Bwthyn Efyrnwy

Welshpool, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £393 yr wythnos
  • £56 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau sengl
  • 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Os ydych chi’n chwilio am brofiad fferm ar eich gwyliau a bwthyn gyda stôf llosgi coed, ystafell gemau ac yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau pysgota yna mae Bwthyn Efyrnwy yn berffaith i chi. Mae’r bwthyn hwn yn croesawu anifeiliaid anwes ac yn mwynhau lleoliad canolog a hygyrch ar gyfer darganfod gogledd a chanolbarth Cymru. Mae yna ddigonedd o lwybrau cerdded o drothwy’r drws, gan gynnwys Llwybr Glyndwr a Llwybr Ann Griffiths, cestyll niferus i ymweld â nhw, Trên Bach Llanfair, Camlas Sir Drefaldwyn a Llyn Fyrnwy ar gyfer chwaraeon dwr, beicio a physgota. Dwy filltir o’r bwthyn fe ddewch o hyd i dafarn, siop a swyddfa bost ym mhentref Meifod.

Llawr Gwaelod

Ystafell fwyta/cegin ar gynllun agored. Cegin wedi ei ffitio’n llawn mewn steil modern a chyfoes. Popty a hob trydan, oergell a microdon. Bwrdd bwyta maint llawn a chwe chadair.

Lolfa fawr eang gyda thrawstiau derw, dodrefn gwledig a stôf llosgi coed Clearview. Soffa yn eistedd tri a dwy gadair freichiau, teledu 32 “ a chwaraewr DVD.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - ystafell fawr ysgafn ac agored gyda gwel super king (y gellir ei gosod fel dau wely sengl ar gais), yn ogystal â chwpwrdd dillad, bwrdd gwisgo, cadair a golau lamp.

Ystafell wely 2 - ystafell wely twin gyda bwrdd gwisgo, cwpwrdd dillad yn y wal a chwpwrdd eirio.

Ystafell ymolchi gyda baddon/cawod, toiled a basn ymolchi.

Gardd / Tu allan

Gardd amgaeedig gyda mainc a bwrdd picnic, parasol a gellir darparu barbeciw ar gais. Fe rennir yr ardd hon gyda’r bwthyn i ddau drws nesaf.

Drws nesaf i’r ystafell gemau mae yna fwrdd pwl maint llawn, bwrdd dartiau a lle eistedd.

Mae’r fferm yn ffodus o gael nid un afon yn unig, ond dwy (Fyrnwy a Banwy) yn llifo drwy eu tir. Perffaith ar gyfer gwyliau’n pysgota yng Nghymru.

Profiad ar y fferm o fferm weithiol sydd yn godro, ac yn magu da byw a defaid. Gwyliwch y godro dyddiol o falconi pwrpasol. Moch anwes kunekune i’r plant eu mwynhau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir dillad gwely, tywelion bath a llaw a sychwr gwallt.

Gwres a thrydan yn gynwysedig. Logiau ar gael £5 y fasged.

Darperir cot a chadair uchel ar gais.

Croesewir anifeiliaid anwes (1 mawr/dau fychan).

Digonedd o lefydd parcio ar gael.

Ystafell iwtiliti gyda golchwr a sychwr dillad (i’w rannu gyda’r bwthyn i ddau drws nesaf).

Lleoliad

Mewn man delfrydol yng Nghanolbarth Cymru, mae Bwthyn Efyrnwy yn dy pâr gyda bwthyn gwyliau arall ar fferm laeth, eidion a defaid. Mae hyn yn golygu fod llawer o weithgareddau i’w mwynhau ar y safle, gan gynnwys gwylio’r godro dyddiol o’r balconi gwylio, chwarae pwl a dartiau ac ati yn yr ystafell gemau, neu ymweld â'r moch Kunekune anwes. Gyda dwy afon yn byrlymu trwy’r safle, mae hefyd yn fan perffaith ar gyfer gwyliau pysgota yng Nghymru.

Mae gan Meifod (2 filltir) siop, swyddfa bost a thafarn y Kinds Head sy’n gweini bwyd gwych. Ymhlith rhai o’r llefydd bwyta eraill yn lleol mae Gwern y Ciliau (6 milltir), Tan House Inn, Llangynyw (3 milltir) a’r Llew, Llansantffraid (7 milltir).

Mae yna amrywiaeth eang o atyniadau a gweithgareddau o fewn pellter byr i’r bwthyn. Ymhlith rhain mae Chastell a Gardd Powys (10.5 milltir), Rheilffordd Ysgafn Llanfair yn Llanfair Caereinion (5 milltir), Llyn Efyrnwy (11 milltir) sy’n cynnig man i gerdded, beicio, pysgota a chwaraeon dwr o bob math. Yn agosach i’r bwthyn ei hun cewch nifer o lwybrau enwog fel Llwybr Glyndwr a Llwybr Ann Griffiths (emynyddes Gymreig) a gweddillion Castell Mathrafal a fu unwaith yn gartref i Llywelyn Ein Llyw Olaf.

Dim ond 16 milltir sydd i gyrraedd Profiad Fferm Park Hall sydd yng Nghroesoswallt, tra bod Amgueddfa, Camlas a Chanolfan Siopa ‘Coed y Dinas’ Y Trallwng yn werth ymweld â nhw. Mae hefyd archfarchnadoedd i’w cael yn Nhrallwng, a digonedd o fwytai a Chanolfan Hamdden y Fflash (pwll nofio hamdden).

Cerdded

Sawl llwybr o fewn ac o amgylch Meifod, gan gynnwys llwybr glan afon o’r ffarm i Meifod.

Llwybr Ann Griffiths - taith 7 milltir yn dilyn Llyn Efyrnwy. Llwyth o dirluniau gwahanol, gan gynnwys golygfeydd o fynyddoedd y Berwyn. Dechrau o Ddolanog - 4 milltir.

Llwybr Glyndwr – llwybr troed hir yng Nghanolbarth Cymru a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol ym mlwyddyn 2000. Dechrau yn Maesmawr – 5 milltir.

Llwybr Hafren – llwybr ysfafn 12 milltir ar hyd Camlas Trefaldwyn o Y Trallwng (9 milltir) i Drenewydd.

Llwybr Clawdd Offa - Llwybr Cenedlaethol (177 milltir yn ei gyfanrwydd) sy’n dilyn arfordir Cymru/Lloegr. Mae’r rhan agosaf yn dechrau wrth bont Tal-y-bont, 10.5 milltir i ffwrdd.

Pysgota

700 llath o bysgota ar y safle yn Afonydd Banw a Efyrnwy. Ymhlith y pysgod mae brithyll gwyllt, penllwyd, cochgangod ac eog. 200 llath o’r bwthyn.

Pwll Pysgota Parc Bluebell – pysgota bras a charp ar lyn 20 erw. 4 milltir.

Llyn Efyrnwy – Brithyll gwyllt a brithyll seithliw. 11 milltir

Darganfyddwch mwy am bysgota yn ardal y Trallwng.

Golff

Clwb Golff Y Trallwng – cwrs golff 18 twll. 9 milltir.

Clwb Golff Llanymynech – cwrs golff 18 twll ar arfordir Cymru. 11 milltir

Cwrs Golff Croesoswallt – cwrs golff 18 twll. 16 milltir.

Beicio

Llyn Efyrnwy – Llwybr crwn 11 milltir o amgylch Llyn Efyrnwy. Llwybr fflat a hawdd sydd ar y ffordd ar y mwyaf. Dechrau wrth ganolfan ymwelwyr gyda sawl sefydliad i gael hoe a lluniaeth. 11 milltir o’r bwthyn.

Chwaraeon Dwr

Chwaraeon Dwr Llyn Efyrnwy – Canwio, caiac, hwylio a hwylfyrddio – addas i’r teulu cyfan. 11 milltir.

Merlota

Stablau Penycoed. Merlota ar hyd arfordir Cymru. Ceffylau a merlod i weddu pobl o bob oedran a gallu. 14 milltir.