Cwmcelyn

Rhayader, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £735 yr wythnos
  • £105 y noson
  • 5 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Ffermdy 5 seren diarffordd yng Nghanolbarth Cymru, gyda twb poeth. Wedi ei adnewyddu yn steilus gydag addurniadau a dodrefn modern a moethus, mae’r bwthyn yn leoliad ardderchog i ymlacio a mwynhau. Gellir mwynhau llonyddwch cefn gwlad neu ddarganfod y gweithgareddau awyr agored sydd yn cael eu cynnig yn yr ardal: mae rhain yn cynnwys teithiau cerdded a beicio braf, pysgota a gwylio adar. Mae yna hefyd dafarn leol o fewn taith gerdded fer.

Dalier sylw * i archebu’r bwthyn hwn fe fydd yn rhaid ein galw ar 01650 511101

Llawr Gwaelod

Cegin fodern gyda lle i fwyta, yn cynnwys popty mawr, meicrodon, oergell/rhewgell llawn maint, a nifer o offer cegin ychwanegol megis peiriant coffi, prosesydd bwyd a slow cooker. Bwrdd bwyta derw gyda lle i 6 eistedd.

Ystafell fyw gyda stôf goed drydan o fewn lle tân nodweddiadol, soffas lledr cyfforddus ar gyfer 6 a theledu HD mawr gyda freeview, CD/radio gyda chysylltiad Bluetooth ar gyfer cerddoriaeth. Drysau patio yn agor allan i dec gyda twb poeth moethus, ac yna i’r ardd.

Ystafell iwtiliti gyda basn, peiriannau golchi a sychu dillad, a lle i storio dillad ac offer cerdded.

Ystafell wlyb gyda cawod, basn a thoiled.

Llawr Cyntaf

Llofft 1 - 1 gwely superking gyda teledu ar y wal, a golygfeydd anhygoel o gefn gwlad

Llofft 2 - 2 wely sengl (gellir eu rhoi at ei gilydd i wneud gwely superking os dymunir) gyda teledu ar y wal a golygfeydd cyffelyb

Llofft 3 - 1 gwely dwbwl pedair troedfedd (y lleiaf o’r tair llofft), teledu ar y wal

Ystafell ymolchi gyda baddon crwm, cawod dros y baddon, basn a thoiled

Gardd

Mae’r ardd fawr sydd i’r cefn ac ochr y bwthyn wedi ei chau i mewn gan ffens bren, gyda graean, lle i barcio, dec mawr ac ardal wedi ei slabio, dodrefn rattan a chadeiriau i orwedd yn yr haul, parc chwarae i blant, a thwb poeth trawiadol gyda golygfeydd anhygoel ar draws y dyffryn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso wrth gyrraedd
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
  • Gwn baddon a chynnyrch ymolchi moethus ar gael ym mhob ystafell wely
  • Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
  • Cadair uchel a chot teithio ar gael os dymunir - rhaid dod â dillad eich hun i’r cot
  • Wi-fi am ddim
  • Barbeciw ar y safle ond bydd yn rhaid talu £30 o flaendal ad-daliedig ar ôl cyrraedd er mwyn ei ddefnyddio
  • Mae’r canlynol hefyd wedi eu darparu ar eich cyfer -
  • Cegin - halen a phupur, hylif golchi llestri/tabledi i’r peiriant golchi llestri, clytiau sychu fyny, ffoil a haenen glynu (cling film)
  • Ystafell ymolchi - cynnyrch ymolchi moethus yn cynnwys sebon dwylo, ac 1 rolyn papur toiled ar gyfer pob toiled
  • Cynnyrch glanhau cyffredinol - bleach, glanhawr cawod, chwistrellwr gwrthfacteria ayb
  • Ni chaniateir anifeiliad anwes nac ysmygu y tu mewn ar unrhyw gyfri
  • Mae digon o le i hyd at 4 car barcio
  • Fe fydd y bwthyn yn cael ei addurno ar gyfer y Nadolig. Gellir hefyd archebu twrci ffres os dymunir
  • Fe geir cludiant i’r bwthyn gan archfarchnadoedd Asda a Tesco - mae’r perchennog yn fodlon derbyn y nwyddau cyn i chi gyrraedd gyda threfniant ymlaen llaw
  • Mae’r perchennog yn gosod blodau a gellir archebu rhai os dymunir
  • Sylwer - *i archebu’r bwthyn fe fydd yn rhaid i chi ffonio 01650 511101 (yn hytrach na drwy’r wefan)

Lleoliad

Llety ar ben ei hun yn edrych allan dros y dyffryn gyda golygfeydd anhygoel o gefn gwlad. Yn cynnig heddwch a thawelwch, mae mynediad i’r bwthyn ar hyd lôn breifat, i ffwrdd o unrhyw draffic a thai eraill. Mae’r llety yr un pellter o drefi gwledig Llandrindod a Rhayadr, y ddwy dref 4 milltir i ffwrdd. Fe leolir y dafarn agosaf ym mhentref bychan Gwystre, lai na milltir i ffwrdd.

Fe geir nifer o siopau bychain, unigryw yn Rhayadr, yn ogystal â digon o lefydd i fwyta ac yfed. Mae’r ardal yn adnabyddus am ei barcutiaid coch, ac mae Gorsaf Fwydo y Barcud Coch yn Rhayadr yn werth ymweld â hi i weld yr adar ysglyfaethus hyn yn hedfan uwchben. Mae Cwm Elan wedi ei leoli ger Rhayadr ac mae’n cynnig 72 milltir sgwar o harddwch gyda chronfeydd dwr, argaeau a nifer o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys cerdded, beicio, pysgota a hyd yn oed teithiau saffari.

Arferai tref spa Llandrindod fod yn gyrchfan wyliau poblogaidd adeg oes Fictoria oherwydd y ffynhonnau a leolwyd gerllaw. Y diwrnodau hyn, mae’n dref wledig brysur gyda marchnad wythnosol ac amrywiaeth o siopau lleol ac archfarchnadoedd.

Mae Llanelwedd, cartref Sioe Frenhinol Cymru, y Ffair Aeaf a Gwyl y Gwanwyn ond 9 milltir i ffwrdd, sydd yn gwneud y bwthyn yn fan delfrydol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau ac atyniadau sydd yn digwydd yno.

Mae Arfordir Gorllewin Cymru, gyda’i draethau braf, lai na awr o siwrne i ffwrdd. Gellir hefyd archebu trip ar long i weld y dolffiniaid ym Mae Ceredigion. I’r dwyrain, mae Henffordd, Llwydlo a threfi eraill y gororau, gyda mynediad cyfleus i Ganolbarth Lloegr.

Golff
  • Mae Clwb Golff Llandrindod yn edrych allan dros y dref, yn 5800 llath o hyd a par 69 (4 milltir)
Gwylio Adar
  • Mae’n werth ymweld â Chanolfan Fwydo y Barcud Coch yn Rhayadr ble gellir gweld yr adar hudol hyn yn hedfan uwchben (4 milltir)
Marchogaeth
  • Gellir archebu teithiau reidio yng Ngwesty’r Llew Brenhinol yn Rhayadr, gyda nifer o deithiau gwahanol yng Nghwm Elan a’r ardal wledig o gwmpas (5 milltir)
Cerdded
  • Nifer o deithiau cerdded gerllaw, a hefyd yng Nghwm Elan, Bannau Brycheiniog a mynyddoedd Cambrian. Rhai teithiau a llwybrau cerdded yn cychwyn o’r ty fferm (0.01 milltir)
Beicio
  • Llwybrau beicio gwych ar ffyrdd gwledig tawel (0.1 milltir)
  • Mae llwybrau Beicio Mynydd Rhayadr yn addas ar gyfer pob gallu a phellter, ac yn cynnwys 2 o’r llwybrau lawr allt MTB gorau yn y Deyrnas Unedig (5 milltir)
Pysgota
  • Mae’r afon Gwy yn enwog fel un o’r afonydd eog, brithyll penllwyd a brithyll brown gorau yng Nghymru. Gellir cael tocynnau diwrnod ar gyfer pysgota ar afon Gwy mewn clybiau lleol (4 milltir)
Chwaraeon Dwr
  • Mae Cwm Elan yn cynnig canwio, caiacio a rafftio (6 milltir)