Caban Clyd

Dinas Mawddwy, North Wales Snowdonia

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 31st May and 25th July
  • Special Offer10% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £575 yr wythnos
  • £82 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Gyda golygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad, mae’r pod glampio moethus hwn yng nghanol cefn gwlad Canolbarth Cymru mewn lleoliad perffaith ar gyfer ymlacio. Wedi ei leoli ar fferm weithiol yn cynnwys coetir, llwybrau cerdded a’r afon Ddyfi gerllaw, ac o fewn Parc Cenedlaethol Eryri gyda’i holl weithgareddau ac atyniadau. Gellir cerdded ar hyd llwybr byr i bentref Dinas Mawddwy, lle ceir caffi a thafarn lleol sy’n gweini bwyd a diod ardderchog.

Mae’r Caban yn cynnwys gwely dwbl cyfforddus, yn ogystal â gwely soffa.

Ceir ystafell ymolchi gydag uned gawod helaeth, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Cegin yn cynnwys sinc, hob anwytho, meicrodon, oergell/rhewgell, tegell, tostiwr a’r holl lestri a chytleri angenrheidiol.

Bwrdd a chadeiriau i 4; teledu 'Freesat', chwaraewr DVD; a nifer o daflenni gwybodaeth am yr ardal.

Tu allan mae yna fwrdd picnic ble medrwch eistedd a mwynhau’r golygfeydd. Mae yna hefyd barbaciw siarcol mawr, pydew tân (ym misoedd y gaeaf) a chadair i ddau i eistedd a gwylio'r sêr. Mae’r ardal o gwmpas y Caban wedi ei gau mewn.

Gwybodaeth Ychwanegol

· Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth, a chacen neu fisgedi Cymreig

· Dillad gwely, tywelion, a thywelion sychu llestri yn gynwysedig

· Trydan a gwres dan y llawr yn gynwysedig

· Sychwr gwallt ar gael

· Digon o le parcio

· Dim Wi-fi. Mae signal ffonau symudol yn gyfyngedig gyda rhai rhwydweithiau, ond fel arfer mae yna signal EE cryf, yn cynnwys 4G

Os hoffech ddefnyddio'r gwely soffa ar gyfer un neu ddau o westeion ychwanegol yna cysylltwch â ni pan yn archebu. Bydd cost ychwanegol o £20 y noson.    

· Mae’r Caban wedi ei leoli ar fferm weithiol felly dylid sicrhau fod plant ifanc dan oruchwyliaeth oedolyn ar bob achlysur

· Darperir un bag o siarcol ar gyfer y barbaciw yn ogystal ac un bag o goed i'r pydew tân. Gellir prynu cyflenwad ychwanegol gan y perchennog neu mewn siopau lleol

· Darperir yr eitemau canlynol ar gyfer eich arhosiad - Cegin - pupur a halen, olew yr olewydd, papur cegin, ffoil, ffilm glynu, hylif golchi llestri, clytiau. Ystafell ymolchi - sebon hylif, papur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol

Lleoliad

Fe leolir Caban Clyd yn Nyffryn hardd yr afon Ddyfi, milltir mewn car o bentref Dinas Mawddwy ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Dim ond cwpwl o filltiroedd o droed mynydd Aran Fawddwy - y mynydd uchaf yn ne Eryri. Mae’r Caban wedi ei leoli tua 5 milltir o Bwlch y Groes, y bwlch uchaf yng Nghymru, sy’n arwain i Lynnoedd Bala ac Efyrnwy gyda’u ystod eang o chwaraeon dwr.

Mae trefi marchnad hyfryd Machynlleth a Dolgellau oddeutu 15 i 20 munud i ffwrdd yn y car. Adnabyddir Machynlleth fel Prifddinas Hynafol Cymru, ac mae yna nifer o siopau bach gwahanol, bwytai, tafarndai, caffis, siopau prydau parod, archfarchnad a garej. Mae’n gartref i’r farchnad stryd fwyaf ym Mhrydain sy’n cael ei chynnal bob dydd Mercher, ac hefyd MOMA Cymru, arddangosfa celf Cymreig modern. Mae Dolgellau hefyd gyda’r holl adnoddau yr ydych angen, yn cynnwys bwytai, caffis, siopau a thafarndai, yn ogystal â banciau a fferyllfeydd. Ymysg bwytai sy’n cael eu cymeradwyo mae’r Meirionnydd a’r Royal Ship, yn ogystal â’r Steakhouse a bar tapas Tafarn y Gader.

Mae’r arfordir yn cynnig traethau hardd, megis Fairbourne (18 milltir), Abermaw (20 milltir), Aberdyfi (23 milltir), Borth (27 milltir) a thref brifysgol Aberystwyth (32 milltir). Mae’r siop a’r garej agosaf 1.5 milltir i ffwrdd ym mhentref Mallwyd. Yma fe geir Eglwys a thafarn hynafol o’r enw Tafarn y Brigands. Mae ardal Mallwyd a Dinas Mawddwy yn enwog am chwedlau Gwylliaid Cochion Mawddwy - mintai o ysbeilwyr gwallt-goch â arferai frawychu’r ardal yn nôl yn yr unfed ganrif ar bymtheg!

Mae’r dyffryn yn cynnig heddwch a llonyddwch ac mae’n leoliad delfrydol i gerddwyr o bob gallu gyda nifer o lwybrau cerdded yn arwain yn syth o’ch Caban moethus. Ym mhentref Dinas Mawddwy mae siop grefftau a chaffi Melin Meirion, Canolfan Arddio a chaffi Camlan, a Chaffi Crefftau yng nghanol y pentref, ble gellir cymryd rhan mewn sesiynau crefft tra’n mwynhau paned a chacen. Mae yna ddwy dafarn - yr enwocaf yw’r Llew Coch sydd o fewn pellter cerdded i’ch Caban.

Bob mis Medi, fe gynhelir cystadleuaeth beicio mynydd y Red Bull Hardline ger Dinas Mawddwy. Mae’r gystadleuaeth yn denu miloedd o bobl bob blwyddyn, ac fe fyddai Caban Clyd yn leoliad perffaith i aros ynddo dros y digwyddiad - fe ellir hyd yn oed weld rhan o drac y gystadleuaeth o du allan y Caban. Fe gynhelir Rali Cymru GB bob mis Tachwedd yng Nghoedwig Dyfi sydd ond cwpwl o filltiroedd i ffwrdd, ac i’r rhai ohonoch sydd wrth eich boddau yn gwylio’r awyrennau yn teithio ar hyd y Mach Loop, mae eich caban cysurus yn leoliad delfrydol i wylio’r awyrennau syfrdanol yn hedfan tuag atoch i fyny’r dyffryn ar ddyddiau achlysurol.

Ymysg atyniadau poblogaidd eraill mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (15 milltir), Labyrinth y Brenin Arthur a Chanolfan Grefftau Corris (13 milltir), gwarchodfeydd RSPB yn Ynyshir (20 milltir) a Llyn Efyrnwy (21 milltir), Prosiect Gweilch y Ddyfi (18 milltir), Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin (17 milltir), ac ar gyfer y rhai mwy anturus mae Zip World, Bounce Below a Ceudyllau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog (32 milltir).

Cerdded

Aran Fawddwy – yn cychwyn o ddyffryn hudolus Cwm Cywarch, mae'r llwybr hwn i gopa Aran Fawddwy yn un o'r rhai gorau yn Eryri. Mae'r golygfeydd yn syfrdanol gyda dyffrynnoedd dwfn a bryniau tonnog yn brif nodweddion yr ardal. Ond 9 metr (30 tr) yn fyr o fod yn aelod o'r 3000au Cymreig, mae Aran Fawddwy y 16eg copa uchaf yng Nghymru (tua 3 milltir o'r Caban).   

Llwybr Dyffryn Dyfi – dilynwch yr Afon Ddyfi o'r aber yn Aberdyfi i'r tarddiad ar gopa Aran Fawddwy, ac yna i lawr yn ôl ar ochr ddeheuol yr afon drwy Machynlleth ac i lawr i Borth. Ymunwch â'r llwybr lai na 0.5 milltir o'r Caban.   

Llwybr Glyndwr - llwybr hir yng Nghanolbarth Cymru gafodd statws Llwybrau Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. Gellir ymuno gyda'r llwybr yng Nghemaes (6 milltir)   

Llwybr Torrent – Brithdir - llwybr hamddenol tua 2 filltir a hanner o hyd ar gyd glannau'r afon (8 milltir)   

Llwybr Mawddach – Dolgellau i Abermaw - addas ar gyfer pob oed – cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn (10 milltir)    

Cader Idris (llwybr mynyddig) – 3 prif lwybr yn cychwyn o Ddolgellau (12 milltir), Minffordd (10 milltir) ac Abergynolwyn (16 milltir).

Llwybr Cynwch – Dolgellau - addas ar gyfer pob oed (13 milltir)

Llwybr Cynwch Newydd – Llanelltyd - addas ar gyfer pob oed (13 milltir)

Beicio

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oed (17 milltir)   

Llwybr Mawddach – 10 milltir o hyd o Ddolgellau i Abermaw (10 milltir)   

Pysgota

Mae'r Afon Ddyfi yn cynnig pysgota brithyll ac eog gwych - gellir gofyn i'r perchennog am drwydded i bysgota ger y Caban.

Mae nifer o gyfleoedd i bysgota yn ardal Dolgellau gydag opsiynau addas ar gyfer pob oed.   

Chwaraeon Dwr

Llyn Efyrnwy – canwîo, caiacio, hwylio a syrffio gwynt - addas ar gyfer yr holl deulu (20 milltir/15 milltir dros y mynydd)   

Llyn Tegid, Bala – hwylio, canwîo, caiacio, syrffio gwynt, adeiladu rafftiau (25 milltir/18 milltir dros y mynydd) 

Canolfan Dwr Gwyn Cenedlaethol, Canolfan Tryweryn – rafftio dwr gwyn, caiacio a canwîo (28 milltir/21 milltir dros y mynydd)   

Golff

Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll (14 milltir)   

Clwb Golff Aberdyfi - cwrs golff 18 twll (23 milltir)    

Clwb Golff Harlech – Royal St. David’s – cwrs golff 18 twll (30 milltir)   

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Bwlchgwyn - addas ar gyfer unrhyw un dros 4 oed (16 milltir)