- £1,389 yr wythnos
- £198 y noson
- 10 Guests
- 5 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r afon
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 4 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 4 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Cartref trawiadol sy’n berffaith ar gyfer grwpiau mawr ac aduniadau teuluol. Tŷ pâr gyda chyfleusterau twb poeth, stôf goed, golygfeydd anhygoel, ac mewn lleoliad hynod gyfleus. O fewn pellter cerdded i fwyty/tafarn bentref a thref farchnad Machynlleth (prifddinas hynafol Cymru), ac o fewn 10 milltir i draethau hardd, Parc Cenedlaethol Eryri a llawer mwy.
Llawr gwaelod
Cegin deuluol helaeth gydag unedau modern, popty trydan mawr, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell a pheiriant golchi dillad. Mynediad cyfleus i’r tu allan gyda lle i eistedd, ardal barbaciw a twb poeth.
Ystafell fwyta gyda bwrdd derw mawr a chadeiriau i 10, wedi ei leoli o flaen ffenestr sy’n gwneud y mwyaf o’r golygfeydd godidog. Llyfrgell gyda dewis o lyfrau, mapiau a gemau ar gyfer plant ac oedolion.
Lolfa groesawus gyda ffenestr fawr arall, stôf goed a theledu 50” gyda ‘freeview’ a chwaraewr DVD. Dwy soffa ledr, bwrdd coffi isel a llawr pren.
Ystafell gotiau gyda toiled.
Llawr Cyntaf
Tair llofft ddwbl, i gyd gyda teledu ar y wal, cwpwrdd dillad, bwrdd gwisgo gyda stol, a set o droriau. Tywelion a sebon Cymreig, sydd wedi ei wneud yn lleol, ym mhob llofft.
Llofft 1 - Ystafell helaeth gyda gwely maint king, en-suite gyda cawod a thoiled. Golygfeydd o’r ardd gefn
Llofft 2 - Llofft fawr gyfforddus gyda gwely maint king, en-suite gyda cawod a thoiled, a golygfeydd anhygoel i lawr yr afon Ddyfi
Llofft 3 - Llofft ddwbl hardd gyda’r un olygfa â llofft 2
Ystafell ymolchi deuluol - bath Spa modern lle gellir ymlacio a chawod uwchben, basn a thoiled
Ail Lawr
Ardal eang gyda teganau i blant, bwrdd a chadeiriau
Llofft 4 a 5 - dwy ystafell yn yr atig, y ddwy wedi eu gosod allan gyda dau qwely sengl. Gellir newid y ddau wely sengl hyn i fod yn wely maint king os dymunir. Gadewch i ni wybod ymlaen llaw os mai dyna beth yw eich dewis
Gardd
Wedi ei amgylchynu gan dir a gerddi mae’r llety hardd hwn yn cynnig y lleoliad delfrydol i ymlacio a mwynhau golygfeydd o’r afon Ddyfi. Ceir dodrefn gardd ar gyfer 10 o westeion, barbaciw nwy a twb poeth. Lawnt gaeedig gyda rhai teganau tu allan.
Mae’r ardd ffrynt helaeth ar fwy nag un lefel, sydd yn gweddu yn naturiol i’r tirwedd anhygoel.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys cacennau cartref a chyflenwad cychwynnol o goffi, te, siwgr, llaeth, olew yr olewydd, a perlysiau sych
- Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
- Mae'r llety hwn gyda cyflenwad dwr ei hun sy'n cael ei brofi a'i ffiltro
- Darperir dillad gwelyau, tywelion llaw a bath
- 3 sychwr gwallt ar gael
- Coed ar gyfer y stôf dân, a nwy ar gyfer y Barbaciw yn gynwysedig, yn rhad ac am ddim
- Sgrîn dân ar gael os oes gennych blant ifanc yn eich grŵp
- Cot teithio, cadair uchel a gât i’r staer ar gael. Rhaid dod â dillad eich hun i’r cot
- Tabledi i’r peiriant golchi llestri ac offer glanhau sylfaenol ar gael
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
- Man parcio preifat ar gyfer hyd at 5 car
- Garej gyda clo ar gyfer beiciau
- Co-op yw’r archfarchnad lleol sydd yn darparu ar gyfer eich holl anghenion bwyd