Degwm

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £488 yr wythnos
  • £70 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Dringo
  • Beicio
  • Pysgota

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Dyma fwthyn hyfryd sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar, ym mhentref bach tawel Llanwrin yng nghanol Dyffryn Dyfi. Mewn safle godidog a thawel, mae ganddo ei ardd amgaeedig ei hun. Dim ond 3.5 milltir o dref farchnad Machynlleth (prifddinas hynafol Cymru) ac o fewn 10 milltir i draethau tywod hyfryd, mynyddoedd Eryri a llawer mwy. Dyma leoliad arbennig i archwilio Canolbarth Cymru, gydag amrywiaeth o atyniadau a digonedd o fwytai, caffis a thafarndai gerllaw.


Llawr Gwaelod

Ystafell fyw – Ystafell fyw fawr, cynllun agored gyda digon o olau naturiol, sy’n cynnwys nenfwd bwaog, sydd oll yn creu gwir ymdeimlad o ymlacio. Mae gan yr ysgubor wres o dan y llawr drwyddo draw, trawstiau derw nenfforch o’r 18fed ganrif a drysau Ffrengig sy’n agor i’r ardd.

Lolfa – Yn y lolfa, mae man eistedd cyfforddus sy’n cynnwys teledu 40 modfedd gyda Freeview a bwrdd coffi.

Cegin ac Ystafell Fwyta – Mae popeth sydd ei angen arnoch chi i gael yn y gegin. Mae steil gwledig i’r unedau, ac mae peiriant golchi llestri, ffwrn a hob a pheiriant golchi dillad. Mae microdon, oergell/rhewgell, tegell, cyllyll a ffyrc a sosbenni hefyd. Mae’r bwrdd bwyta’n edrych allan ar yr ardd breifat.

Prif Ystafell Wely – Ystafell fawr gyda gwely mawr iawn. Mae’r ystafell yn cynnwys dau gwpwrdd dillad a dresel.

Ystafell wely 2 – Gwely mawr iawn sy’n gallu newid yn ddau wely sengl ar gais*. Mae’r ystafell hon yn edrych allan ar yr ardd ac mae’n cynnwys cwpwrdd dillad a dresel a theledu 24’’ gyda chwaraewr DVD yn rhan ohono.

Gardd

Gardd breifat amgaeedig gyda bwrdd picnic a chyfleuster barbeciw.

Gwybodaeth Ychwanegol

·         Bydd pecyn i’ch croesawu, a fydd yn cynnwys cacen, te a choffi, siwgr a llaeth.

·         Mae’r gwres a’r trydan yn gynwysedig.

·         Darperir dillad gwely a thyweli bach a mawr.

·         *Nodwch wrth archebu a hoffech i Ystafell Wely 2 gael ei threfnu fel dau wely sengl 2.6 troedfedd o led yn hytrach nag un gwely mawr iawn.

·         Darperir 1 sychwr gwallt.

·         Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu yn y bwthyn.

·         Mae Wi-fi ar gael.

·         Cyfleusterau smwddio.

·         Digon o le parcio preifat.

·         Mae’r eitemau eraill a ddarperir yn cynnwys:

o    Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestr/tabledi peiriant golchi llestri, cadachau llestri a/neu sgwrwyr newydd, ffoil a glynlen/cling ffilm.

o    Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn o bapur ym mhob tŷ bach.

o    Cynnyrch glanhau cyffredinol: cannydd, glanhawr cawod, hylif gwrthfacterol ac ati.

Lleoliad

Mae’r ysgubor hon sydd newydd ei haddasu mewn lleoliad heddychlon ym mhentref bach a thawel Llanwrin ar gyrion Machynlleth. Mae wedi’i lleoli yng nghanol Dyffryn Dyfi, a dyma le gwych a chanolog i fynd i grwydro’r Canolbarth, y Gogledd a Gorllewin Cymru gyda’u hamrywiaeth eang o atyniadau.

Gelwir tref farchnad hanesyddol Machynlleth (3.5 milltir) yn brifddinas hynafol Cymru. Mae yno ddigonedd o siopau arbennig, bwytai, caffis a bwytai bwyd parod ynghyd ag amrywiaeth o gyfleusterau fel archfarchnadoedd, modurdai, banciau ac ati. Mae hefyd yn gartref i’r farchnad stryd hynaf ym Mhrydain a gynhelir bob dydd Mercher, ac i MOMA Cymru, canolfan sy’n arddangos celf modern Cymru. Ymysg y lleoedd gorau i fwyta yn yr ardal mae Bistro Number Twenty One a’r Wynnstay ym Machynlleth, Glan yr Afon ac Y Garth ym Mhennal (5 milltir), a’r Brigands Inn ym Mallwyd (8.5 milltir). Mae tafarndai lleol da hefyd, gan gynnwys y Llew Gwyn ym Machynlleth sydd â detholiad da o gwrw lleol.

Mae’r bwthyn yn agos at draethau hardd a thref brifysgol Aberystwyth, a dyma’r lle delfrydol i ymweld ag atyniadau rhyfeddol Parc Cenedlaethol Eryri ac arfordir Ceredigion. Mae rhai o’r prif atyniadau yn yr ardal yn cynnwys Gwarchodfa Natur Cors Dyfi a Gwarchodfa RSPB Ynys-hir, Prosiect Gweilch y Dyfi, Canolfan y Dechnoleg Amgen a Labrinth y Brenin Arthur (antur tanddaearol). Gallwn argymell ddiwrnodau allan eraill, gan gynnwys Saethu Clai Dyffryn Dyfi, Falconry Experience Wales, Rheilffordd Stêm Tal-y-llyn a nifer o lwybrau cerdded â golygfeydd i bob cyfeiriad. Os hoffech roi cynnig ar rywbeth hollol newydd, beth am fentro i Flaenau Ffestiniog i fynd ar y wifren sip neu antur Bounce Below?

Cerdded

  • Mae Llwybr Dyffryn Dyfi yn dilyn afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi i’r ffynhonnell ar gopa Aran Fawddwy ac yn ôl ar hyd ochr ddeheuol yr afon drwy Fachynlleth ac i lawr i Borth. Ymunwch â’r llwybr yn Ffriddgate. 2.4 milltir.
  • Llwybr Glyndŵr – llwybr troed hir yng Nghanolbarth Cymru a gafodd y statws Llwybr Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. Ymunwch â’r llwybr yng Nglantwymyn. 2.7 milltir.
  • Cadair Idris (mynydd) – 3 prif lwybr yn dechrau o Finffordd (10 milltir), Abergynolwyn (13 milltir) a Dolgellau (17 milltir).

Beicio

  • Beicio Mynydd y Dyfi – 4 llwybr cylchol y gallwch ymuno â nhw ym Machynlleth – llwybr beicio o Ffriddgate i Fachynlleth. 2.4 milltir.
  • Llwybr Mawddach – Addas i bobl o bob oedran. Perffaith ar gyfer beicio a cherdded, a hefyd yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Dolgellau (17 milltir) i Abermo.
  • Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau sy’n addas i bob oed. 24 milltir.

Pysgota

  • Mae afon Dyfi yn cynnig pysgota rhagorol ac mae’n enwog am ei brithyll brown, eog a brithyll y môr. Mae angen trwydded. 0.5 milltir.
  • Pysgota ar y môr yn Aberdyfi (12 milltir) ac Aberystwyth (22 milltir)

Golff

  • Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff naw twll. 3.5 milltir.
  • Clwb Golff Aberdyfi – cwrs golff 18 twll. 12 milltir.

Traethau

  • Aberdyfi – Traeth tywod hir ar ochr ogleddol aber afon Dyfi. Pentref glan y môr hyfryd gyda digonedd o gaffis, siopau a bwytai. 12 milltir.
  • Ynyslas – Traeth hyfryd ar ochr ddeheuol aber afon Dyfi, gyda thwyni tywod yn gefndir iddo. Caffi a lle parcio ar y traeth. 17 milltir.

Chwaraeon dŵr

Marchogaeth

  • Mae gan Ganolfan Farchogaeth Rheidol arenâu maint llawn wedi’u goleuo dda, yn yr awyr agored ac o dan do, ynghyd â chwrs neidio a thraws gwlad, a theithiau marchogaeth gwych o gwmpas Dyffryn Rheidol. 22 milltir.