- £372 yr wythnos
- £53 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r bwthyn hwn wedi ei drawsnewid o stabl ac yn ffinio â’r prif ffermdy sy’n dyddio yn ôl i tua 1650. Mae Stabal y Nant yn cynnig llety clyd a moethus i chi a’ch ci ymysg bryniau hardd Canolbarth Cymru, i’r gogledd-orllewin o’r Trallwng. Ceir nentydd a choetiroedd dirifedi sy’n cynnal amrywiaeth eang o adar. Mae digonedd o deithiau cerdded braf o amgylch y fferm a’r wlad o’ch amgylch a gallwch fanteisio i’r eithaf ar y ffaith fod Llwybr Glyndwr yn pasio o fewn 500 medr i’r bwthyn.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw agored yn cynnwys ardal i eistedd ac ymlacio ar 2 soffa gyfforddus o amgylch lle tân croesawgar gyda stôf yn llosgi coed, teledu gyda sianeli am ddim, chwaraewr DVD/fideo a thrawstiau ar y nenfwd. Mae’r gegin gyflawn yn ffurfio rhan arall o’r ystafell ac yn cynnwys popty trydan, oergell, microdon a bwrdd bwyd i 4.
Llawr Cyntaf
Yma ceir mwy o drawstiau ar y waliau a’r nenfwd yn y ddwy ystafell wely. Mae’r brif ystafell wely yn cynnwys gwely dwbl gyda bwrdd ger y gwely a chwpwrdd dillad tra bod gwely bync cyfforddus maint llawn yn yr ail ystafell wely.
Ystafell ymolchi gyda chawod, sinc, toiled a rheilen cynhesu tywelion.
Gardd
Ceir bwrdd a chadeiriau yn yr ardd fawr amgaeedig, yn ogystal â siglenni i’r plant, lawnt ac offer barbeciw. Eisteddwch yn ôl a mwynhau golygfeydd ysgubol dros y fferm a draw tua’r mynyddoedd ar y gorwel.
Gwybodaeth Ychwanegol
Croesewir hyd at 2 gi - £20 y ci'r wythnos (yn daladwy i’r perchennog wrth i chi gyrraedd). Buasem yn ddiolchgar iawn petai chi’n gallu rhoi gwybod wrth archebu a ydych chi’n dod â chi neu ddim. Noder os gwelwch yn dda, ni chaniateir i’r cwn fynd i fyny’r grisiau.
Dillad gwely, tywelion bath a llaw a sychwr gwallt yn gynwysedig.
Cot a chadair uchel ar gael ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Gwres a thrydan yn gynwysedig (a darperir logiau am ddim ar gyfer y stôf llosgi coed).
Gellir darparu cot a chadair uchel ar gais.
Parcio preifat.
Peiriant golchi a sychu dillad ar gael i’w defnyddio yn y ffermdy drws nesaf.
Wifi yn gynwysedig.
Mae’r canlynol yn cael eu darparu yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad:
Cegin: hylif golchi llestri, powdr golchi.
Ystafell ymolchi: sebon, toiled rôl.
Cynnyrch glanhau cyffredinol : dillad, dwster, hwfer, hylif glanhau a.y.b.