- £346 yr wythnos
- £49 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Ystafell chwaraeon
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Bwthyn gwyliau wedi ei adnewyddu’n hyfryd yng Nghanolbarth Cymru yw Cartws y Parc, wedi ei amgylchynu gan fryniau tonnog. Mae’r safle gwledig hwn hefyd yn cynnwys parc carafanau bychan, ac fel gwesteion yn y bwthyn moethus mae croeso i chi fanteisio ar yr amrediad o gyfleusterau eraill ar y safle hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys ardal chwarae i blant, ystafell gemau fawr a llyn pysgota. Ceir llwybrau cerdded gwych gerllaw yn cynnwys Llwybr Cerdded Cenedlaethol Glyndwr. Delfrydol ar gyfer gwyliau cerdded a physgota, gwyliau gyda’r ci neu wyliau teuluol yn y Canolbarth.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw agored yn cynnwys cegin, lolfa a lle bwyta. Mae’r gegin yn cynnwys digonedd o lestri, gwydrau, sosbannau ac offer coginio. Mae hefyd yn cynnwys popty ffan trydan gyda hob ceramig gyda ffan, golchwr llestri, microdon, oergell a rhewgell.
Bwrdd bwyd gyda lle i 6 eistedd a bwrdd brecwast ar wahân.
Mae’r lolfa glyd yn cynnwys lle tân modern, teledu llydan a DVD, Hi-fi bychan, soffa ledr a gwely soffa dwbl (darperir dillad gwely).
Ceir hefyd ystafell ymolchi ar wahân ar y llawr gwaelod gyda chawod, basn, toiled a rheilen cynhesu tywelion.
Llawr Cyntaf
2 ystafell wely fawr. (gall 1 ystafell wely gysgu 3 a darperir gwely sengl ychwanegol ar gais)
Y ddwy ystafell wedi eu dodrefnu a’u haddurno yn hyfryd a hefyd yn cynnwys teledu sgrin fflat a chwaraewr DVD, sychwr gwallt a drych.
Ystafell ymolchi’r llawr cyntaf yn cynnwys toiled, basn a rheilen cynhesu tywelion.
Gardd
Ardal batio fechan gyda bwrdd a chadeiriau. Offer barbeciw a golau tu allan.
Ardal chwarae i blant ac ystafell gemau ar y safle.
Mae’r parc ei hun wedi ei amgáu gan goed aeddfed ac yn edrych allan ar Foel Bentyrch a’r dyffrynnoedd o’i amgylch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Caniateir 1 anifail anwes
Dillad gwely, tywelion dwylo a bath yn gynwysedig
Darperir cot, cadair uchel a giât grisiau ar gais
Gwres a thrydan yn gynwysedig
Parcio preifat
Peiriant golchi a sychwr ar y safle (ffi i’w ddefnyddio)
Ffôn hefyd ar gael ar y safle
Wifi ar gael yn y bwthyn
Llyn Pysgota gydag ynys, hwyaid a gwyddau gwyllt ddau gae i ffwrdd, yn cynnig heddwch a thawelwch llwyr. Y llyn yn cynnwys stoc o bysgod carp, gwarchennod a rhuddbysgod. *Pysgota am ddim i westai ond bydd angen i chi ddod ag offer gyda chi (ychydig o offer ar gael).
Pecyn croesawu wrth i chi gyrraedd yn cynnwys diod poeth, llefrith, cacennau, wyau ffres o’r fferm a bara ffres.
Mae’r bwthyn yn croesawu anifeiliaid, 1 anifail ar y mwyaf.
Mae’r canlynol yn cael eu darparu yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad:
Cegin: hylif golchi llestri a thabledi ar gyfer y peiriant golchi.
Ystafell ymolchi: toiled rôl.
Cynnyrch glanhau cyffredinol : sebon, chwistrellydd, dwster a hwfer, a.y.b.