Foel Fach

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £757 yr wythnos
  • £108 y noson
  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 17:00
  • Amser gadael: 09:00

Disgrifiad

Mwynhewch breifatrwydd llwyr a golygfeydd pellgyrhaeddol o gefn gwlad o’r encil hwn yng Nghanolbarth Cymru sy’n sefyll ar ei ben ei hun. Dyma’r lleoliad perffaith i gael llonydd mewn bwthyn lle gallwch ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd. Mae’n fan cychwyn gwych a chanolog i archwilio Canolbarth Cymru a thu hwnt, gyda’r A470 (y brif ffordd sy’n cysylltu Gogledd a De Cymru) ddim ond milltir i ffwrdd. Ond gan fod gennych eich peiriant coffi eich hun, dwy stôf llosgi coed, tawelwch a golygfeydd eithriadol o’ch cwmpas, efallai y byddai’n well gennych eistedd yn ôl, ymlacio a gwneud dim byd o gwbl. 

Dim grwpiau mawr o’r un rhyw yn ddieithriad. Teuluoedd, ffrindiau a chyplau yn unig.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw – ystafell fawr, sydd hefyd yn cynnwys cegin fach, gyda gwres o dan y llawr a drysau patio’n agor i olygfeydd trawiadol o gefn gwlad. Seddi cyfforddus o flaen simdde fawr â thrawstiau derw, gyda stôf llosgi coed groesawgar, teledu a chwaraewr DVD. Nenfwd uchel a waliau cerrig noeth – ystafell hyfryd i fwynhau amser gwerthfawr gyda’ch partner, eich teulu neu’ch ffrindiau.

Cegin ac ystafell fwyta – ystafell fawr â thrawstiau derw a llawr o lechi Cymreig. Y bwrdd bwyta yw canolbwynt yr ystafell. Mae o flaen simdde fawr hyfryd arall a stôf llosgi coed, ac mae ffenestr fawr yn edrych draw dros y dyffryn. Ym mhen pellaf yr ystafell, mae cegin gyda’r holl gyfarpar y byddech yn ei ddisgwyl, fel hob trydan, ffwrn drydan, oergell a microdon.

Ystafell iwtiliti ganolog yn cynnwys peiriant golchi dillad a pheiriant sychu dillad, rhesel sychu dillad, peiriant golchi llestri a rhewgell ar ben bwrdd.

Ystafell gawod ar y llawr gwaelod gyda chawod ddwbl, tŷ bach, basn ymolchi, pwynt siafio a rheilen cynhesu tyweli.

Llawr Cyntaf

Prif ystafell wely gyda gwely mawr iawn, dillad gwely moethus a golygfeydd hyfryd o gefn gwlad. Drych mawr, printiau gan yr artist lleol Ian Phillips, cadair, byrddau a lampau wrth ochr y gwely, a chypyrddau dillad wedi’u gosod ar ben y grisiau.

Ystafell wely ddwbl hefyd â golygfeydd anhygoel o gefn gwlad. Cist ddillad gyda drych uwch ei phen, printiau gan Ian Phillips, cadair a chypyrddau wrth ochr y gwely a lampau arnynt. Cwpwrdd dillad wedi’i osod ar ben y grisiau.  

Ystafell wely sengl gyda gwely ffrâm derw, cwpwrdd wrth ochr y gwely, lamp a chadair. Mae golygfeydd ardderchog o gefn gwlad o’r ystafell hon hefyd. 

Mae’r ystafell wely i fyny’r grisiau yn cynnwys bath a chawod uwch ei ben, tŷ bach a basn ymolchi. Mae drych gyda golau a phwynt siafio hefyd.

Gardd

Ardal â lawnt ac ardal batio fawr gyda bwrdd bwyta a chadeiriau i fwyta y tu allan, a set barbeciw. Ac, wrth gwrs, golygfa wych. Nid oes lle gwell i gael gwyliau mewn bwthyn diarffordd.

*Dewch â’ch siarcol eich hunan ar gyfer y barbeciw os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
  • Darperir 3 sychwr gwallt.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Mae’r fasged gyntaf o goed am ddim. Mae coed ychwanegol ar gael hefyd am £5 y fasged.
  • Wi-fi ar gael.
  • Bydd pecyn i’ch croesawu, yn cynnwys te a choffi, siwgr, llaeth, cacen gartref a wyau. Gadewch inni wybod os ydych chi’n dathlu achlysur arbennig a byddwn hefyd yn cynnwys rhodd ychwanegol.
  • Mae cot teithio a chadair uchel ar gael ar gais. Dewch â’ch matres a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot, os gwelwch yn dda.
  • Darperir haearn a bwrdd smwddio.
  • Gall y ffôn yn y tŷ dderbyn galwadau allanol. Darperir y rhif gyda’r manylion sy’n cadarnhau’r archeb.
  • Nodwch oedran unrhyw blant sydd yn eich parti wrth archebu os gwelwch yn dda.
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu yn ddieithriad - os y bydd anifeiliaid anwes yn cael eu darganfod yn neu o gwmpas y bwthyn, mi fydd gofyn i chi adael heb ad-daliad.
  • Digon o le parcio.
  • Mae Tesco yn dosbarthu bwyd i’r llety hwn.

Lleoliad

Mae’r encil hardd hwn yng Nghanolbarth Cymru yn sefyll ar ei ben ei hun, ac mae’n cynnig preifatrwydd llwyr a golygfeydd anhygoel o gefn gwlad. Gyda holl fanteision gwyliau bwthyn diarffordd, mae hefyd mynediad da i Foel Fach, gan ei fod 1.1 milltir yn unig o’r A470, sef y brif ffordd sy’n cysylltu Gogledd a De Cymru. Mae perchnogion y bwthyn yn byw ar fferm sydd llai na hanner milltir i lawr y ffordd o’ch bwthyn, a nhw sy’n berchen ar y tir fferm amgylchynol.

Mae mewn man canolog i bentrefi Llanbrynmair (3 milltir) a phentref Carno (3 milltir) a oedd yn gartref i Laura Ashley, lle mae cyfleusterau da. Mae gan Lanbrynmair siop, tafarn, parc chwarae a chanolfan ymwelwyr unigryw o’r enw Machinations sy’n gartref i’r unig arddangosfa barhaol o awtomata (modelau symudol mecanyddol) cyfoes yn y DU. Yn y cyfeiriad arall, mae gan Carno siop leol dda, swyddfa’r post a thafarn sy’n enwog am ei bwyd. Argymhellir y Penrhos Arms yng Nghemaes hefyd (9 milltir), Wynnstay a Bistro Number Twenty One ym Machynlleth (13 milltir).

Mae pentref Caersws, sydd ychydig yn fwy, hefyd o fewn 10 milltir, ac yno cewch amrywiaeth eang o gyfleusterau: o siopau a thafarndai, i siop sglodion, garej a gorsaf reilffordd gyda chysylltiadau ar draws Cymru a thu hwnt. Mae trefi marchnad dymunol Machynlleth (13 milltir), y Drenewydd (16 milltir) a Llanidloes (17 milltir) yn cynnig nifer o siopau unigryw ac annibynnol, marchnadoedd gwledig da, caffis ac ati. Mae gan y Drenewydd hefyd theatr leol dda a sinema draddiadol.

Mae atyniadau poblogaidd yr ardal yn cynnwys barcutiaid coch, Fforest Hafren, Cronfa ac Argae Clywedog, Parc Cenedlaethol Eryri (13 milltir), y fferm wynt fwyaf yn Ewrop a Chanolfan y Dechnoleg Amgen (14 milltir). Ymysg y gweithgareddau mwyaf poblogaidd yn yr ardal mae’r ysgol rali Forest Experience yng Ngharno ac o fewn ychydig filltiroedd, mae cyfleusterau merlota, beicio cwad, golff, beicio, saethu colomenod clai, rheilffyrdd cul, gwylio adar, cerdded, hwylio a physgota. Mae traethau hyfryd o fewn cyrraedd hawdd yn Aberdyfi a Borth (tua 40 munud).

Cerdded

  • Teithau cerdded hardd o amgylch tir y fferm – o stepen eich drws.
  • Mae Llwybr Glyndŵr yn llwybr hir o Ganolbarth Cymru, a chafodd statws Llwybr Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. 2 filltir o’r bwthyn.
  • Aran Fawddwy (18 milltir) a Chadair Idris (24 milltir) yw’r mynyddoedd agosaf yn Eryri os ydych chi’n dymuno anelu’n uchel.

Pysgota

  • Afon Twymyn: £10 y diwrnod. Mae trwyddedau ar gael yn Llanbrynmair (01650 521385). 3 milltir.
  • Llyn Clywedog ger Penffordd-las: £16 y dydd. Mae trwyddedau ar gael o Fodurdy Reeds ym Machynlleth, neu’r siop bapur newydd y drws nesaf i’r Spar yn Llanidloes, neu’r siop offer pysgota yn y Drenewydd. 13 milltir i’r llyn.

Golff

  • Cwrs Golff Maesmawr – cwrs golff â 9 twll a maes ymarfer golff ag 16 bae. 11 milltir.
  • Cwrs Golff Machynlleth – cwrs golff â 9 twll. 13 milltir.

Beicio

  • Beicio Mynydd Dyfi – Pob llwybr yn dechrau o Fachynlleth. 13 milltir.
  • Llwybr Fforest Hafren – Amrywiaeth o lwybrau sy’n addas i feicwyr y tu allan i dref Llanidloes. 17 milltir.

Chwaraeon Dŵr

  • Clwb Hwylio Clywedog – llyn 6 milltir, sy’n agored i bob math o gychod di-bŵer, o ganŵs a byrddau hwylio i dingis, criwserau a chelfadau (cruisers a keelboats). 15.5 milltir.