- £1,141 yr wythnos
- £163 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Llety hunan ddarpar helaeth gyda twb poeth, wedi ei leoli o fewn 7 acer o erddi a choetir preifat. Diarffordd a heddychlon, ond eto mewn safle cyfleus iawn, yn agos i dref farchnad Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru. Yn dyddio nol i'r 16eg ganrif, mae'r tŷ llawn cymeriad hwn yn cynnig cysur a steil, gyda dwy stôf goed a nifer o nodweddion unigryw. Y lleoliad perffaith i ymlacio. Hanner milltir i'r pentref agosaf lle ceir tafarn/bwyty gwych, ac yn agos i Eryri, traethau hardd ac atyniadau niferus.
Llawr Gwaelod
Cyntedd eang gyda teils llechi ar y llawr, mainc i eistedd, lle i hongian cotiau a silffoedd ar gyfer hetiau ac yn y blaen.
Cegin/Ystafell fwyta - ystafell fawr 30 troedfedd ar ddwy lefel gyda llawr teils. Mae'r gegin yn cynnwys hob anwytho, popty dwbwl a meicrodon, oergell/rhewgell fawr, peiriant golchi llestri, peiriant sychu dillad a bar brecwast. Wyneb gweithio eang lle lleolir y tegell, tostiwr ayb. Sosbannau a photiau o ansawdd uchel a set o gyllyll cegin.
O fewn yr ardal fwyta fe geir dreser Gymreig a lle tân eang gyda stôf losgi coed. Mae'r bwrdd bwyta gyda lle i 10 eistedd, wedi ei leoli o flaen ffenestr fawr ac mae'n edrych allan dros ardd ffrynt y llety. Mae 3 cadair esmwyth yn rhoi lle i ymlacio tra'n gwrando ar y system sain Bose gyda Bluetooth. Mae yma hefyd ddesg ysgrifennu gydag amrywiaeth o lyfrau addysgiadol a thaflenni gwybodaeth ymwelwyr.
Ystafell wely 1 - gwely maint king (neu dau wely sengl os dymunir), gyda cwpwrdd dillad, byrddau bach ger y gwely, sychwr gwalt a dwy gadair gyfforddus, yn edrych allan dros yr ardd ffrynt.
Ystafell iwtiliti mewn adeilad cyfagos (yn agos iawn i'r drws ffrynt). Yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad, hongiwr dillad, lle i storio beiciau ac offer chwaraeon.
Llawr cyntaf
Lolfa - eang a chyfforddus gyda soffas a chadeiriau, stôf losgi coed, yn edrych allan dros yr ardd i ffrynt a chefn y tŷ. Teledu smart 50" gyda freesat a chwaraewr DVD, XBox 360 Kinect gyda gemau, amrywiaeth o DVDs, llyfrau a gemau bwrdd.
Ystafell wely 2 - ystafell hardd gyda gwely maint superking a baddon wedi ei leoli yn y ffenestr fawr yn edrych allan dros yr ardd a'r coetir. Shutters i'w cau pe bai angen! Cypyrddau bach wrth y gwely, cypyrddau dillad, cadeiriau esmwyth, sychwr gwallt a basn ymolchi.
Ystafell wely 3 - ystafell sengl gyda gwely maint dwbwl yn edrych allan dros yr ardd ffrynt. Silffoedd a lle i hongian dillad, bwrdd gwisgo a chadair.
Ystafell ymolchi - baddon mawr gyda cawod wlaw uwchben, basn a thoiled.
Toiled a basn arwahan.
Ail lawr
Ystafell wely 4 - ceir mynediad i fyny grisiau llawn cymeriad, gyda trawstiau agored. Yn cynnwys un gwely maint king ac un gwely sengl (neu dri gwely sengl os dymunir), teledu gyda chwaraewr DVD, cadeiriau cyfforddus a bwrdd, lle hongian dillad, cwpwrdd dillad a byrddau bach ger y gwely. Sedd yn y ffenestr yn edrych allan dros yr ardd ffrynt a ffenestri Velux yn edrych allan i'r cefn.
Gardd
Patios yn y ffrynt a'r cefn gyda twb poeth a barbaciw ar y patio cefn preifat. Gyda llygredd golau isel, mae'r llety hunan ddarpar hwn gyda cyfleusterau twb poeth hefyd yn cynnig y lleoliad delfrydol ar gyfer syllu ar y sêr ar nosweithiau clir.
Gerddi helaeth, ysblennydd a phreifat yn ymestyn i 7 acer. Yn cynnwys lawnt gydag offer chwarae plant (llithren, siglen, trampolîn, castell), patios a nifer o lwybrau yn arwain drwy'r ardd, heibio i byllau dŵr (rhaid cymeryd gofal gyda plant ifanc), aceri o goetir naturiol gyda clychau'r gôg, blodau gwyllt, borderi perlysiau, coed ffrwythau a chychod gwenyn. Nifer o adar gwyllt, gan gynnwys cnocell y coed, boda, a barcutiaid coch. Golygfeydd gwych o'r bryniau o gwmpas ac Aber yr Afon Ddyfi.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys cacen gartref, te a choffi, siwgwr a llaeth, pupur a halen ac olew olewydd
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 2 sychwr gwallt ar gael
- Côtiau baddon ar gael ar gyfer y twb poeth
- Cyflenwad cychwynol o goed ar gyfer pob lle tân. Coed ychwanegol ar gael ar y safle am gost o £10 y bag
- Wifi ar gael
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael. Dewch a'ch dillad eich hunain ar gyfer y cot
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
- Digon o lefydd parcio
- Co-op yw'r archfarchnad leol ac mae'n darparu ar gyfer eich holl anghenion groser (yn medru danfon i'r llety)
- Mae'r nwyddau canlynol yn gynwysedig:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol