Breconview Lodge

Swansea Valley, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,074 yr wythnos
  • £153 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae Breconview Lodge yn borthdy newydd ei adeiladu ym mhentref Coelbren, ar ymylon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, hanner milltir o'r dafarn leol a milltir o raeadr enwog Henrhyd sy'n ymddangos ar ffilm a theledu (The Dark Knight Rises, Batman's Bat Cave a Game of Thrones). Llwybrau cerdded gwych a rharaedrau eraill gerllaw yn ogystal â nifer o atyniadau.

Gyda twb poeth preifat a dec yn y cefn, mae'r bwthyn wedi ei adeiladu i safon uchel. Gyda gwres canolog drwyddo draw a wifi ar gael. 

Cyntedd: gyda grisiau yn arwain i'r llawr cyntaf, storfa o dan y grisiau, bwrdd consol.

Ystafell Gawod: gydag uned gawod fawr, toiled, basn.

Ystafell Fyw/Cegin: ystafell fawr agored ar siâp L; cegin drawiadol gyda peiriant coffi, popty a hob trydan, oergell/rhewgell, meicrodon, peiriant golchi llestri, ynys gyda bar brecwast a thair stôl; bwrdd bwyta ac wyth cadair; lolfa gyda soffa gornel ledr i bump ac un arall i eistedd tri, stôf drydan, teledu Smart gyda Sky Q, HD Sky, Amazon Fire Stick, Amazon Echo, Wifi, Xbox, Wii gyda gemau, bwrdd pwl bach, drysau patio i'r dec tu allan.

Ystafell Iwtiliti: gyda peiriant golchi/sychu dillad a storfa.

Llawr Cyntaf:

Ystafell wely 1: gyda gwely dwbwl, cypyrddau dillad a theledu hefo Amazon Fire Stick

En-suite: ystafell gawod, toiled a basn.

Ystafell wely 2: gyda dau wely sengl a chypyrddau dillad a theledu hefo Amazon Fire Stick

Ystafell wely 3: ystafell deuluol gyda gwely dwbwl a bync maint llawn, cypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi: gyda bath, uned gawod, toiled a basn.

Tu Allan: Dec yng nghefn ac ochr y llety gyda mynediad i fyny stepiau a ramp; twb poeth i eistedd 6 yn y cefn, patio wedi'i oleuo, dodrefn gardd, barbaciw nwy a gwresogydd patio.

Parcio: parcio ar gyfer 4-5 car, gât fel bod yr ardd yn gaeedig.

Dyma leoliad anhygoel ar gyfer cerddwyr, gyda milltiroedd o lwybrau Bannau Brycheiniog i'w darganfod o stepen y drws. Hefyd yn ddelfrydol ar gyfer y rhai hynny sy'n chwilio am wyliau ymlaciol. Gyda goleuadau llachar y ddinas ond 20 milltir i ffwrdd yn Abertawe, a thraeth euraidd Port Talbot lai na 25 milltir i ffwrdd.

Mae Coelbren yn bentref gwledig heddychlon a thawel, felly gofynnir am dawelwch ar ôl 11:00yh.

Trydan, gwres canolog a wifi yn gynwysedig  

Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig

Pecyn croeso ar gael

Croesewir 1 ci mawr neu 2 ci bach; ymholwch am fwy o gwn neu anifeiliaid anwes eraill

Lleoliad