- £460 yr wythnos
- £66 y noson
- 5 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Storfa tu allan
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Ysgubor sydd newydd ei hadnewyddu yn cynnig cymysgedd o'r traddodiadol a'r cyfoes. Mwynhewch y lleoliad tawel ac heddychlon, gyda'r fantais o gael tref farchnad Machynlleth a'i holl adnoddau o fewn ychydig dros 3 milltir. Safle gwych i fedru darganfod Canolbarth Cymru, De Eryri a Bae Ceredigion. Llwybrau cerdded trawiadol, rheilffyrdd stêm, a nifer o atyniadau eraill gerllaw.
Llawr Gwaelod
Ardal fyw cynllun agored gyda nenfwd uchel uwchben y gegin a thrawstiau derw yn nodwedd trawiadol. Mae dwy step yn arwain at ddrws gwydr a phatio bychan gyda golygfeydd o gefn gwlad.
Cegin gyfoes gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty a hob trydan, meicrodon, peiriant golchi llestri ac oergell/rhewgell.
Lolfa gyda llawr derw, dwy soffa a chadair o flaen teledu mawr ar y wal.
Ystafell ymolchi gyda toiled, basn, rheilen sychu tywelion, baddon a chawod arwahan.
Ystafell iwtiliti - yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad, bwrdd a haearn smwddio a storfa.
Ystafell wely 1 - gwely sengl gyda chypyrddau dillad.
Llawr cyntaf
Ystafell wely 2 - gwely maint king, cypyrddau dillad, cadair a theledu. Mae'r ystafell yma wedi ei lleoli i un pen y bwthyn gyda mynediad i fyny grisiau arwahan (noder na ellir cael mynediad i'r ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf o ystafell wely 2).
Ystafell wely 3 - gwely maint king, cypyrddau dillad a chadair. Mae'r ystafell hon wedi ei lleoli yn mhen arall y bwthyn.
Pen grisiau - yn cysylltu ystafell wely 3 gyda'r ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf. Ardal ddarllen/ymlacio gyda dwy gadair gysurus a bwrdd bach.
Ystafell ymolchi - gyda toiled, basn, baddon a chawod oddi mewn.
Gardd
Gardd fawr y tu blaen i'r llety gyda golygfeydd ar draws y dyffryn. Dau fwrdd arddull bistro gydag wyth cadair i fwynhau bwyta allan ar y patio.
Garej fawr agored gyda sied y gellir ei chloi.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacen
- Dillad gwelyau, tywelion a 2 sychwr gwallt yn gynwysedig
- Gwres a thrydan yn gynwysedig - nid yw trydan yn cynnwys gwefru car. Mae croeso i westeion wefru ceir trydanol ond mi all olygu costau ychwanegol. Plîs gadewch i ni wybod wrth archebu os y byddwch angen gwefru eich car.
- Wifi ar gael
- Cot trafeilio a chadair uchel i'w cael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Haearn a bwrdd smwddio
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- Digon o le parcio
- Fe ddarperir y canlynol:
- Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, brwsh golchi llestri, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol