- £361 yr wythnos
- £52 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Os ydych chi’n chwilio am brofiad fferm ar eich gwyliau a bwthyn gyda stôf llosgi coed, ystafell gemau ac yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau pysgota yna mae Bwthyn Efyrnwy yn berffaith i chi. Mae’r bwthyn hwn yn croesawu anifeiliaid anwes ac yn mwynhau lleoliad canolog a hygyrch ar gyfer darganfod gogledd a chanolbarth Cymru. Mae yna ddigonedd o lwybrau cerdded o drothwy’r drws, gan gynnwys Llwybr Glyndwr a Llwybr Ann Griffiths, cestyll niferus i ymweld â nhw, Trên Bach Llanfair, Camlas Sir Drefaldwyn a Llyn Fyrnwy ar gyfer chwaraeon dwr, beicio a physgota. Dwy filltir o’r bwthyn fe ddewch o hyd i dafarn, siop a swyddfa bost ym mhentref Meifod.
Llawr Gwaelod
Ystafell fwyta/cegin ar gynllun agored. Cegin wedi ei ffitio’n llawn mewn steil modern a chyfoes. Popty a hob trydan, oergell a microdon. Bwrdd bwyta maint llawn a chwe chadair.
Lolfa fawr eang gyda thrawstiau derw, dodrefn gwledig a stôf llosgi coed Clearview. Soffa yn eistedd tri a dwy gadair freichiau, teledu 32 “ a chwaraewr DVD.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - ystafell fawr ysgafn ac agored gyda dau wely twin (y gellir ei gosod fel gwely maint king ar gais), yn ogystal â chwpwrdd dillad, bwrdd gwisgo, cadair a golau lamp.
Ystafell wely 2 - ystafell wely twin gyda bwrdd gwisgo, cwpwrdd dillad yn y wal a chwpwrdd eirio.
Ystafell ymolchi gyda baddon/cawod, toiled a basn ymolchi.
Gardd / Tu allan
Gardd amgaeedig gyda mainc a bwrdd picnic, parasol a gellir darparu barbeciw ar gais. Fe rennir yr ardd hon gyda’r bwthyn i ddau drws nesaf.
Drws nesaf i’r ystafell gemau mae yna fwrdd pwl maint llawn, bwrdd dartiau a lle eistedd.
Mae’r fferm yn ffodus o gael nid un afon yn unig, ond dwy (Fyrnwy a Banwy) yn llifo drwy eu tir. Perffaith ar gyfer gwyliau’n pysgota yng Nghymru.
Profiad ar y fferm o fferm weithiol sydd yn godro, ac yn magu da byw a defaid. Gwyliwch y godro dyddiol o falconi pwrpasol. Moch anwes kunekune i’r plant eu mwynhau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir dillad gwely, tywelion bath a llaw a sychwr gwallt.
Gwres a thrydan yn gynwysedig. Logiau ar gael £5 y fasged.
Darperir cot a chadair uchel ar gais.
Croesewir anifeiliaid anwes (1 mawr/dau fychan).
Digonedd o lefydd parcio ar gael.
Ystafell iwtiliti gyda golchwr a sychwr dillad (i’w rannu gyda’r bwthyn i ddau drws nesaf).