Flying Scotsman

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star Gold
  • Special Offer10% off Special Offer Discount on selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% May Half term - 24th May - 31st May 2024
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £686 yr wythnos
  • £98 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Awyr Agored

  • Balconi
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mangre rhamantus a heddychlon i 2 ym Mannau Brycheiniog, yn mwynhau golygfeydd gwledig trawiadol. Yn seiliedig ar hen gerbyd rheilffordd, mae'r uned wedi ei adnewyddu'n grefftus â llaw yn defnyddio derw Cymreig. Gyda golygfeydd ar draws y dyffryn, mae'n leoliad delfrydol i ymlacio a mwynhau. Oddi mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gyda chaniatad pysgota preifat yn yr afon sy'n rhedeg yng ngwaelod y cae. Mae aceri o goedtir a llwybrau cerdded i'w mwynhau, yn cynnwys llwybr cylchol i'r dafarn wledig agosaf. Mae'r ardal oddi mewn i Warchodfa Awyr Dywyll sy'n golygu y cewch eich syfrdanu gan yr awyr wedi iddi nosi. (Gall 2 blentyn gysgu yn y llofft grôg hefyd).

Llawr Gwaelod

Caban agored gyda gwely dwbwl wedi ei wneud â llaw.

Bwrdd bwyta - gellir ei blygu fyny i gael mwy o le.

Cegin yn cynnwys sinc, oergell, tegell a thostiwr.

Ystafell ymolchi - cawod llawn maint, toiled a basn.


Mae gwely dwbwl pellach yn y llofft (mynediad i fyny ysgol). Addas ar gyfer 2 blentyn, ond ddim plant ifanc.

Tu Allan

Balconi yn edrych allan dros gefn gwlad gyda bwrdd, cadair a chadair suglo. Gellir darganfod aceri o dir fferm yn ogystal â physgota ar yr Afon Crai.  Twb poeth trydan.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Croesewir 2 anifail anwes am gôst o £20 yr anifail. Ni chaniateir i anifeiliaid fynd ar y gwely   
  • Dillad gwelyau a thywelion ar gael  
  • Ddim yn addas i blant bach   
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Digon o le parcio preifat   
  • Gellir llogi beiciau mynydd o'r fferm (£25 diwrnod llawn neu £15 hanner diwrnod). Gellir trefnu gollwng lawr a phigo fyny ar lwybrau cyfagos   
  • Mae'r caban wedi ei leoli ar fferm weithiol ac ni ddylid gadael i blant grwydro ar ben eu hunain o gwmpas y fferm  
  • Ni ellir gwarantu signal ffôn symudol ar gyfer pob rhwydwaith  
  • Hanner milltir o ganiatad pysgota preifat ar afon Crai, un o isafonydd afon eog enwog yr Wysg  
  • Digon o wybodaeth yn y caban ar gyfer llwybrau cerdded a beicio lleol ayb    
  • Dosbarthiad gan archfarchnadoedd ar gael yn yr ardal   
  • Eitemau sylfaenol ar gael - papur toiled, shampw/jel cawod bach, sychwr gwallt, hylif golchi llestri, clytiau golchi a sychu llestri, llestri a sosbanau ayb  

Mae 3 bwthyn a 2 uned glampio ar y fferm. Mae gan pob uned ei ardal breifat ei hun. Y 3 bwthyn yw Onnen Fawr Cottage , Onnen Fawr Barn ac Onnen Fawr Farmhouse i gysgu cyfanswn o 35.  

Lleoliad

Uned glampio yn sefyll ar ben ei hun ar lawr dyffryn ar fferm weithiol oddi mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae 3 bwthyn a 2 uned glampio ar y fferm, i gyd gydag ardal breifat. Y 3 bwthyn yw Onnen Fawr Cottage , Onnen Fawr Barn ac Onnen Fawr Farmhouse i gysgu cyfanswm o 35. Mae'r fferm wedi ei lleoli tua milltir o bentref gwledig Crai, yng nghalon Bannau Brycheiniog. Dyma wlad y barcud coch a gellir eu gweld yn aml yn hedfan uwchben y fferm. Mae'r fferm yn organig ac yn rhan o gynllun rheoli tir cynaliadwy Glastir.

Mae tafarndai, siopau a garej betrol 3 milltir i ffwrdd ym Mhontsenni. Mae hen dref farchnad draddodiadol Aberhonddu 7 milltir i ffwrdd. Drwy gydol y flwyddyn, cynhelir nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal, gan gynnwys Gŵyl Jazz Aberhonddu, Gŵyl y Gelli, a Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a chynhelir Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru sy’n fyd-enwog, a’r Sioe Aeaf hefyd, yn Llanfair-ym-Muallt. Yn y blynyddoedd mwyaf diweddar, mae’r Rali a’r ras feicio Tour of Britain wedi mynd drwy’r ardal hon. 

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym 1957, ac mae’n cynnwys rhai o’r ffurfiadau tir uchel mwyaf trawiadol ac unigryw yn Ne Prydain, gan gwmpasu ardal o 1,347 km2 (520 milltir sgwâr). Mae nifer o atyniadau yn yr ardal gan gynnwys Rhaeadrau ysblennydd Ystradfellte, Rheilffordd Fynydd Aberhonddu ac ogofâu Dan yr Ogof, sef un o brif atyniadau teuluol Cymru ac a gafodd ei ethol yn rhyfeddod naturiol gorau Prydain. Bannau Brycheiniog yw’r Parc Cenedlaethol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael statws Geoparc.

Er bod iddo leoliad gwledig a thawel, mae gan y llety gysylltiadau ffyrdd gwych i ddinasoedd mawr Abertawe (tua 45 munud) a Chaerdydd (tua 50 munud).

Teithiau cerdded
Mae llwybrau cerdded gwych o gwmpas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys dringo mynyddoedd Pen-y-fan, Cornddu a Chribyn, yn ogystal â Llwybr Epynt sy’n 90 km o hyd. Mae’r llwybrau’n mynd yn uniongyrchol o’r bwthyn (0.1 milltir) 

Pysgota
Mae’r bwthyn yn cynnwys hanner milltir o bysgota preifat ar afon Crai, llednant i’r afon eog enwog, y Wysg (0.1 milltir)

Beicio
Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 43 yn mynd â chi o Graig-y-Nos a thrwy Abertawe a’r Mwmbwls. Llwybrau lleol a gwledig (2 filltir)

Marchogaeth
Mae Gilfach Equitation, sydd wedi’i leoli ym Mannau Brycheiniog, yn cynnig merlota, marchogaeth mynydd, gwersi marchogaeth a chyrsiau marchogaeth (5 milltir)

Golff
Yng Nghlwb Golff Cradoc, mae cwrs 18 twll a maes ymarfer wedi’i oleuo. Mae golygfeydd anhygoel yno dros Fannau Brycheiniog a Phen y Fan (10 milltir)

Chwaraeon dŵr
Mae cyfleusterau da yma i bobl sy’n frwd am chwaraeon dŵr gan fod canŵio dŵr gwyn ar gael ar afon Wysg (3.0 milltir) ac mae Llyn Syfaddon hefyd gerllaw (18 milltir)