Beudy Tanllan

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £467 yr wythnos
  • £67 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Dim signal ffôn symudol

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Perffaith ar gyfer cyplau neu deuluoedd bychain - mae'r bwthyn hardd hwn mewn lleoliad heddychlon, gyda stôf goed, ystafell chwaraeon a golygfeydd anhygoel. Pun ai dewis ymlacio, darganfod yr ardal leol, neu gychwyn allan ar dripiau dyddiol fyddwch chi, mae'r llety steilus hwn yn cynnig popeth ar gyfer gwyliau cofiadwy yng Nghanolbarth Cymru.

Wedi ei adnewyddu yn ddiweddar o ysgubor draddodiadol, mae Beudy Tanllan yn un o ddau fwthyn 5 seren ar y safle. Os hoffech ddod gyda grŵp mwy, gellir cyfuno'r ddau fwthyn i wneud un mawr (Llety Tanllan) ar gyfer hyd at 10 o westeion.

Ychwanegiad newydd i'r Wefan   

Llawr Gwaelod

Ardal fawr agored gyda chegin unigryw, ardal fwyta, lolfa groesawgar gyda golygfeydd pellgyrhaeddol, a gwres o dan y llawr.

Cegin hynafol o dderw Cymreig gyda thopiau llechen, sinc serameg, popty a hob trydan, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, a pheiriant golchi dillad. Bwrdd bwyta gyda golygfeydd i fyny'r dyffryn tuag at Fynyddoedd y Cambrian ar y gorwel.

Lolfa eang gyda seddi cyfforddus o flaen stôf goed, teledu a chwaraewr DVD. Nenfwd uchel, waliau cerrig a thrawstiau derw - ystafell braf i fwynhau amser o ansawdd gyda'ch teulu, ffrindiau neu gariad.

Toiled a sinc ar y llawr gwaelod.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - mwynhewch olygfeydd o'r dyffryn a'r mynyddoedd o'r gwely maint king neu'r gadair suglo steilus. Cwpwrdd dillad.

Ystafell wely 2 - ystafell hardd gyda dau wely sengl a chwpwrdd dillad.

Ystafell ymolchi - gyda baddon a chawod oddi mewn, rheilen sychu tywelion, toiled, uned basn unigryw o lechen a derw, gwres o dan y llawr.

Gardd

Ystafell Chwaraeon arwahan ym mhen pella'r llety, yn cael ei rhannu gyda'r bwthyn drws nesaf. Gyda bwrdd pŵl, gorsaf docio, llyfrau a gemau, a golygfeydd gwych.

Patio caeedig o flaen y ddau fwthyn, gyda chornel breifat i bob un bwthyn. Barbaciw siarcol ar gael. 

Gardd gaeedig arall gydag ardal chwaraeon gerllaw'r bwthyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso o fwydydd Cymreig sy'n cynnwys llefrith.  
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig. Gwres canolog adnewyddadwy o ffynhonell tanddaearol, hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynhesu'r dŵr   
  • Pecyn dechreuol o goed tân ar gyfer y ddwy stôf goed. Gellir prynu coed ychwanegol gan y perchennog am £4 y bag    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
  • Sychwr gwallt ar gael 
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gat i'r staer ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot. Gard tân ar gael hefyd ar gyfer y stof goed   
  • Wi-fi ar gael    
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn 
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled ym mhob ystafell ymolchi
  • Mae archfarchnadoedd bychain a marchnad stryd wythnosol ym Machynlleth, gyda Asda a Tesco yn dosbarthu i'r cartref 
  • Digon o le parcio yn y buarth ger y bwthyn

I Grynhoi - gair gan y perchnogion   

Mae gan yr ardal leol gymaint i'w chynnig a gellir cael tripiau dyddiol anhygoel oddi yma, ond rydym yn caru ein bywyd yn y gornel fach yma o Ganolbarth Cymru ac yn teimlo y gellir cael anturiaethau cofiadwy yn y fan hyn, ble mae cyflymdra bywyd yn arafu a ble gellir teimlo yn un â byd natur. Dringwch y bryniau, gwyliwch yr haul yn codi ac yn machlud, adeiladwch den neu argae yn y nant, gwrandewch ar yr adar yn canu, chwaraewch ar y bont fach i lawr y lôn, darllenwch lyfr yn yr awyr agored, neu lenwi eich llyfr braslunio gyda darluniau a pheintiadau - mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen. 

Lleoliad

Llety trawiadol wedi ei drawsnewid o hen ysgubor, ac wedi ei leoli mewn mangre tawel. Wedi ei adnewyddu a'i adfer yn gariadus gan ei berchnogion, Swyddog yr Ymddirieolaeth Genedlaethol ac athrawes Gelf, Rhodri ac Elinor, a byddant yn siwr o'ch croesawu'n gynnes. Mwynhewch y golygfeydd anhygoel, gwyliwch y barcutiaid coch o'ch ffenestr, neu beth am ddarganfod Llwybr Glyndwr sydd yn pasio ond hanner milltir o'ch llety.

Wedi ei amgylchynu gan gaeau a thir organig, mae Beudy Tanllan ond 2 filltir o'r A470, a 7 milltir o dref farchnad brysur Machynlleth, gyda'i siopau, tafarndai a bwytai niferus. Dyma hefyd gartref cyn Senedd Cymru, yn dyddio nol i 1404, a'r farchnad stryd hynaf ym Mhrydain (bob dydd Mercher). Teithiwch i draeth hardd Aberdyfi (17 milltir), neu chwiliwch am anturiaethau ym Mharc Cenedlaethol Eryri. 

Ymysg y llefydd gorau i fwyta'n lleol mae Bistro Number Twenty One a Gwesty Wynnstay ym Machynlleth (7 milltir), Tafarn y Brigands ym Mallwyd (9 milltir), Glan yr Afon Ym Mhennal, ac am fwyd traddodiadol mae'r Llew Coch yn Ninas Mawddwy (11 milltir). Am fwyd parod, fe argymhellir siop enwog Sgodyn a Sglodion Hennighans ym Machynlleth, neu dafarn y Penrhos yng Nghemaes (5 milltir). Ar gyfer bwyta mewn steil, Ynyshir Hall (13 milltir) yw'r lle, gydag acolâd megis Seren Michelin a 5 Roset AA, yn ogystal ag ymddangos yn y Good Food Guide 2017/2018 a dod yn 15fed ar restr Harden's Best UK Restaurants 2017/2018. Y dafarn leol agosaf yw Gwesty Dyfi Valley yng Nglantwymyn (3.5 milltir). 

Mae trên bach Talyllyn yn cynnig diwrnod allan gwych, yn ogystal â Chanolfan y Dechnoleg Amgen, nifer o gestyll chwedlonol (megis Castell y Bere a Harlech), Gwarchodfa Natur Ynys Hir, Prosiect Gweilch y Dyfi, Labyrinth y Brenin Arthur, a Chanolfan Grefftau Corris. Fe argymhellir canolfan feicio mynydd Coed y Brenin, neu drip i Aberystwyth (cartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a'r Ganolfan Gelfyddydol fwyaf yng Nghymru ayb). Ar y ffordd adref gellir aros am bryd bwyd gwych a ffilm yn Libanus 1877 (sinema a bwyty) yn y Borth.

Cerdded

Llwybr Glyndwr - llwybr cenedlaethol 135 milltir (217 Km) yn ymlwybro drwy weundiroedd agored, tir fferm ffrwythlon, coedtiroedd a fforestydd canolbarth Cymru (0.5 milltir)   

Llwybr Dyffryn Dyfi - yn dilyn yr Afon Ddyfi o'r aber yn Aberdyfi i'r tarddiad ar gopa Aran Fawddwy, ac yna lawr nol ar ochr ddeheuol yr afon drwy Machynlleth ac i lawr i'r Borth. Gellir cael mapiau yn y Ganolfan Gwybodaeth Ymwelwyr ym Machynlleth. Ymunwch â'r llwybr 3.5 milltir o'r bwthyn.                                   

Cader Idris – 3 prif ffordd o Minffordd (15.5 milltir), Abergynolwyn (18 milltir) a Dolgellau (20 milltir)    

Llwybr Mawddach - llwybr gwastad gyda golygfeydd godidog o Ddolgellau i Abermaw. Addas ar gyfer pob oed - cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn (20 milltir)                                                                                                                                                                                                                           

Beicio

Beicio Mynydd Dyfi - pob llwybr yn cychwyn o Fachynlleth (7 milltir)   

LLwybr Mawddach – fel uchod

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oed (28 milltir)  

Traethau

Aberdyfi – traeth euraidd ar ochr ogleddol aber yr afon Ddyfi. Tref glan y môr gyda digon o siopau, caffis a bwytai (17 milltir)   

Ynyslas – traeth hardd ar ochr ddeheuol aber yr afon Ddyfi, gyda twyni tywod. Caffi a pharcio ar y traeth (19 milltir)   

Pysgota

Afon Dyfi - yn cynnig pysgota gwych ac yn enwog am frithyll brown, eog a brithyll môr. Mae'r afon yn pasio 3.5 milltir o'r bwthyn a gellir prynu trwydded yn y swyddfa bost leol   

Golff

Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll (7 milltir)   

Clwb Golff Aberdyfi - cwrs golff 18 twll (17 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

Clwb Hwylio Clywedog - llyn 6 milltir o hyd gyda pob math o chwaraeon dŵr yn cynnwys canŵio, hwylfordio, dingis a mwy (15.5.milltir)   

Chwaraeon Dŵr yn Aberdyfi - yn cynnwys hwylio, bordio, rhwyfo, canŵio, pysgota a thripiau cychod (17 milltir)