thywelion bath wedi'u darparu
  • Cot a chadair uchel ar gael. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Digon o le parcio preifat oddi ar y ffordd
  • Beiciau mynydd ar gael i'w llogi o'r fferm (£25 am ddiwrnod cyfan neu £20 am hanner diwrnod). Mae modd trefnu i'ch gollwng neu i'ch casglu ar lwybrau cyfagos.
  • Lle storio diogel
  • Mae'r bwthyn ar dir fferm weithredol. Ni ddylid gadael i blant bach grwydro'r fferm heb oruchwyliaeth.
  • WIFI am ddim
  • Signal ffôn symudol ar y rhan fwyaf o rwydweithiau
  • Pecynnau maldod ac ymlacio ar gael
  • Hanner milltir o le pysgota preifat ar Afon Crai (un o isafonydd afon eog byd-enwog Wysg)
  • Archfarchnad yn dosbarthu i'r ardal.
  • Ni ellir sicrhau signal ffôn symudol ar y rhwydweithiau i gyd
  • Hanner milltir o le pysgota preifat ar Afon Crai (un o isafonydd afon eog byd-enwog y Wysg)
  • Archfarchnad yn dosbarthu i'r ardal.
  • Drws nesaf i Fwthyn Tre-faen mae Llety Llyn y Fan, Bwthyn y Bannau ac Ysgubor y Dderwen. Gellir eu harchebu i gyd i gysgu hyd at 36 person (gan gynnwys gwlâu soffa). Gostyngiad o 10% wrth archebu’r ddau gyda’i gilydd. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
  • Enillydd Gwobr Busnes Powys

Lleoliad

Mae Bwthyn Tre-faen ar mae wedi ei leoli ar fferm weithiol 100 acer sy’n arbenigo mewn cig oen organig. Mae tri bwthyn arall ar y safle hwn, sydd ym mhentref tawel a gwledig Crai, yng nghanol Bannau Brycheiniog. Mae’r olygfa i’r gorllewin o’r bythynnod yn edrych dros Ddyffryn Crai ac i fyny tuag at Llyn-y-Fan, llyn gyda chwedl fytholegol iddi ble dywedir i ‘Ferch Llyn y Fan’ ymddangos. Gellir gweld barcutiaid coch yn aml yn hedfan uwch y fferm.

Mae’r dafarn, siopau a gorsafoedd petrol agosaf ym Mhont Senni, tua 3 milltir i ffwrdd. Mae tref farchnad draddodiadol Aberhonddu tua 8 milltir i ffwrdd. Mae uchafbwyntiau diwylliannol yn cynnwys Gwyl Jazz Aberhonddu ym mis Awst. Mae Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ym Mis Mehefin a’r Ffair Aeaf ym mis Rhagfyr, y ddau’n cael cynnal yn Llanfair-ym-Muallt, yn uchafbwyntiau’r flwyddyn i’r gymuned amaethyddol. Mae’r Rali hefyd yn mynd heibio ychydig filltiroedd o’r bwthyn.

Bannau Brycheiniog yw’r Parc Cenedlaethol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael statws Geopark. Wedi ei sefydlu’n 1957, mae’r parc yn cynnwys rhai o’r tiroedd mwyaf trawiadol yn Ne Prydain, yn cynnwys ardal o 1347 km sgwâr. Mae nifer o atyniadau yn yr ardal yn cynnwys rhaeadrau hyfryd Ystradfellte. Mae Rheilffordd Mynydd Aberhonddu ac Ogofau Dan yr Ogof sydd yn un o atyniadau gorau Cymru a hefyd wedi ei bleidleisio’n rhyfeddod naturiol gorau Prydain.

Er gwaethaf ei leoliad gwledig a heddychlon, mae’r bwthyn yn agos at lonydd sy’n cysylltu ‘r ardal gydag Abertawe (tua 45 munud) a Chaerdydd (tua 50 munud). Mae llwybr bws i Aberhonddu wedi ei leoli taith cerdded fer o’r bwthyn.

Cerdded

Gellir dod o hyd i lwybrau cerdded anhygoel ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda chopa Pen y Fan, Cornddu a Chriban, yn ogystal â Llwybr Epynt sy’n 90 cilomedr. Llwybrau’n mynd yn syth o’r bwthyn. 0.1 milltir.

Pysgota

Mae’r bwthyn yn cynnwys hanner milltir o bysgota preifat ar Afon Grai, isafon i’r Afon Wysg sy’n enwog am ei heogiaid. 0.1 milltir.

Beicio

Nifer fawr o lwybrau - gallwch feicio ar hyd yr afon Gwy o’i dechrau, drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Llwybrau lleol a lonydd gwledig. 3.2 milltir.

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Cilfach ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig gwersi a chyrsiau marchogaeth, marchogaeth mynydd a merlota. 5 milltir.

Golff

Clwb Golff Cradoc – cwrs golff 18 twll gyda goleuadau. Golygfeydd gwych dros Fannau Brycheiniog a Phen y Fan. 10 milltir.

Chwaraeon Dwr

Mae’r Afon Wysg yn darparu canwio dwr gwyn. 3.0 milltir.
Llyn Llangors. 18 milltir