- Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
- Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
- £1,138 yr wythnos
- £163 y noson
- 10 Guests
- 5 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Dim signal ffôn symudol
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 5 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Dyma fwthyn i greu argraff - o'r lleoliad tawel a gwledig, i'r nodweddion unigryw a'r gorffeniad o'r radd uchaf, yr ystafell chwaraeon, stofiau coed, a golygfeydd anhygoel. Wedi ei adnewyddu'n ddiweddar o ysgubor Gymreig draddodiadol, mae'r llety steilus hwn yn berffaith ar gyfer aduniadau grwpiau a gall y gwesteion i gyd fwynhau gyda'i gilydd yn yr ardal fyw a bwyta. Mae gennych hefyd yr opsiwn o rannu'r bwthyn yn ddwy uned (Beudy Tanllan ac Ysgubor Tanllan). Gyda gatiau yn creu ardal gaeedig, gellir mwynhau'r golygfeydd a'r tawelwch o'r patio y tu allan.
Ychwanegiad Newydd i'r Wefan
Llawr Gwaelod
Cegin / ardal fwyta / ystafell fyw 1 - cegin unigryw wedi ei gwneud o dderw Cymreig lleol gyda topiau llechi a sinc serameg. Mae'r trawstiau derw a'r lloriau llechi yn rhoi teimlad clyd a gwledig i'r llawr gwaelod. Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty a hob trydan, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad.
Mae'r gegin yn agor allan i'r ardal fwyta / lolfa agored ble mae'r bwrdd bwyta wedi ei leoli o flaen y drysau patio i wneud y mwyaf o'r golygfeydd trawiadol.
Mae'r lolfa helaeth yn cynnig gwres o dan y lloriau, llawr llechi, a drysau patio yn agor allan i olygfeydd cefn gwlad. Cadeiriau cyfforddus o flaen stôf goed, teledu a chwaraewr DVD. Nenfwd uchel gyda waliau cerrig a thrawstiau derw - ystafell braf i fwynhau amser gyda teulu neu ffrindiau.
Ystafell gyda toiled a basn.
Cyntedd eang gyda digon o le ar gyfer storio esgidiau glaw ac esgidiau cerdded.
Cegin / ardal fwyta / ystafell fyw 2 - yn debyg iawn i ystafell fyw 1, gyda cegin sydd â'r holl offer angenrheidiol a bwrdd bwyta sy'n cymryd mantais o'r golygfeydd. Gall pawb fwyta ac ymlacio gyda'i gilydd yma. Mae stôf goed yn y lolfa hon hefyd, ynghŷd â theledu a chwaraewr DVD, ac mae'n ymestyn allan i'r ystafell haul, eto gyda golygfeydd trawiadol.
Ystafell gyda toiled a basn, gyda lle i storio esgidiau.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gorweddwch yn nol yn y gwely maint king i gymryd mantais o'r golygfeydd gwych o'r dyffryn a'r mynyddoedd yn y pellter. Cwpwrdd dillad.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl a chwpwrdd dillad.
Ystafell ymolchi 1 - ystafell fawr gyda baddon a chawod oddi mewn, rheilen sychu tywelion, gwres o dan y llawr, toiled a basn wedi ei gwneud o lechi a derw.
Ystafell wely 3 - gwely maint king gyda drysau yn edrych allan dros yr ystafell haul sydd yn eich atgoffa o fywyd blaenorol yr adeilad fel ysgubor. Mae pob agoriad wedi ei wneud yn ddiogel ar gyfer plant bach gyda rheiliau a gardiau. Waliau cerrig, nenfwd uchel a thrawstiau gwreiddiol. Ensuite gyda cawod fawr, gwres o dan y llawr, rheilen sychu tywelion, toiled a basn.
Ystafell wely 4 - gwely maint king, waliau cerrig, nenfwd uchel a thrawstiau gwreiddiol.
Ystafell wely 5 - gwely bync gyda golygfeydd o'r dyffryn.
Ystafell ymolchi 2 - gyda baddon a chawod oddi mewn, rheilen sychu tywelion, gwres o dan y llawr, toiled a basn.
Gardd
Ystafell Chwaraeon - gyda bwrdd pŵl, gorsaf docio i'r rhai sy'n hoff o gerddoriaeth, llyfrau a gemau.
Patio caeedig y tu blaen i'r bwthyn sydd yn edrych allan dros y dyffryn a mynyddoedd y Cambrian, heb unrhyw ffordd na cherbyd yn y golwg, a dim ond y barcutiaid coch ac anifeiliad y fferm yn gwmni. Dodrefn gardd a barbaciw siarcol ar gael.
Gardd gaeedig gyda lawnt ardal chwarae gerllaw'r bwthyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso o fwydydd Cymreig sy'n cynnwys llefrith.
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig. Gwres canolog adnewyddadwy o ffynhonell tanddaearol, hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynhesu'r dŵr
- Pecyn dechreuol o goed tân ar gyfer y ddwy stôf goed. Gellir prynu coed ychwanegol gan y perchennog am £4 y bag
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 2 sychwr gwallt ar gael
- 2 x cot trafeilio, cadeiriau uchel a gatiau staer ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot. Gard tân ar gael hefyd ar gyfer y stofiau coed
- Wi-fi ar gael
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled ym mhob ystafell ymolchi
- Mae archfarchnadoedd bychain a marchnad stryd wythnosol ym Machynlleth, gyda Asda a Tesco yn dosbarthu i'r cartref
- Digon o le parcio yn y buarth ger y bwthyn
I Grynhoi - gair gan y perchnogion
Mae gan yr ardal leol gymaint i'w chynnig a gellir cael tripiau dyddiol anhygoel oddi yma, ond rydym yn caru ein bywyd yn y gornel fach yma o Ganolbarth Cymru ac yn teimlo y gellir cael anturiaethau cofiadwy yn y fan hyn, ble mae cyflymdra bywyd yn arafu a ble gellir teimlo yn un â byd natur. Dringwch y bryniau, gwyliwch yr haul yn codi ac yn machlud, adeiladwch den neu argae yn y nant, gwrandewch ar yr adar yn canu, chwaraewch ar y bont fach i lawr y lôn, darllenwch lyfr yn yr awyr agored, neu lenwi eich llyfr braslunio gyda darluniau a pheintiadau - mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen.
Lleoliad
Mae'r llety trawiadol hwn wedi ei drawsnewid o hen ysgubor, ac wedi ei leoli mewn mangre tawel ble gellir dianc ac ymlacio mewn amgylchedd 5 seren. Rhan o fferm draddodiadol Gymreig, mae'r llety wedi ei adnewyddu a'i adfer yn gariadus gan ei berchnogion, Swyddog yr Ymddirieolaeth Genedlaethol ac athrawes Gelf, Rhodri ac Elinor, a byddant yn siwr o'ch croesawu'n gynnes. Mwynhewch y golygfeydd anhygoel, gwyliwch y barcutiaid coch o'ch ffenestr, neu beth am ddarganfod Llwybr Glyndwr sydd yn pasio ond hanner milltir o'ch llety.
Wedi ei amgylchynu gan gaeau a thir organig, mae Llety Tanllan ond 2 filltir o'r A470, a 7 milltir o dref farchnad brysur Machynlleth, gyda'i siopau, tafarndai a bwytai niferus. Dyma hefyd gartref cyn Senedd Cymru, yn dyddio nol i 1404, a'r farchnad stryd hynaf ym Mhrydain (bob dydd Mercher). Teithiwch i draeth hardd Aberdyfi (17 milltir), neu chwiliwch am anturiaethau ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ymysg y llefydd gorau i fwyta'n lleol mae Bistro Number Twenty One a Gwesty Wynnstay ym Machynlleth (7 milltir), Tafarn y Brigands ym Mallwyd (9 milltir), Glan yr Afon Ym Mhennal, ac am fwyd traddodiadol mae'r Llew Coch yn Ninas Mawddwy (11 milltir). Am fwyd parod, fe argymhellir siop enwog Sgodyn a Sglodion Hennighans ym Machynlleth, neu dafarn y Penrhos yng Nghemaes (5 milltir). Ar gyfer bwyta mewn steil, Ynyshir Hall (13 milltir) yw'r lle, gydag acolâd megis Seren Michelin a 5 Roset AA, yn ogystal ag ymddangos yn y Good Food Guide 2017/2018 a dod yn 15fed ar restr Harden's Best UK Restaurants 2017/2018. Y dafarn leol agosaf yw Gwesty Dyfi Valley yng Nglantwymyn (3.5 milltir).
Mae trên bach Talyllyn yn cynnig diwrnod allan gwych, yn ogystal â Chanolfan y Dechnoleg Amgen, nifer o gestyll chwedlonol (megis Castell y Bere a Harlech), Gwarchodfa Natur Ynys Hir, Prosiect Gweilch y Dyfi, Labyrinth y Brenin Arthur, a Chanolfan Grefftau Corris. Fe argymhellir canolfan feicio mynydd Coed y Brenin, neu drip i Aberystwyth (cartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a'r Ganolfan Gelfyddydol fwyaf yng Nghymru ayb). Ar y ffordd adref gellir aros am bryd bwyd gwych a ffilm yn Libanus 1877 (sinema a bwyty) yn y Borth.
Cerdded
Llwybr Glyndwr - llwybr cenedlaethol 135 milltir (217 Km) yn ymlwybro drwy weundiroedd agored, tir fferm ffrwythlon, coedtiroedd a fforestydd canolbarth Cymru (0.5 milltir)
Llwybr Dyffryn Dyfi - yn dilyn yr Afon Ddyfi o'r aber yn Aberdyfi i'r tarddiad ar gopa Aran Fawddwy, ac yna lawr nol ar ochr ddeheuol yr afon drwy Machynlleth ac i lawr i'r Borth. Gellir cael mapiau yn y Ganolfan Gwybodaeth Ymwelwyr ym Machynlleth. Ymunwch â'r llwybr 3.5 milltir o'r bwthyn.
Cader Idris – 3 prif ffordd o Minffordd (15.5 milltir), Abergynolwyn (18 milltir) a Dolgellau (20 milltir)
Llwybr Mawddach - llwybr gwastad gyda golygfeydd godidog o Ddolgellau i Abermaw. Addas ar gyfer pob oed - cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn (20 milltir)
Beicio
Beicio Mynydd Dyfi - pob llwybr yn cychwyn o Fachynlleth (7 milltir)
LLwybr Mawddach – fel uchod
Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oed (28 milltir)
Traethau
Aberdyfi – traeth euraidd ar ochr ogleddol aber yr afon Ddyfi. Tref glan y môr gyda digon o siopau, caffis a bwytai (17 milltir)
Ynyslas – traeth hardd ar ochr ddeheuol aber yr afon Ddyfi, gyda twyni tywod. Caffi a pharcio ar y traeth (19 milltir)
Pysgota
Afon Dyfi - yn cynnig pysgota gwych ac yn enwog am frithyll brown, eog a brithyll môr. Mae'r afon yn pasio 3.5 milltir o'r bwthyn a gellir prynu trwydded yn y swyddfa bost leol
Golff
Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll (7 milltir)
Clwb Golff Aberdyfi - cwrs golff 18 twll (17 milltir)
Chwaraeon Dŵr
Clwb Hwylio Clywedog - llyn 6 milltir o hyd gyda pob math o chwaraeon dŵr yn cynnwys canŵio, hwylfordio, dingis a mwy (15.5.milltir)
Chwaraeon Dŵr yn Aberdyfi - yn cynnwys hwylio, bordio, rhwyfo, canŵio, pysgota a thripiau cychod (17 milltir)