Beudy Clygo

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £429 yr wythnos
  • £61 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae Beudy Clygo yn fwthyn hunan-ddarpar mewn lleoliad gwledig a phreifat yng Nghwm Dyfi, Canolbarth Cymru. Gwledig ar y tu allan, ac ymlaciol a chlyd tu mewn, fe amgylchynir Beudy Clygo gan fywyd gwyllt, tir fferm a mynyddoedd mawreddog De Eryri. Mae'r bwthyn wedi ei leoli rhwng trefi marchnad Machynlleth a Dolgellau, ac mae llawer o opsiynau i fynd am dro o garreg eich drws. Mae tafarn o fewn milltir yn y pentref cyfagos a dim ond taith fer sydd i'r traeth yn Aberdyfi.

Llawr Gwaelod
Y Gegin / Ardal Eistedd / Bwyta: Mae’r gegin yn rhan o’r ystafell agored ac felly ni fydd y cogydd yn teimlo'n unig, ac mae digon o sosbenni ar gael. Mae yna hefyd ffwrn-ddwbl drydanol, micro-don, oergell/rewgell fawr, peiriant golchi sydd â sychwr dillad yn rhan ohono, a pheiriant coffi.

Mae’r bwrdd ger y ffenestr yn yr ystafell fwyta er mwyn edmygu rhyfeddodau natur dros bryd o fwyd cartref. Mae ardal i eistedd ac ymlacio gyda gwres o dan y llawr yno, a theledu gyda’r pecyn Sky sylfaenol a chwaraewr DVD (mae amrywiaeth o DVDs ar gael os yw ymwelwyr yn anghofio eu rhai hwy).

Ystafell twin gyda chwpwrdd dillad, cist ddroriau a droriau gyda lamp rhwng y ddau wely. Mae thermostat gwresogi ar wahân i’r ystafell hon.

Ystafell ymolchi mewn man cyfleus drws nesaf i’r ystafell wely twin ar y llawr gwaelod. Mae baddon a chawod ynddi gyda sgrin gawod wydr, basn a thoiled, a rheiliau tywel wedi’u gwresogi’n drydanol.

Y Llawr Cyntaf
Y Brif Ystafell Wely - Prif ystafell wely eang gyda gwely maint 'king' cyfoes â ffrâm haearn. To bwaog. Mae gan yr ystafell un cwpwrdd dillad a bwrdd ymbincio gyda stôl ac mae droriau bob ochr i'r gwely. Mae ffenestri velux (gyda bleindiau) ar y to bob ochr i’r gwely er mwyn cael golau naturiol yn yr ystafell.

Gardd
Mae’r ardal batio breifat yn berffaith er mwyn edmygu’r cefn gwlad hardd a synau natur o’ch cwmpas. Gallwch ddisgwyl gweld tylluanod gwyn, barcutiaid coch a chnocellod y coed yn aml. Plannwyd coed derw gerllaw yn y blynyddoedd diweddar. Golygfeydd heddychlon o dir fferm a defaid yn pori.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Caiff dillad gwely a thywelion llaw a baddon eu darparu.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Digonedd o lefydd parcio preifat
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
  • Wi-Fi yn gynwysedig
  • Mae’r llety hunan arlwyo hwn yn cynnig gwyliau byr drwy gydol y flwyddyn.

Lleoliad

Mae’r llety croesawgar hunan-ddarpar hwn yng Nghanolbarth Cymru, wedi ei leoli lawr heol breifat ac o fewn tir preifat ei hun. Mae ar dir fferm organig a does dim tai yn weladwy o’r bwthyn, dim ond gwyrddni hardd cefn gwlad.

1 milltir o bentref Cemaes (tafarn/bwyty traddodiadol), 2.5 milltir o Glantwymyn (siop fach a swyddfa bost) a 4 milltir o Fallwyd (tafarn / bwyty, caffi a garej). Wedi ei leoli rhwng y trefydd marchnad Machynlleth (8 milltir) a Dolgellau (15 milltir) mae’n cynnig man dechrau gwych er mwyn mynd allan i fwynhau awyr iach Canolbarth Cymru, De Eryri a Bae Ceredigion.

Mwynhewch sawl taith gerdded yn Nyffryn Dyfi ac ymhellach, taith ar y trên stem, rownd o golff a llwybrau beicio mynydd sy’n enwog drwy’r byd, gan gynnwys Canolfan Coed y Brenin sy’n agos at Ddolgellau. Mae’r llety clyd hwn yng Nghanolbarth Cymru hefyd ond taith fer i ffwrdd o draethau tywodlyd Aberdyfi (19 milltir) ac Ynys Las, golygfeydd gwych mynyddoedd Eryri ac hefyd llawer o atyniadau lleol. Mae’r rhain yn cynnwys Canolfan y Dechnoleg Amgen, amryw o gestyll hynafol fel Safle Treftadaeth y Byd yn Harlech, Gwarchodfa Natur Ynys Hir, Labrinth y Brenin Arthur a Chanolfan Grefft Corris.

Cerdded

Llwybr Glyndŵr – llwybr troed pellter hir yng Nghanolbarth Cymru a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. Mae modd cael gafael ar fapiau a chanllawiau yng Nghanolfan Groeso Machynlleth. Ymunwch â’r llwybr 2 filltir o’r bwthyn.

Llwybr Dyfryn Dyfi – mae’r llwybr hwn yn dilyn yr Afon Ddyfi o’r aber yn Aberdyfi hyd at y tarddiad ar gopa’r Aran Fawddwy ac yn ôl i lawr ar hyd ochr ddeheuol yr afon trwy Fachynlleth a lawr hyd at Borth. Mae modd cael gafael ar fapiau a chanllawiau yng Nghanolfan Groeso Machynlleth. Gallwch ymuno â’r llwybr 1 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Mawddach – addas ar gyfer pob oed – cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn. 15 milltir.

Llwybr Cynwch – Dolgellau – addas i bob oed. 15 milltir o’r bwthyn

Cader Idris (mynydd Eryri) – 3 prif lwybr yn dechrau o Ddolgellau (15 milltir), Minffordd (15 milltir) ac Abergynolwyn (21 milltir).

Beicio

Beicio Mynydd Dyfi – Mae pob llwybr yn dechrau o Fachynlleth. 8 milltir.

Llwybr Mawddach – fel uchod

Canolfan Feicio Mynydd Coed y Brenin – llwybrau addas i bob oedran. 21 milltir.

Afon Efyrnwy – cylchffordd 12 milltir rownd Afon Efyrnwy. Addas i’r teulu cyfan. 20 milltir.

Chwaraeon Dŵr

Mae chwaraeon dŵr yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, hwylfyrddio, hwylio, canŵio, pysgota a thripiau cwch. 19 milltir.

Clwb Hwylio Clywedog – Llyn 6 milltir, agored i bob math o grefftau dŵr di-bŵer. 19 milltir.

Llyn Efyrnwy – Canŵio, caiac, hwylio a hwylfyrddio – addas i’r teulu cyfan. 20 milltir.

Pysgota

Afon Dyfi (0.5 milltir) - cynnig pysgota gwych ac yn enwog am ei frithyll, eog a brithyll y môr. Mae modd prynu trwydded yn y Swyddfa Bost lleol yng Nglantwymyn, 2.5 milltir i ffwrdd.

Golff

Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll. 8 milltir.

Clwb Golff Aberdyfi – cwrs golff 18 twll. 19 milltir.