Wisteria Cottage - Bwthyn yr Ardd

Aberystwyth, West Wales

  • 5 Star Gold
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Mwynhewch foethusrwydd 5 seren yn y bwthyn trawiadol hwn yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £885 yr wythnos
  • £126 y noson
  • 5 Star Gold
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mwynhewch foethusrwydd 5 seren yn y bwthyn trawiadol hwn yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru. Gyda twb poeth preifat, stôf losgi coed, ystafelloedd gwely gydag ensuites, a digon o steil y tu mewn a thu allan, mae yna ddigon o resymau pam fod gwesteion yn dewis dod yn nôl i'r bwthyn hwn o hyd ac o hyd. Oddi mewn i 3.5 acer o dir, ac wedi ei wahanu oddi wrth dy'r perchennog, mae'n mwynhau gardd dawel, gaeedig sy'n ddelfrydol i blant a chwn. O fewn pellter cerdded i'r dafarn leol, caffi a siop fychan ym Mhont-rhyd-y-groes. 

Dyma leoliad gwych i ddarganfod tirwedd diwylliannol Gorllewin Cymru, o fynyddoedd a rhaeadrau, i Abaty Ystrad Fflur, rheilffordd stêm a'r tair pont enwog ym Mhont ar Fynach. Mae arfordir Bae Ceredigion (15 milltir i ffwrdd yn Aberystwyth) yn cynnig ystod eang o draethau euraidd - gyda 11 ohonynt yn caniatau cwn drwy gydol y flwyddyn, a 24 arall ar rai adegau o'r flwyddyn. 

Llawr Gwaelod

Ardal fyw agored sy'n cymryd y llawr gwaelod i gyd.  

Cegin fodern a chyfoes gyda'r holl offer, yn cynnwys popty trydan Rangemaster, coginiwr araf a meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant coffi Nesspresso, peiriannau golchi llestri a golchi dillad. Bwrdd bwyta mawr gyda golygfeydd allan i'r patio a'r ardd.    

Mae'r lolfa steilus yn eich gwahodd i ymlacio ar soffas a chadair gysurus o flaen y stôf goed a theledu Smart gyda DVD a phecyn Sky llawn. Gellir cael defnydd o dabled 10 modfedd gyda thanysgrifiad i nifer o bapurau newydd a chylchgronnau yn ddyddiol ac ar y penwythnos.    

Ystafell ymolchi gyda toiled a basn.    

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely maint king gyda golygfeydd dros yr ardd ac ystafell gawod en-suite. Teledu Smart gyda Netflix (teledu freeview), gorsaf docio i-pod a dodrefn steilus. 

Ystafell wely 2 - gwely maint king (gellir eu gosod fel dau wely sengl 2'6" os dymunir), golygfeydd dros yr ardd ac ystafell gawod en-suite. Noder pan yn archebu os hoffech ddau wely sengl. Gyda teledu Smart â Netflix (teledu freeview), gorsaf docio i-pod a chypyrddau dillad.  

Gardd

Oddi mewn i 3.5 acer o dir mae gennych ardal gaeedig eich hun sy'n cynnwys patio a thwb poeth preifat gyda to.    

Bwrdd a chadeiriau gardd gyda Barbaciw. Storfa tu allan ar gyfer beiciau ayb. 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr a llaeth, cacennau, gwîn a phodiau coffi    
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig    
  • Coed ar gael ar gyfer y stôf    
  • Dillad gwelyau a thywelion ar gael - yn cynnwys rhai ar gyfer y twb poeth    
  • 2 sychwr gwallt ar gael
  • Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Gât i'r grisiau ar gael    
  • Wifi ar gael
  • Croesewir hyd at 3 ci    
  • Dim ysmygu tu mewn y bwthyn    
  • Darperir y canlynol:
    • Cegin: pupur a halen, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu      
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled    
  • Lle parcio i 3 car     

Lleoliad

Mae Bwthyn yr Ardd yn mwynhau lleoliad tawel a heddychlon ar gyrion pentref Pont-rhyd-y-groes yng Ngorllewin Cymru. Mae rhodfa breifat yn arwain i 3.5 acer o dir, heibio i dy'r perchennog, mae'r bwthyn mewn lleoliad preifat, gyda gardd gaeedig a thwb poeth preifat. 

Mae Caffi Cwtch a siop fychan 0.4 milltir o'r bwthyn ac ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Mae'r dafarn agosaf (Miners Arms), sydd yn gweini cinio dydd Sul, 0.7 milltir i ffwrdd ac yn agor bedair gwaith yr wythnos, yn cynnwys y penwythnosau. Mae rhai o'r llefydd gorau i fwyta yn lleol yn cynnwys Gwesty'r Hafod ym Mhont ar Fynach (5 milltir), y Ffarmers yn Llanfihangel y Creuddyn (6 milltir), a Maes Bangor yng Nghapel Bangor (10 milltir), heb anghofio yr ystod eang o opsiynau yn Aberystwyth ac Aberaeron. 

Mae tref glan môr brysur Aberystwyth (15 milltir) yn cynnig mynediad i harddwch Bae Ceredigion. Cartref Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, mae'r dref hefyd yn cynnig ystod o adnoddau yn cynnwys archfarchnadoedd a siop Marks & Spencer. Mae yma hefyd ddau draeth a phromenâd, yn ogystal â mynediad i Lwybr Arfordirol Cymru a'r rheilffordd craig hiraf ym Mhrydain.

Rhai o atyniadau'r ardal yn cynnwys rhaeadrau a'r tair pont ym Mhont ar Fynach, trên stêm Cwm Rheidol sy'n teithio i Aberystwyth, a llwybrau cerdded ar Ystad yr Hafod. Darganfyddwch Fynyddoedd y Cambrian, pentrefi a threfi glan môr megis Aberaeron a Cei Newydd ar hyd arfordir Bae Ceredigion, atyniadau yr Ymddiriedaeth Cenedlaethol megis Llanerchaeron ac adfeilion abaty y Sistersaidd Cymreig yn Ystrad Fflur. Mae atyniadau eraill yn cynnwys The Magic of Life Butterfly House, Profiad y Mynydd Arian, a'r Animalariwm.  

Cerdded

  • Llwybr Maenarthur - llwybr cylchol 4.5 miltir o hyd yn ymgorffori safleoedd treftadaeth diwydiannol, fforest, cefn gwlad a ceunant trawiadol. Yn cychwyn o stepen y drws. 
  • Llwybr Ystwyth - llwybr cerdded/beicio 20 milltir o hyd o Aberystwyth i Dregaron. Ymunwch â'r llwybr hanner ffordd, ger Llanafan (4 milltir)
  • ‘Dilynwch y Mynach’ - 6.5 milltir yn dilyn yr afon o'i tharddiad i Bont ar Fynach, ble mae'n creu'r rhaeadrau enwog (7 milltir)     
  • Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian - 3 llwybr â golygfeydd (11 milltir) 
  • Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan - ymunwch â'r llwybr ar y promenâd yn Aberystwyth i fwynhau golygfeydd godidog o Fae Ceredigion (15 milltir)   

Beicio

  • Llwybr Ystwyth - fel uchod (4 milltir)
  • Llwybr Beicio Rheidol – llwybr 17 milltir o hyd yn arwain o Bont ar Fynach, drwy Gwm Rheidol i'r harbwr yn Aberystwyth, y rhan fwyaf ar hyd lonydd cefn gwlad tawel (5 milltir)    
  • Gellir dod o hyd i'r llwybrau beicio mynydd gorau yng Nghymru a'r DU yng Nghanolfan Beicio Mynydd Nant yr Arian (11 milltir)    

Marchogaeth

  • Canolfan Farchogaeth Rheidol - arena tu mewn a thu allan wedi eu goleuo, cwrs neidio a trecio o gwmpas Cwm Rheidol (9 milltir)    

Traethau

  • Traeth Gogleddol Aberystwyth - traeth tywod a graean gyda mulod, castell gwynt a reidiau ar hyd y promenâd yn ystod misoedd yr haf. Caniateir cwn yn ystod y misoedd tawel (15 miles)     
  • Traeth Deheuol Llanrhystud - yn caniatau cwn drwy gydol y flwyddyn (20 milltir)   

Pysgota

  • Pysgota brithyll gwych yn yr afonydd a'r llynnoedd. Gellir prynu trwyddedau dyddiol o Westy George Burrow yn Ponterwyd (9 milltir)    
  • Pysgota môr yn Aberystwyth (15 milltir)   
  • Gellir llogi cychod o'r Marina yn Aberystwyth   

Gwylio adar

  • Canolfan fwydo Barcutiaid Coch yn Nant yr Arian (11 milltir) 
  • Gwarchodfa Natur R.S.P.B. yn Ynyshir ar ochr ddeheuol aber yr afon Ddyfi (22 milltir)     

Golff

  • Clwb Golff Aberystwyth – cwrs 18 twll gyda golygfeydd trawiadol (15 milltir)    
  • Clwb Golff y Borth – cwrs golff pencampwriaethol mewn lleoliad anhygoel (19 milltir)